The Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) (Welsh Form and Particulars) Regulations 1998 © Crown Copyright 1998 Statutory Instruments printed from this website are printed under the superintendence and authority of the Controller of HMSO being the Queen's Printer of Acts of Parliament. The legislation contained on this web site is subject to Crown Copyright protection. It may be reproduced free of charge provided that it is reproduced accurately and that the source and copyright status of the material is made evident to users. It should be noted that the right to reproduce the text of Statutory Instruments does not extend to the Queen's Printer imprints which should be removed from any copies of the Statutory Instrument which are issued or made available to the public. This includes reproduction of the Statutory Instrument on the Internet and on intranet sites. The Royal Arms may be reproduced only where they are an integral part of the original document. The text of this Internet version of the Statutory Instrument which is published by the Queen's Printer of Acts of Parliament has been prepared to reflect the text as it was Made. A print version is also available and is published by The Stationery Office Limited as the The Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) (Welsh Form and Particulars) Regulations 1998 , ISBN 0 11 065975 9. The print version may be purchased by clicking here. Braille copies of this Statutory Instrument can also be purchased at the same price as the print edition by contacting TSO Customer Services on 0870 600 5522 or e-mail:customer.services@tso.co.uk. Further information about the publication of legislation on this website can be found by referring to the Frequently Asked Questions. To ensure fast access over slow connections, large documents have been segmented into "chunks". Where you see a "continue" button at the bottom of the page of text, this indicates that there is another chunk of text available.
The Secretary of State for Wales in exercise of the powers conferred on him by sections 2(2) and (4), 101[1] and 146(1) and (2) of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996[2] as extended by section 26(3) of the Welsh Language Act 1993[3] and of all other powers enabling him in that behalf, hereby makes the following Regulations: - Citation, commencement and interpretation 1. - (1) These Regulations may be cited as the Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) (Welsh Form and Particulars) Regulations 1998 and shall come into force on 1st April 1998. (2) In these Regulations "the principal Regulations" means the Housing Renewal Grants (Prescribed Form and Particulars) Regulations 1996[4]. Forms of application for grant 2. The form set out in the Schedule to these Regulations is hereby prescribed as a version in Welsh which may be used instead of the corresponding form in the Schedule to the principal Regulations for the purposes set out in regulation 2 of the principal Regulations. Particulars for application for grant 3. The particulars prescribed under section 2(2)(d) of the Housing Grants, Construction and Regeneration Act 1996 in respect of any application falling within regulation 2 are the particulars required for that application by the form set out in the Schedule. Application of Regulations 4. These Regulations shall not have effect in relation to applications for a grant made before 1st April 1998. Signed by authority of the Secretary of State for Wales Win Griffiths Parliamentary Under Secretary of State, Welsh Office 26th February 1998 Yn y cyfarwyddiadau hyn a'r ffurflen a'r nodiadau sydd ynghlwm wrthynt, ystyr "y Ddeddf" yw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio Tai 1996 ac, oni nodir fel arall, mae pob cyfeiriad at adrannau etc yn gyfeiriadau at adrannau etc yn y Ddeddf. Dyma'r ffurflen sydd i'w defnyddio os ydych yn gwneud un o'r ceisiadau canlyol - Grant atgyweirio
Grant cyfleusterau i'r anabl Rhan 1 Rhan 1 (contd.) Rhan 1 (contd.) Rhan 1 (contd.) Rhan 2 and 2A Rhan 2 and 2A (contd.) Rhan 2 and 2A (contd.) Rhan 2 and 2A (contd.) Rhan 2 and 2A (contd.) Rhan 2 and 2A (contd.) Rhan 2B Rhan 2B (contd.) Rhan 2B (contd.) Rhan 2B (contd.) Rhan 2B (contd.) Rhan 2C Rhan 2C (contd.) Rhan 2C (contd.) Rhan 3 Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 3 (contd.) Rhan 4 y Ddeddfyw Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ac, oni nodir fel arall, mae pob cyfeiriad at adrannau etc yn gyfeiriad at adrannau etc n y Ddeddf. 1. Os cwmni neu gorff tebyg yw'r ceisydd, rhowch y cyfeiriad swyddogol (cofrestredig). 2. Ni allwch wneud cais am grant oni bai eich bod yn 18 oed neu drosodd ar ddyddiad eich cais. Yn achos cyd-geiswyr, caiff unrhyw geisydd sydd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais ei hepgor. Gweler adran 3(1). 3. Ni chaniateir i'r Cyngor dalu grant i rywun sy'n "berson o wlad dramor" o fewn ystyr rheoliad 7A o'r Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1971 fel y'i diwygiwyd): rheoliad 3 o'r Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890). OS bu i chi ateb "Ydwyf" neu "Ydyw" i gwestiwn 1.3, ni ddylech fod yn gwneud cais am grant. Os na allwch ateb "Nac Ydwyf" neu "Nac ydyw" i'r cwestiwn hwn, peidiwch â mynd ymhellach gyda'r cais hwn. Gellir crynhoi rheoliad 7A o'r Rheoliadau Budd-daliadau Tai (Cyffredinol) 1987 fel a ganlyn: (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), "person o wlad dramor" yw person sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig a roddwyd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn rheolau mewnfudo'r Swyddfa Gartref mewn perthynas â'r canlynol:
(2) Nid yw "person o wlad dramor" yn cynnwys person -
(3) Mae "person o wlad dramor" yn cynnwys unrhyw berson, heblaw person y mae unrhyw un o is-baragraffau (c) i (g) paragraff (2) yn gymwys iddynt -
(ii) sy'n ffoadur, h.y., yn berson a gofnodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel ffoadur o fewn y diffiniad yn Erthygl 1 o'r Confensiwn ynglŷn â Statws Ffoaduriaid (Gorch.9171). (iii) y rhoddwyd caniatâd eithriadol iddynt aros yn y Deyrnas Unedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu (iv) sy'n dod o fewn paragraff (2)(b) unchod; neu (v) sy'n destun gorchymyn alltudio yn ei gwneud yn ofynnol iddo/iddi ymadael ac yn eu gwahardd rhag dod i mewn i'r Deyrnas Unedig, ac y gohiriwyd eu symud o'r Deyrnas Unedig yn ysgrifenedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol; neu (vi) y bernir gan yr awdurdodau mewnfudo eu bod yn fewnfudwr anghyfreithlon, na roddwyd caniatâd wedyn iddynt ddod i mewn nac aros yn y Deyrnas Unedig ond y caniatawyd iddynt aros yn y Deyrnas Unedig gyda chydsyniad ysgrifenedig yr Ysgrifennydd Gwladol; neu
4. Mae'r mwyafrif o'r amodau cymhwyso ar gyfer grant atgyweirio, grant cyfleusterau i'r anabl a grant tai mewn aml-ddaliadaeth yn cael eu hepgor mewn perthynas â thir llan neu dŷ preswyl bywoliaeth eglwysig: gweler adran 95. Nid oes hepgoriad tebyg o'r amodau cymhwyso ar gyfer grant rhannau cyffredin. Dylai cais landlord mewn perthynas â thŷ preswyl neu dir llan bywoliaeth eglwysig gael ei gyflwyno ar y ffurflen ar wahân ar gyfer ceisiadau landlordiaid, y gellir ei chael oddi wrth y Cyngor. 5. Annedd sy'n uned ar wahân yw fflat, ni waeth a yw ar yr un llawr neu beidio, wedi'i gwahanu'n llorweddol oddi wrth ryw ran arall o'r adeilad. 6. O dan adran 4, ni chaniateir i'r Cyngor ystyried cais am grant os cafodd yr eiddo ei adeiladu neu ei ddarparu trwy gyfrwng trosiad lai na 10 mlynedd yn ôl. Nid yw'r rheol gyffredinol hon yn gymwys lle bo'r cais yn gais am grant cyfleusterau i'r anabl. 7. Mae hysbysiad o dan adran 189 o Ddeddf Tai 1985 yn hysbysiad trwsio ar gyfer adeiladau sy'n anffit i bobl fyw ynddynt. Mae hysbysiad o dan adran 190 o Ddeddf 1985 yn hysbysiad trwsio ar gyfer adeiladau sydd, er eu bod yn ffit i bobl fyw ynddynt, ag angen trwsio sylweddol. Gellir cyflwyno hysbysiad adran 189 neu 190 yn pennu'r gwaith ar y rhannau cyffredin o adeilad i berson sy'n berchen ar y rhan honno o'r adeilad (neu'r adeilad cyfan) a ddylai, ym marn y Cyngor sy'n cyflwyno'r hysbysiad, gyflawni'r gwaith. 8. Rhowch fanylion pob cais blaenorol am grant yr ydych yn gwybod amdano, ac unrhyw gyfraniad a hysbyswyd o dan gynllun trwsio grŵp (os yw'n hysbys i chi). Soniwch hefyd am unrhyw gymorth mân waith a chymorth trwsio cartref yr ydych wedi'i gael. Gall cymeradwyaethau grant blaenorol effeithio ar y gwaith y gellir rhoi grant ar ei gyfer - a hefyd yn achos cymeradwyaethau blaenorol i geisiadau a wnaed gennych chi, a swm y grant sy'n daladwy. 9. Gall caniatâd cynllunio neu gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu fod yn ofynnol neu beidio. Os nad ydych yn sicr a oes angen caniatâd neu gymeradwyaeth, cysylltwch â'r adran berthnasol o'r Cyngor. Lle bo caniatâd neu gymeradwyaeth eisoes wedi'i sicrhau, amgaewch gopi gyda'ch cais. 10. O dan adran 37(4), ni ellir talu grant ond yn erbyn anfoneb, hawliad neu dderbynneb i dalu am y gwaith sy'n dderbyniol i'r Cyngor; ac nid yw anfoneb a roddwyd gennych chi neu aelod o'ch teulu yn dderbyniol. Felly, er enghraifft, lle byddwch chi neu aelod o'ch teulu yn gwneud y gwaith, bydd angen anfoneb (y gellir ei dilysu) oddi wrth drydydd parti am gost y deunyddiau. Mae adran 98(1) yn diffinio "aelod o deulu" drwy gyfeirio at adran 113 o Ddeddf Tai 1985. Mae'r diffiniad yn cynnwys priod; personau sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig; rhieni; neiniau a theidiau; plant; wyrion a wyresau; brodyr, chwiorydd; ewythrod; modrybedd; neiaint; a nithod. 11. O dan adran 39, gall y Cyngor dalu grant (neu ran o grant) naill ai'n uniongyrchol i'r contractiwr neu drwy siec a ysgriffennir i'r contractiwr ond a roddir i'r ceisydd grant. Ni all y Cyngor wneud hyn onid oeddent, cyn cymeradwyo'r cais am grant, wedi hysbysu'r ceisydd mai dyma fyddai neu allai fod y dull o dalu. 12. O dan y Gorchymyn Grantiau Adnewyddu Tai (Gwasanaethau a Thaliadau) 1996 (O.S. 1996/2889), y gwasanaethau a'r taliadau rhagarweiniol neu atodol y gellir eu cynnwys mewn cais am grant yw: cost cadarnhad, os bydd y Cyngor yn ei geisio, fod gennych fuddiant perchennog yn yr eiddo; cost arolygon technegol a strwythurol; cost dylunio a pharatoi cynlluniau a lluniadau; cost paratoi rhestri o'r gwaith perthnasol; cost cymorth wrth lenwi ffurflenni; cost cyngor ar ariannu cost y gwaith perthnasol nad yw'n cael ei dalu â grant; cost ceisiadau am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu neu ganiatâd cynllunio (gan gynnwys y ffi am y cais a pharatoi'r dogfennau cysylltiedig); cost sicrhau amcangyfrifon am y gwaith perthnasol; cost cyngor ar gontractau; cost ystyried tendrau; cost goruchwylio'r gwaith perthnasol; cost datgysylltu ac ailgysylltu cyfleustodau trydan, nwy, dŵr neu draeniad lle bo hyn yn ofynnol oherwydd y gwaith perthnasol (ond nid taliadau sy'n codi am na thalwyd biliau); a chost talu contractwyr. Lle bo'r cais yn gais am grant cyfleusterau i'r anabl, gellir cynnwys gwasanaethau a thaliadau therapydd galwedigaethol mewn perthynas â'r gwaith perthnasol yn eich cais. Os nad ydych yn sicr a ddylid cynnwys gwasanaeth neu daliad yn eich cais, gofynnwch i'r Cyngor am gyngor. Hefyd gweler nodyn 10 am y dogfennau y bydd ar y Cyngor eu heisiau oddi wrthych cyn y gallant dalu unrhyw grant. 13. O dan adran 29, ni thelir grant fel rheol os ydych chi, neu unrhyw un sy'n gweithredu ar eich rhan, yn dechrau'r gwaith cyn cael cymeradwyaeth ysgrifenedig i'r cais hwn. Gellir gwneud eithriad lle bo'r Cyngor yn fodlon bod yna resymau da dros ddechrau'r gwaith cyn i'r cais gael ei gymeradwyo; ond caiff y cais ei drin fel pe na bai'n cynnwys unrhyw waith sydd eisoes wedi'i gwblhau. Lle bo'r holl waith wedi'i gwblhau, ni chaniateir i'r Cyngor gymeradwyo'r cais. Nid yw adran 29 yn gymwys i gymeradwyaeth grant ar gyfer gwaith sy'n ofynnol i beri bod annedd yn ffit i bobl fyw ynddi neu i gydymffurfio â hysbysiad o dan adran 189 neu 190 o Ddeddf Tai 1985; adran 29(5) a (6). 14. Ystyr cais trosi, mewn perthynas â chais am grant atgyweirio, yw cais am waith i ddarparu un neu ragor o anheddau drwy drosi tŷ neu adeilad arall: adran 58. Mae cais trosi'n cael ei drin fel cais perchen-feddiannydd os yw'n gais trosi i ddarparu dwy neu ragor o anheddau ac os oes unrhyw un o'r tystysgrifau sydd ynghlwm wrth y cais yn dystysgrif perchen-feddiant: adran 30(2). Ar gyfer tystysgrif perchen-feddiant, gweler nodyn 15. 15. Mae tystysgrif perchen-feddiant (ar gyfer grant atgyweirio) yn ardystio -
16. Ystyr cais landlord am grant cyfleusterau i'r anabl yw cais perchennog am waith ar annedd sy'n cael ei gosod neu y bwriedir ei gosod, neu ar y rhannau cyffredin o adeilad lle bo fflat yn cael ei gosod neu lle bwriedir ei gosod, gan y ceisydd/ceiswyr: adran 31(2). 17. Landlord sy'n cymryd rhan yw landlord y mae ganddo fuddiant perchennog yn yr adeilad a dyletswydd neu bŵer i gyflawni unrhyw ran o'r gwaith perthnasol, ac sy'n ymuno â chais tenantiaid am grant rhannau cyffredin: adran 15(4). Ni ddylai landlord sy'n cymryd rhan ymuno â chais tenantiaid am grant rhannau cyffredin drwy lenwi'r ffurflen hon, ond yn hytrach ffurflen (neu un o'r ffurflenni) a ddarperir gan yr awdurdod tai lleol ar gyfer ceisiadau landlord. Ceir enghraifft o ffurflen a argymhellir ar gyfer ceisiadau landlord mewn perthynas â Chymru yn Atodiad J2 o Gylchlythyr 59/96 y Swyddfa Gymreig neu, mewn perthynas â Lloegr, yn Atodiad J2 o Gylchlythyr 17/96 Adran yr Amgylchedd, y mae'r awdurdodau yn rhydd i dynnu arni fel y gwelant yn dda. 18. Mae tystysgrif o fwriad i osod (ar gyfer grant atgyweirio) yn ardystio eich bod chi (neu, yn achos cais tenant, y landlord) -
Yn (b), mae "gosod" yn cynnwys rhoi trwydded i feddiannu adeiladau, ond nid yw'n cynnwys gosod ar denantiaeth hir (tenantiaeth am gyfnod o fwy nag 21 mlynedd): adran 8(4). O dan adran 98(2), mae person yn "gysylltiedig" â pherchennog annedd os yw ef/hi yn aelod o deulu'r perchennog (gweler nodyn 10) neu os oes ganddo/ganddi fuddiant buddiol yn yr annedd, neu yn y derbyniadau yn sgil gwerthu'r annedd, o dan ewyllys neu ymddiriedaeth. 19. Mae tystysgrif tenant mewn perthynas â chais am grant atgyweirio yn ardystio: -
Hefyd ynghlwm wrth gais tenant mae'n rhaid cael tystysgrif o fwriad i osod (gweler nodyn 18) oddi wrth y landlord. Gall y Cyngor hepgor y gofyniad hwn os ydynt o'r farn ei fod yn afresymol mewn unrhyw achos penodol. Gweler adran 9(3). 20. Dyma "fuddiannau'r perchennog" fel y'u diffinnir gan adran 101. 21. Os ydych wedi cyfnewid contractau ar bryniad, rhowch y dyddiad y bydd y pryniad hwnnw yn cael ei gwblhau. Ni all y Cyngor gymeradwyo cais perchennog am grant atgyweirio nes eu bod yn fodlon eich bod wedi sicrhau buddiant perchennog. 22. Os ydych wedi ateb "Nac ydwyf" i gwestiynau 2A.3 a 2A.4, ni ddylech fod yn gwneud cais perchennog. Os na allwch ateb "Ydwyf" i un o'r cwestiynau hyn, ac na allwch wneud cais fel tenant (cwestiynau 2A.13 i 2A.19), peidiwch â mynd ymhellach gyda'r cais hwn. 23. Os ydych wedi ateb "Na fydd" i gwestiynau 2A.5 a 2A.6 ni ddylech fod yn gwneud cais am grant atgyweirio. Os na allwch ateb "Bydd" i'r un o'r cwestiynau hyn, peidiwch â mynd ymhellach gyda'r cais hwn. 24. Rhowch ddisgrifiad mor llawn ag y gallwch o'r gwaith arfaethedig. Bydd o gymorth i chi roi cynlluniau ac yn achos gwaith gwella neu drosi dylai'r rhain gynnwys cynlluniau o'r eiddo cyn ac ar ôl gwneud y gwaith. 25. O dan adran 10, ni all y Cyngor ystyried y math hwn o gais perchennog am grant atgyweirio oni bai eu bod yn fodlon fod gennych fuddiant perchennog yn yr annedd drwy gydol y tair blynedd sy'n diweddu ar ddyddiad eich cais. Gall y Cyngor ddileu'r gofyniad hwn mewn achos penodol neu fathau penodol o achos. 26. O dan adran 10, ni all y Cyngor ystyried y math hwn o gais perchennog am grant atgyweirio oni bai eu bod yn fodlon eich bod wedi byw yn yr annedd fel eich unig neu'ch prif breswylfa drwy gydol y tair blynedd sy'n dod i ben ar ddyddiad eich cais. Gall y Cyngor hepgor y gofyniad hwn mewn achos arbennig neu fathau arbennig o achos. 27. Os ydych yn berchen ar rydd-ddaliad yr eiddo neu'n bwriadu ei brynu, neu os oes gennych neu os ydych yn bwriadu cymryd tenantiaeth gydag o leiaf 5 mlynedd o'r cyfnod eto i redeg, ni allwch wneud cais tenant. Yn hytrach, dylech ystyried gwneud cais perchennog. Notes [1] See the definition of "prescribed" in section 101.back [4] S.I. 1996/2891, amended by S.I. 1996/3119, 1997/978.back [5] At ddibenion y ffurflen hon, mae cais perchennog am grant atgyweirio yn dod o fewn rheoliad (2)(a) os yw'n cynnwys cais trosi er mwyn darparu dwy neu ragor o anheddau ac os oes unrhyw un o'r tystysgrifau sydd ynghlwm wrth y cais yn dystysgrif o berchen-feddiant: adran 30(2).back [6] Mae cais landlord am grant cyfleusterau i'r anabl yn gais perchennog mewn perthynas â gwaith ar annedd sy'n cael, neu y bwriedir iddi gael, ei gosod, neu ar rannau cyffredin adeilad lle ceir fflat sy'n cael ei gosod neu y bwriedir ei gosod: adran 31(2).back
[7]
"Cais tenantiaid" yw cais a wneir gan o leiaf dri-chwarter o'r tenantiaid mewn meddiant (fel y'u diffinnir gan adran 14(2)) sydd o dan eu tenantiaethau o dan ddyletswydd i gyflawni, neu i gyfrannu mewn perthynas â chyflawni, rhywfaint neu'r cyfan o'r gwaith perthnasol: gweler adran 15(1)(b) a (2).
|
|
Other UK SIs |
Home |
National Assembly for Wales Statutory Instruments |
Scottish Statutory Instruments |
Statutory Rules of Northern Ireland |
Her Majesty's Stationery Office
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 1998 | Prepared 12 May 1998 |