Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 48 (Cy.16)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) (Diwygio) 2009

Gwnaed

16 Ionawr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Ionawr 2009

Yn dod i rym

9 Chwefror 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 71(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2009.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio'r Rheoliadau

2.  Yn lle rheoliad 12 o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999(3), rhodder y canlynol —

Religious Education

12.  Arrangements must be made to ensure that, so far as practicable, every pupil attending a maintained special school —

(a) receives religious education unless withdrawn from receiving such education in accordance with the wishes of the pupil’s parent; and

(b) attends religious worship unless withdrawn from attendance at such worship —

(i) in the case of a sixth-form pupil, in accordance with the pupil’s own wishes; and

(ii) in any other case, in accordance with the wishes of the pupil’s parent.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

16 Ionawr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999 drwy roi rheoliad 12 newydd yn lle'r hen un. Y newid y mae'r rheoliad hwn yn ei wneud i'r rheoliad fel yr oedd yn flaenorol yw caniatáu i ddisgybl chweched dosbarth dynnu'n ôl o addoliad crefyddol mewn ysgol arbennig os dyna'i ddymuniad. Mae disgybl chweched dosbarth yn cael ei ddiffinio yn adran 71(8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod yn ddisgybl o oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael addysg sy'n addas i anghenion disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol. Mae hyn yn cysoni'r gyfraith â'r gyfraith ar gyfer ysgolion prif ffrwd yn adran 71 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel y'i diwygiwyd gan adran 55 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

(1)

1998 p.31. Diwygiwyd adran 71 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 105. Amnewidiwyd adran 71(7) gan adran 55(8) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 71 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 180 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (fel y'i diwygiwyd gan baragraff 88 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Medrau 2008 (p.25)) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

O.S. 1999/1780 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243). Back [3]