Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gwnaed
17 Tachwedd 2009
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2009
Mae'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1), dyddiedig Chwefror 2009 ar adolygiad a wnaed gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd ar ffiniau cymunedau, ynghyd â chynigion a luniwyd gan y Comisiwn gogyfer â'r rheiny.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i gynigion y Comisiwn heb addasiadau.
Mae mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac sydd wedi'u breinio bellach ynddynt hwy i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru(2):
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Pentref Llaneirwg, Tredelerch a Trowbridge) 2009 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2009.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
Mae “Map A” (“Map A”),“Map B” (“Map B”) a “Map C” (“Map C”) yn golygu yn eu tro y mapiau sydd wedi'u marcio A, B ac C yng Ngorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Cymunedau Pentref Llaneirwg, Tredelerch a Trowbridge) 2009, sydd wedi'u hadneuo yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3); ac
os dangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell reilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol gyffelyb, mae i'w thrin fel un sy'n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd.
3. Gwneir newidiadau i ardal llywodraeth leol Dinas a Sir Caerdydd yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.
4.—(1) Trosglwyddir y rhannau o gymuned Trowbridge a ddisgrifir ym mharagraff (2) i gymuned Pentref Llaneirwg.
(2) Y rhannau hynny yw—
(i) y rhan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap A;
(ii) y rhan a ddangosir â chroeslinellau ar Fap B;
(iii) y rhan a ddangosir fel rhan groeslinellog “a” ar Fap C.
5. Trosglwyddir y rhan honno o gymuned Tredelerch a ddangosir fel rhan groeslinellog “b” ar Fap C i gymuned Pentref Llaneirwg.
6. Mae'r rhan a drosglwyddir o dan erthyglau 4 a 5 yn ffurfio rhan o adran etholiadol Pentref Llaneirwg/Pontprennau.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
17 Tachwedd 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn rhoi eu heffaith i gynigion gan y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”) a adroddodd ym mis Chwefror 2009 ar adolygiad o ffiniau a wnaed gan Gyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd. Argymhellodd yr adroddiad newidiadau i'r ffiniau presennol. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi eu heffaith i argymhellion y Comisiwn heb eu haddasu.
Mae printiau o fapiau yn dangos y ffiniau wedi eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn swyddfeydd Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn Neuadd y Sir, Glanfa Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW ac yn swyddfeydd Llywodraeth Cynulliad Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, yr Is-adran Polisi Llywodraeth Leol.
View a larger version of this image
View a larger version of this image
View a larger version of this image
1972 p. 70. Back [1]
Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi'u breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 1976/246 (fel y'i diwygiwyd gan amryfal offerynnau statudol ond nad yw'r diwygiadau hynny'n berthnasol i'r offeryn statudol hwn). Back [3]