Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) CwmnÏau 1999 © Crown Copyright 1999 Statutory Instruments printed from this website are printed under the superintendence and authority of the Controller of HMSO being the Queen's Printer of Acts of Parliament. The legislation contained on this web site is subject to Crown Copyright protection. It may be reproduced free of charge provided that it is reproduced accurately and that the source and copyright status of the material is made evident to users. It should be noted that the right to reproduce the text of Statutory Instruments does not extend to the Queen's Printer imprints which should be removed from any copies of the Statutory Instrument which are issued or made available to the public. This includes reproduction of the Statutory Instrument on the Internet and on intranet sites. The Royal Arms may be reproduced only where they are an integral part of the original document. The text of this Internet version of the Statutory Instrument which is published by the Queen's Printer of Acts of Parliament has been prepared to reflect the text as it was Made. A print version is also available and is published by The Stationery Office Limited as the Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) CwmnÏau 1999 , ISBN 0 11 515467 1. The print version may be purchased by clicking here. Braille copies of this Statutory Instrument can also be purchased at the same price as the print edition by contacting TSO Customer Services on 0870 600 5522 or e-mail:customer.services@tso.co.uk. Further information about the publication of legislation on this website can be found by referring to the Frequently Asked Questions. To ensure fast access over slow connections, large documents have been segmented into "chunks". Where you see a "continue" button at the bottom of the page of text, this indicates that there is another chunk of text available.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol, o ymarfer â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 88(2), 288(2), 363(2) a 744[1] o Ddeddf Cwmnïau 1985[2], fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993[3], ynghyd â phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, trwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: 1. Gellir dyfynnu'r Rheoliadau hyn fel Rheoliadau (Diwygio) (Ffurflenni Cymraeg) Cwmnâau 1999, a deuant i rym ar 13 Medi 1999. 2. Mae ffurflenni 88(2) CYM, 288b CYM a 363 CYM a welir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, gyda'r amrywiadau hynny y bydd amgylchiadau'n peri bod eu hangen, yn ffurflenni sydd wedi eu pennu at ddibenion adrannau 88(2), 288(2) a 363(2) o Ddeddf Cwmnâau 1985 yn ôl eu trefn. 3. - (1) Ac eithrio i'r graddau a nodwyd o dan baragraff (2), diddymir ffurflenni 288b CYM a 363 CYM yn yr Atodlen i Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni a Dogfenni Cymraeg) Cwmnïau 1995[4]. (2) Er gwaethaf paragraff (1), gellir parhau i ddefnyddio'r ffurflenni a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw yng nghyswllt hysbysiad neu ffurflen flynyddol a gyflwynir i'r Cofrestrydd cyn 13 Medi 2000. J. S. Holden ar ran yr Ysgrifennydd GwladolAdran Masnach a Diwydiant 17 Awst 1999 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurflen newydd 88(2) CYM at ddibenion adran 88(2) o Ddeddf Cwmnïau 1985, a ffurflenni diwygiedig 288b CYM a 363 CYM at ddibenion adrannau 288(2) a 363(2) o'r Ddeddf honno yn eu trefn, gan ddod i rym o 13 Medi 1999 ymlaen; mae'r ffurflenni yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r Rheoliadau hefyd yn diddymu ffurflenni presennol 288b CYM a 363 CYM a gafodd eu pennu gan Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni a Dogfenni Cymraeg) Cwmnïau 1995. Ond caniateir parhau i ddefnyddio'r ffurflenni hynny a ddiddymir am gyfnod trosiannol o 12 mis. Mae ffurflen 88(2) CYM yn cyfateb i ffurflen ddiwygiedig 88(2) a gafodd ei phennu gan Reoliadau (Diwygio) (Ffurflenni) Cwmnïau 1999 (O.S. 1999/2356). Diwygir ffurflen 288b CYM i ddileu'r cofnod ynglŷn â'r rheswm dros derfynu penodiad cyfarwyddwr neu ysgrifennydd, ond mae'n cael ei haileirio i'w gwneud yn glir y gall penodiad ddod i ben mewn ffordd arall ar wahân i ymddeol (byddai gwaharddiad neu ddiswyddo yn enghreifftiau). Mae'r ffurflen yn cyfateb i ffurflen 288b a gafodd ei phennu gan O.S. 1999/2356. Diwygir ffurflen 363 CYM i adlewyrchu dileu darpariaethau arbennig yn adran 364 o Ddeddf Cwmnïau 1985 (sy'n rhagnodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y ffurflen flynyddol a gyflwynir o dan adran 363), ac mae'n cyfateb i ffurflen 363a a gafodd ei phennu gan O.S. 1999/2356. Gweithredir y dileu hwnnw, gan ddod i rym o 13 Medi 1999 ymlaen, gan Reoliadau (Cynnwys Ffurflen Flynyddol) Cwmnïau 1999 (O.S. 1999/2322), sy'n cael gwared ar y gofynion i gwmnïau restru safleoedd eraill fel cyfarwyddwr a chyn-enwau cyfarwyddwyr unigol, a safleoedd eraill fel cyfarwyddwr a ddelir gan gyfarwyddwyr corfforaethol, ynghyd â'r rheidrwydd i gwmnïau preifat ddweud a oes penderfyniadau mewn grym i alluogi'r cwmni i roi heibio'r angen am osod cyfrifon ac adroddiadau gerbron y cwmni mewn cyfarfod cyffredinol, neu i roi heibio'r angen am gynnal cyfarfodydd cyffredinol blynyddol. Diwygir hefyd lunwedd y manylion ar gyfer cyfalaf cyfrannau a chyfranddalwyr. Notes: [1] Gweler diffiniad "pennu" yn adran 744.back [2] 1985 c. 6; disodlwyd adran 363 gan adran 139(1) o Ddeddf Gwmnau 1989 (c. 40)back
ISBN 0 11 515467 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1999 | Prepared 6 September 1999 |