Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 995 (Cy.81)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Gwnaed

11 Ebrill 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Ebrill 2009

Yn dod i rym

6 Mai 2009

CYNNWYS

Go to Preamble

  1. RHAN 1

    Darpariaethau rhagarweiniol

    1. 1. Enwi, cychwyn a chymhwyso

    2. 2. Dehongli

    3. 3. Cyfeiriadau at offerynnau Cymunedol

    4. 4. Ystyr “difrod amgylcheddol”

    5. 5. Difrod amgylcheddol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo

    6. 6. Yr ardaloedd lle mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys

    7. 7. Deddfwriaeth arall

    8. 8. Esemptiadau

    9. 9. Esemptiad rhag difrod i ddŵr

    10. 10. Yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007

    11. 11. Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill

    12. 12. Gorfodi

  2. RHAN 2

    Atal difrod amgylcheddol

    1. 13. Atal difrod amgylcheddol

    2. 14. Atal difrod amgylcheddol pellach

    3. 15. Camau gan yr awdurdod gorfodi

    4. 16. Dilyn cyfarwyddiadau gan awdurdod cyhoeddus

  3. RHAN 3

    Adfer

    1. 17. Asesu difrod

    2. 18. Penderfynu atebolrwydd i adfer

    3. 19. Apelau yn erbyn atebolrwydd i adfer

    4. 20. Hysbysiadau adfer

    5. 21. Apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer

    6. 22. Darpariaethau pellach am hysbysiadau adfer

    7. 23. Camau gan yr awdurdod gorfodi

  4. RHAN 4

    Gweinyddu a gorfodi

    1. 24. Costau pan fo'r awdurdod gorfodi yn gweithredu'n lle'r gweithredwr

    2. 25. Costau sy'n ymwneud â gweinyddu

    3. 26. Achosion cyfreithiol am gostau gan awdurdod gorfodi

    4. 27. Costau y gellir eu hadennill oddi wrth berchennog i fod yn arwystl ar fangre

    5. 28. Adennill costau oddi wrth bersonau eraill

    6. 29. Ceisiadau am gamau gan bartïon sydd â buddiant

    7. 30. Rhoi hawliau mynediad etc. ac iawndal amdanynt

    8. 31. Pwerau personau awdurdodedig

    9. 32. Darparu gwybodaeth i'r awdurdod gorfodi

    10. 33. Gorfodi

    11. 34. Cosbau

    1. ATODLEN 1

      Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

    2. ATODLEN 2

      Gweithgareddau sy'n achosi difrod

    3. ATODLEN 3

      Trwyddedau, etc.

    4. ATODLEN 4

      Adfer

      1. RHAN 1

        Adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir

      2. RHAN 2

        Adfer i gywiro difrod i dir

    5. ATODLEN 5

      Apelau

      1. RHAN 1

        Apelau os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

      2. RHAN 2

        Apelau os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

    6. ATODLEN 6

      Iawndal

Go to Explanatory Note

Mae Gweinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r offerynnau Cymunedol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

(1)

Mae'r dynodiadau perthnasol wedi'u rhoi gan O.S. 2002/248 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/3329 (mesurau sy'n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt); O.S. 2003/2901, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329 (mesurau sy'n ymwneud ag adnoddau dŵr a mesurau sy'n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, eu rhoi ar y farchnad a'u symud ar draws ffiniau); O.S. 2005/850 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329 (mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu a mesurau sy'n ymwneud ag atal a chyfyngu ar effeithiau damweiniau sy'n cynnwys sylweddau peryglus i'r graddau y maent yn ymwneud â pholisïau a chaniatadau cynllunio defnydd tir); ac O.S. 2007/193 (mesurau sy'n ymwneud ag atal a chywiro halogiad tir). Back [1]

(2)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51). Back [2]