Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 108 (Cy.21)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

26 Ionawr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Ionawr 2009

Yn dod i rym

18 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 18 Chwefror 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008

2.—(1) Diwygier Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008(4) yn unol â pharagraffau (2) i (3) isod.

(2) Yn lle'r diffiniad o “cyfnod allweddol 2” (“key stage 2”) yn rheoliad 2(1) rhodder—

  • mae i “cyfnod allweddol 2” yr ystyr a roddir i “key stage 2” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002;

(3) Yn rheoliad 3(1) yn lle'r geiriau “sefydliadau addysgol” rhodder y geiriau “sefydliadau addysgol cymwys”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

26 Ionawr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2008(5).

Mae rheoliad 2(2) yn diwygio'r diffiniad o “cyfnod allweddol 2”.

Mae rheoliad 2(3) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru roi cymorth cenedlaethol mewn cysylltiad â chyflenwi cynhyrchion llaeth cymwys i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol cymwys.

(1)

Yn rhinwedd adran 59(1) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]

(2)

1972 p.68. Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi o ran materion a bennir yn Atodlen 3 i Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2005 (O.S. 2005/2766). Back [2]

(3)

Mewnosodwyd gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoliadol 2006 (p.51). Back [3]

(4)

O.S. 2008/2141 (Cy.190). Back [4]

(5)

O.S. 2008/2141 (Cy.190). Back [5]