Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 109 (Cy.22)

TRAFNIDIAETH, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

26 Ionawr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Ionawr 2009

Yn dod i rym

19 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 109C o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2009. Daw i rym ar 19 Chwefror 2009 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006

2.—(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006(3) wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (2).

(2) Yn erthygl 5, yn lle “30 Mehefin 2009”, rhodder “31 Rhagfyr 2009”.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

26 Ionawr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”) ymhellach. Diwygiwyd Gorchymyn 2006 cyn hyn gan Orchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2008 (O.S. 2008/1286 (Cy.135) (“Gorchymyn 2008”).

Yn benodol, mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 5 o Orchymyn 2006, drwy newid y dyddiad, pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob cynllun trafnidiaeth lleol sy'n gymwys gael ei ddisodli, o 30 Mehefin 2009 i 31 Rhagfyr 2009. Yng Ngorchymyn 2008, diwygiwyd y dyddiad gwreiddiol, sef 30 Mehefin 2008 i 30 Mehefin 2009.

Cyflwynodd Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 fframwaith newydd ar gyfer cynllunio trafnidiaeth yng Nghymru. Mae Strategaeth Trafnidiaeth Cymru yn gosod y cyfeiriad strategol cyffredinol. Bydd y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn dangos sut y cyflawnir y Strategaeth. Mae gofyn i'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol fod yn gyson â'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol. Mae'r diwygiad yn angenrheidiol oherwydd yr oedi cyn cyhoeddi'r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

(1)

2000 p.38. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (2006 p.32). Back [2]

(3)

O.S. 2006/2993 (Cy.280). Back [3]