Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
ADDYSG, CYMRU
Gwnaed
16 Ionawr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
19 Ionawr 2009
Yn dod i rym
9 Chwefror 2009
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) (Diwygio) 2009 a deuant i rym ar 9 Chwefror 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn lle rheoliad 12 o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999(3), rhodder y canlynol —
12. Arrangements must be made to ensure that, so far as practicable, every pupil attending a maintained special school —
(a) receives religious education unless withdrawn from receiving such education in accordance with the wishes of the pupil’s parent; and
(b) attends religious worship unless withdrawn from attendance at such worship —
(i) in the case of a sixth-form pupil, in accordance with the pupil’s own wishes; and
(ii) in any other case, in accordance with the wishes of the pupil’s parent.”
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Ionawr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig a Gynhelir) (Cymru) 1999 drwy roi rheoliad 12 newydd yn lle'r hen un. Y newid y mae'r rheoliad hwn yn ei wneud i'r rheoliad fel yr oedd yn flaenorol yw caniatáu i ddisgybl chweched dosbarth dynnu'n ôl o addoliad crefyddol mewn ysgol arbennig os dyna'i ddymuniad. Mae disgybl chweched dosbarth yn cael ei ddiffinio yn adran 71(8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod yn ddisgybl o oedran ysgol gorfodol ac sy'n cael addysg sy'n addas i anghenion disgyblion sydd dros oedran ysgol gorfodol. Mae hyn yn cysoni'r gyfraith â'r gyfraith ar gyfer ysgolion prif ffrwd yn adran 71 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 fel y'i diwygiwyd gan adran 55 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
1998 p.31. Diwygiwyd adran 71 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 21, paragraff 105. Amnewidiwyd adran 71(7) gan adran 55(8) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Back [1]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 71 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 180 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (fel y'i diwygiwyd gan baragraff 88 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Medrau 2008 (p.25)) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]
O.S. 1999/1780 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3238 (Cy.243). Back [3]