Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 3266 (Cy.288)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

19 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym

12 Ionawr 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffotoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop â'r Cyngor yn gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd(3).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 12 Ionawr 2009.

Diwygio Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008.

2.  Diwygir Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2008(4) yn unol â rheoliadau 3 i 8.

Diwygio rheoliad 2 (dehongli)

3.  Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “Rheoliad TSE y Gymuned”, ar ôl is-baragraff (b), mewnosoder—

(c) Penderfyniad y Comisiwn 2008/908/EC yn awdurdodi Aelod-wladwriaethau penodol i adolygu eu rhaglen fonitro BSE flynyddol(5);.

Diwygio rheoliad 20 (gorfodi)

4.  Yn rheoliad 20 yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy'n gorfodi mewn lladd-dai a safleoedd torri:—

(a) Atodlen 7; a

(b) paragraff 1A, paragraff 2 a pharagraff 3

  • o Atodlen 8..

Diwygio Atodlen 2

5.  Yn Atodlen 2—

(a) yn lle paragraff 1 rhodder—

“Hysbysiad o gorff gafr at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned

1.—(1) At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff gafr 18 mis oed neu drosodd pan fu farw yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth,—

(a) o fewn 24 awr o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth y corff i'w feddiant neu dan ei reolaeth hysbysu Gweinidogion Cymru; a

(b) os yw Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo felly, ei gadw hyd nes ei fod yn cael ei gasglu gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan,

ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

(2) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â geifr a gigyddwyd i'w bwyta gan bobl neu a gafodd eu lladd yn unol ag Atodlen 4.

Danfon corff anifail buchol at ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned

1A.—(1) At ddibenion monitro o dan Erthygl 6 o Reoliad TSE y Gymuned, rhaid i berson sydd â chorff anifail buchol yn ei feddiant, neu dan ei reolaeth, y mae'n rhaid ei brofi yn unol â phwynt 3(1) o Ran 1 o Bennod A o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 24 awr, naill ai—

(a) gwneud trefniadau gyda pherson arall i'r person hwnnw ei gasglu a'i ddanfon i safle samplu a gymeradwywyd o fewn 72 o oriau; neu

(b) dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu a danfon yr anifail i'r safle hwnnw fel y bydd yn cyrraedd y safle o fewn 72 o oriau

ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

(2) Mae'r cyfnodau o 24 awr a 72 awr y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yn cychwyn o'r amser pan fu'r anifail farw neu pan gafodd ei ladd neu pan ddaeth i feddiant neu dan reolaeth y person y mae gofynion yr is-baragraff hwnnw yn gymwys iddo.

Personau sy'n casglu ac yn danfon

1B.  Rhaid i berson y gwneir trefniadau gydag ef o dan baragraff 1A i ddanfon corff i safle samplu, onis cyfarwyddir yn wahanol gan Weinidogion Cymru, o fewn 48 o oriau i'r amser pan ddaw'r corff i feddiant neu dan reolaeth y person hwnnw—

(a) dynodi safle samplu a fydd yn gwneud y gwaith samplu; a

(b) sicrhau fod y corff yn cael ei ddanfon i'r safle hwnnw,

ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.

Difa heb samplu

1C.  Mae unrhyw berson sy'n difa corff anifail buchol y mae paragraff 1A yn gymwys iddo cyn iddo gael ei samplu mewn safle samplu a gymeradwywyd, ac eithrio yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru, yn cyflawni tramgwydd.

Cadw cyrff anifeiliaid buchol tra'n disgwyl canlyniadau profion

1CH.  Mae'n rhaid i safle samplu a gymeradwywyd yr anfonwyd corff buchol iddo i'w samplu yn unol â'r Rhan hon gadw'r sampl yn unol â phwynt 6(3) o Atodiad III i Reoliad TSE y Gymuned, ac mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd; a

(b) ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

Safleoedd samplu a gymeradwywyd

4A.—(1) Ar dderbyn cais mae'n rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo safle samplu i samplu anifeiliaid y mae paragraff 1A yn gymwys iddynt os ydynt wedi'u bodloni fod gan y safle samplu weithdrefnau rheoli digonol i wneud y samplu.

(2) Ystyr “safle samplu a gymeradwywyd” (“approved sampling site”) yn y Rhan hon yw safle samplu a gymeradwywyd o dan y paragraff hwn neu safle samplu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys i wneud gwaith samplu at yr un diben..

Diwygio Atodlen 3

6.  Yn Atodlen 3 paragraff 5, is-baragraff (3) yn lle “is-baragraff 2(b)(ii)” rhodder “is-baragraff 1(b)(ii)”.

Disodli Atodlen 8

7.  Yn lle Atodlen 8 rhodder yr atodlen newydd a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 12 (penodi arolygwyr)

8.  Yn rheoliad 12 yn lle “Atodlen 7” rhodder “Atodlenni 7 ac 8”.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

19 Rhagfyr 2008

(1)

O.S. 2008/1792. Back [1]

(2)

1972 p. 68. Back [2]

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L 60, 5.3.2008, t.17). Back [3]

(4)

O.S. 2008/3154 (W.282). Back [4]

(5)

OJ Rhif L 327, 5.12.2008, t.24. Back [5]