Offerynnau Statudol
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Gwnaed
11 Chwefror 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
13 Chwefror 2009
Yn dod i rym
1 Ebrill 2009
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 35(2) a (3), 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a pharagraffau 138(1), 142 i 144, 145, 147, 148, 165, 166 a 182(6) a (7) o Atodlen A1 iddi (1) a chan adrannau 12 a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(2).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Galluedd Meddyliol (Amddifadu o Ryddid: Penodi Cynrychiolydd Person Perthnasol) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “asesydd lles pennaf” (“best interests assessor”) yw person a ddetholwyd i wneud asesiad lles pennaf o dan baragraff 38 o Atodlen A1 i'r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;
ystyr “rhoddai” (“donee”) yw person y rhoddwyd iddo atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus gofrestredig gan y person perthnasol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae “corff goruchwylio” (“supervisory body”) yn cynnwys Bwrdd Iechyd Lleol sy'n arfer swyddogaethau goruchwylio yn unol â rheoliad 3.
3.—(1) Bydd pob Bwrdd Iechyd Lleol yn arfer swyddogaethau goruchwylio—
(a) mewn perthynas ag unrhyw berson sydd â lle ganddo mewn ysbyty neu sy'n debygol o gael lle mewn ysbyty (p'un a ydynt yn ysbytai'r GIG neu'n ysbytai annibynnol) yn ei ardal er mwyn derbyn gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol(3); a
(b) os bydd y Bwrdd Iechyd Lleol yn comisiynu gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol i berson mewn ysbyty (p'un ai ysbyty'r GIG neu ysbyty annibynnol) yn Lloegr mewn perthynas â'r ysbyty hwnnw.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru yn comisiynu gofal perthnasol neu driniaeth berthnasol i unrhyw berson sydd â lle ganddo mewn ysbyty neu sy'n debygol o gael lle mewn ysbyty (p'un ai ysbyty'r GIG neu ysbyty annibynnol) yn Lloegr y corff goruchwylio fydd y Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer yr ardal y mae'r person fel arfer yn byw ynddi.
(3) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru, mae modd i swyddogaethau goruchwylio sy'n arferadwy gan Fwrdd Iechyd Lleol, drwy drefniant â'r Bwrdd hwnnw, ac yn ddarostyngedig i'r fath gyfyngiadau ac amodau ag y tybia'r Bwrdd hwnnw eu bod yn briodol, gael eu harfer—
(a) ar ran y Bwrdd hwnnw gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r Bwrdd;
(b) ar y cyd â Bwrdd Iechyd Lleol arall;
(4) Mae i “swyddogaethau goruchwylio” yr un ystyr ag sydd i “supervisory functions” ym mharagraff 165(3) o Atodlen A1 i'r Ddeddf.