Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 55 (Cy.19)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Datgymhwyso) (Cymru) 2009

Gwnaed

19 Ionawr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Ionawr 2009

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 94 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003(1) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Eiddo) (Datgymhwyso) (Cymru) 2009.

(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod y daw Rheoliadau sy'n dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Tir) 1994(3) i rym.

(3) Dim ond i awdurdodau lleol yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys.

Dehongli

2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “mynediad i gofnodion eiddo” (“access to property records”) yw mynediad i gofnodion eiddo a roddir gan awdurdod lleol mewn unrhyw un neu rai o'r ffyrdd a ganlyn—

(a) caniatáu i berson archwilio neu chwilio cofnodion eiddo mewn man a ddynodwyd gan yr awdurdod ar gyfer gwneud hynny;

(b) caniatáu gwneud cofnodion eiddo, neu ddarparu copïau ohonynt; neu

(c) trosglwyddo cofnodion eiddo neu gopïau o'r cyfryw gofnodion yn electronig,

ac yn y Gorchymyn hwn mae'r ymadrodd “mynediad i gofnodion eiddo” (“access to property records”) i'w ddehongli'n unol â hynny.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr cyfeiriad at fod awdurdod lleol yn “ateb ymholiadau ynghylch eiddo” (“answering enquiries about a property”) yw—

(a) bod yr awdurdod yn ateb unrhyw ymholiad penodol, boed ar lafar neu'n ysgrifenedig, a wneir gan berson ynghylch eiddo neu gofnodion eiddo; neu

(b) bod yr awdurdod yn cyflawni unrhyw weithgareddau at ddibenion ateb y cyfryw ymholiadau.

(3) Yn y Gorchymyn hwn—

mae “cofnodion eiddo” (“property records”)—

(a)

yn cynnwys dogfennau, cofrestrau, ffeiliau ac archifau (sydd ar gadw ar unrhyw ffurf gan yr awdurdod lleol) sy'n ymwneud ag eiddo;

(b)

yn cynnwys gwybodaeth sy'n deillio o'r cyfryw ddogfennau, cofrestrau, ffeiliau ac archifau; ond

(c)

heb fod yn cynnwys cofrestr pridiannau tir lleol a gedwir o dan adran 3(2) o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975(4);

ystyr “eiddo” (“property”) yw adeilad neu adeiledd penodedig neu dir penodedig y mae cofnodion eiddo mewn perthynas ag ef ar gadw gan yr awdurdod lleol.

Datgymhwyso adran 93(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003

3.  Nid yw adran 93(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn gymwys mewn perthynas â'r awdurdodau gwerth gorau a enwir yn erthygl 4, o ran caniatáu mynediad i gofnodion eiddo neu ateb ymholiadau ynghylch eiddo.

Awdurdodau y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt

4.  Cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru yw'r awdurdodau gwerth gorau y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt(5).

Jocelyn Davies

O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

19 Ionawr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn datgymhwyso adran 93(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yng Nghymru mewn cysylltiad â chwiliadau eiddo penodol. Rhestrir yn erthygl 4 yr awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt.

O dan erthygl 1(2), daw'r Gorchymyn hwn i rym pan ddirymir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Chwiliadau Tir) 1994 o ran Cymru. Gwnaed y Rheoliadau hynny o dan adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ac unwaith y byddant wedi eu dirymu, bydd Rheoliadau eraill sydd i'w gwneud o dan adran 150 mewn cysylltiad â ffioedd chwiliadau eiddo yn cymryd eu lle. Gwneir y Rheoliadau hyn i Gymru ar wahân i rai Lloegr. Gwneir hefyd Orchymyn Datgymhwyso tebyg ar gyfer Lloegr (O.S. 2008/2909).

Mae adran 93(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn galluogi awdurdodau gwerth gorau i godi ffi am wasanaethau, a bydd ei datgymhwyso'n galluogi'r Rheoliadau drafft, sy'n cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr un diwrnod â'r Gorchymyn hwn, i gael eu gwneud o dan adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Fel arall, mae adran 150(1)(b) yn caniatáu i'r cyfryw Reoliadau gael eu gwneud ddim ond mewn cysylltiad ag unrhyw beth nad oes unrhyw bwer neu ddyletswydd ac eithrio o dan y Rheoliadau i godi ffi mewn cysylltiad ag ef (“in respect of which there is no power or duty to impose a charge apart from the regulations”).

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn a gellir cael copi gan Llywodraeth Cynulliad Cymru, Y Gyfarwyddiaeth Dai, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 01685 729158).

(1)

2003 p. 26. Back [1]

(2)

Mae'r pwer o dan adran 94 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru; gweler y diffiniad o “appropriate person” yn adran 124 o'r Ddeddf, a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 1994/1885. Back [3]

(4)

1975 p.76. Back [4]

(5)

Gweler y diffiniad o “Welsh best value authority” a “local authority in Wales” yn adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Back [5]