Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Medi 2008 yn rhoi ar waith fesurau mewn perthynas ag Erthygl 102 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymwneud â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (Rheoliad Sengl CMO)(12).

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Llaeth Ysgol (Cymru) 2001(13).

Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ac at Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 57/2008(14) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ynghylch cymorth Cymunedol am gyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol (OJ Rhif L 183, 11.7.08, t.17) yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Caiff Gweinidogion Cymru roi cymorth gwladol (sy'n cydategu cymorth y Gymuned Ewropeaidd) mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth a chynhyrchion llaeth penodol i ddisgyblion mewn sefydliadau addysgol (rheoliad 3(1)).

Caiff Gweinidogion Cymru bennu math neu ddosbarthiad sefydliadau addysgol neu gynhyrchion llaeth y ceir talu cymorth gwladol mewn cysylltiad â hwy (rheoliad 3(2)).

Rhaid i gymorth gwladol a roddir gan Weinidogion Cymru fod yn ddarostyngedig i'r un rheolau a'r un gofynion ac amodau ag sy'n gymwys i gymorth y Gymuned o dan Erthygl 102(1) o Reoliad y Cyngor ac sydd i'w cael yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 657/2008 (rheoliad 4(2)).

Os rhoddir cymorth gwladol mewn cysylltiad â chyflenwi llaeth cyflawn neu laeth hanner sgim, â chyflas neu heb gyflas, i ddisgyblion cynradd heblaw'r rhai sy'n derbyn addysg feithrin neu'r rhai sydd yng nghyfnod allweddol 2, caiff cyfanswm y cymorth hwnnw fod yn swm sy'n ddigonol i dalu unrhyw gost a fuasai fel arall yn gorfod cael ei thalu gan y disgyblion hynny neu eu rhieni neu eu gwarcheidwaid mewn amgylchiadau lle nad yw cymorth Cymunedol yn talu'n llawn am gost cyflenwi'r cynnyrch hwnnw (rheoliad 5).

(12)

OJ Rhif L 299, 16.11.07, t.1. Back [12]

(13)

O.S. 2001/275 (Cy.11). Back [13]

(14)

OJ Rhif L 183, 11.07.08, t.17. Back [14]