Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 3114 (Cy.276)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008

Gwnaed

5 Rhagfyr 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Rhagfyr 2008

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2) yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2008.

(3) Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn dod i rym ar 1 Medi 2009.

(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

2.  Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008(3).

Diwygio'r Prif Reoliadau

3.  Mae'r Prif Reoliadau wedi'u diwygio'n unol â'r Rheoliadau hyn.

4.—(1) Mae Rheoliad 3 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn y diffiniad o “dyddiad perthnasol” (“relevant date”), yn lle “1 Chwefror 2008”, rhodder “12 Ionawr 2009”.

5.—(1) Mae Rheoliad 9 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Ym mharagraff (3)—

(a) yn lle “1 Medi 2008”, rhodder “1 Medi 2009”; a

(b) yn lle “28 Chwefror 2008”, ym mhob man y mae'n ymddangos, rhodder “1 Chwefror 2009”.

6.—(1) Mae Rheoliad 10 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle paragraff (17) rhodder—

(17) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009 yw 1 Chwefror 2009 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliadau 20(7) a 22(6), 1 Chwefror 2010..

7.—(1) Mae Rheoliad 22 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn lle paragraff (3), rhodder—

(3) Mae myfyriwr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 17,640 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009..

8.  Effaith yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn yw rhoi'r ffigurau yn nhrydedd golofn y tabl yn lle'r ffigurau yn ail golofn y tabl lle maent yn ymddangos yn narpariaethau'r Prif Reoliadau sydd wedi'u gosod yn y golofn gyntaf.

Diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008

9.  Mae Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008(4) wedi'u diwygio'n unol â rheoliad 10.

10.  Yn nhestun Cymraeg rheoliad 3, hepgorer y geiriau “a Benthyciadau”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Rhagfyr 2008

Rheoliad 8

YR ATODLEN CYFRADDAU TALU NEWYDD A THROTHWYON INCWM NEWYDD

Y ddarpariaeth yn y Prif Reoliadau Y ffigur presennol Y ffigur newydd
Rheoliad 25
25(2) £10,000 £10,260
Rheoliad 27
27(2) £3,705 £3,801
Rheoliad 28
28(a) £2,580 £2,647
28(b) £2,580 £2,647
Rheoliad 29
29(3) £1,470 £1,508
Rheoliad 30
30(6)(a) £1,130 £1,159
30(6)(b) £3,385 £3,473
30(6)(c) £4,515 £4,632
30(6)(ch) £4,515 £4,632
30(6)(d) £5,650 £5,797
Atodlen 3 Rhan 2
Paragraff 2(3) £1,100 £1,130
Paragraff 4(2)(c) £1,075 £1,130
Paragraff 7(2)(a) £9.50 £9.27
Paragraff 7(3)(a) £9.50 £9.27
Paragraff 7(4) £7,800 £7,997
Paragraff 7(5)(i) £7,800 £7,997
(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7. Back [1]

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ac mae Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)), yn cyfeirio at hyn. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Back [2]

(3)

O.S. 2008/18 (Cy.7), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/1324 (Cy.137). Back [3]

(4)

O.S. 2008/1324 (Cy.137). Back [4]