Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 49 (Cy.17) (C.5)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009

Gwnaed

14 Ionawr 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.

Y diwrnod penodedig

2.  Mae adran 55 (Hawl disgyblion chweched dosbarth i gael eu hesgusodi rhag mynychu addoliad crefyddol) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i ddod i rym ar 9 Chwefror 2009 o ran Cymru.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

14 Ionawr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn yn dod ag adran 55 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Deddf 2006) i rym ar 9 Chwefror 2009.

Mae adran 55 o Ddeddf 2006 yn diwygio adran 71 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 er mwyn galluogi disgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion a gynhelir i dynnu'n ôl o addoliad crefyddol ac er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu wneud trefniadau i roi i ddisgyblion chweched dosbarth sy'n byrddio gyfle rhesymol i fynychu addysg grefyddol neu addoliad crefyddol yn unol â daliadau crefydd arbennig, os ydynt yn gofyn am hynny. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau wneud darpariaeth sy'n galluogi disgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion arbennig a gynhelir i dynnu'n ôl o addoliad crefyddol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
Adran 1 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 37(1) a (2)(a) 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 38 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 39 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 40 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adrannau 43 — 45 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 47 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 53 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 156 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 166 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 175 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Adran 184 yn rhannol 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)
Atodlen 17 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol 30 Mehefin 2008 2008/1429 (Cy.148)
Atodlen 18 yn rhannol 1 Medi 2008 2008/1429 (Cy.148)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2006 wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.

Gweler hefyd adran 188 (1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (ddeufis ar ôl hynny).

(1)

2006 p.40. Back [1]

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]