Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2009 Rhif 40 (Cy.12)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009

Gwnaed

14 Ionawr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Ionawr 2009

Yn dod i rym

1 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 9(4) a 9(4A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009 a daw i rym ar 1 Ebrill 2009.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council”) yw'r Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol;

  • ystyr “Cynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol” (“the National Joint Council’s Scheme”) yw Cynllun Amodau Gwasanaeth y Cyd-gyngor Cenedlaethol; ac

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

3.—(1) Y pwynt a bennir at ddibenion adran 9(4)(a) o'r Ddeddf yw pwynt 44 ar y golofn gyflog ar y graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion awdurdod lleol a ymgorfforir yng Nghynllun y Cyd-gyngor Cenedlaethol.

(2) Y swm sy'n cyfateb i'r pwynt a bennir ym mharagraff (1) yw'r swm hwnnw a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol o bryd i'w gilydd o ran swyddi llawnamser o dan awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr.

Dirymu

4.  I'r graddau y mae'n gymwys i awdurdodau perthnasol yng Nghymru, dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl)1995(3).

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

14 Ionawr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Un o'r gofynion ynghylch y telerau y penodir person i swydd, neu fod person yn dal swydd, yn unol ag adran 9 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynorthwywyr i grwpiau gwleidyddol) yw bod cyfradd y tâl blynyddol ar gyfer y swydd yn llai na £13,500 neu'n swm uwch yn ôl yr hyn a bennir drwy Orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i awdurdodau lleol yng Nghymru yn darparu mai'r gyfradd dâl flynyddol fydd y mwyafswm a bennir o bryd i'w gilydd gan y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Llywodraeth Leol fel yr un sy'n gymwys i bwynt 44 ar y golofn gyflog ar eu graddfeydd cyflog ar gyfer swyddogion llywodraeth leol.

O ran awdurdodau lleol yng Nghymru, dirymir Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) 1995.

(1)

1989 p.42. Back [1]

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(O.S. 1999/672) a paragraff 30(1) a (2)(a) o Atodlen 11 i y Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]

(3)

O.S. 1995/2456. Back [3]