Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

(8) Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (7), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu ac a fyddai'n effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu.

(9) Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.

(10) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a) swm pob grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol os nad oedd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dod i ben (y “swm llawn”); a

(b) faint o'r cyfanswm sy'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben (y “swm rhannol”).

(11) Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(12) Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad o grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben a bod y taliad hwnnw'n fwy na swm rhannol y grant hwnnw—

(a) cânt drin y tôl dros ben fel gordaliad o'r grant hwnnw; neu

(b) os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, cânt estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr mewn perthynasâ'r grant rhan-amser hwnnw ar gyfer dibynyddion hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod cyfanswm y grant yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(13) Os yw taliad grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y caiff ei dalu, swm y grant rhan-amser hwnnw ar gyfer dibynyddion sy'n ddyledus yw'r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol ac i benderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(14) Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.

(15) Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (14), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na fyddai'r cymorth yn cael ei dalu.

(16) Ni ddylid ystyried bod myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu ei fynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.

(17) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth ar ffurf grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion, yn penderfynu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—

(a) os yw'r penderfyniad yn cynyddu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, rhaid iddynt dalu'r swm ychwanegol mewn unrhyw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn barnu eu bod yn briodol;

(b) os yw'r penderfyniad yn gostwng swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, rhaid iddynt dynnu i ffwrdd swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu;

(c) os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei dynnu i ffwrdd o unrhyw elfen arall o grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w chael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;

(ch) gellir adennill unrhyw ordaliad sy'n weddill yn unol â rheoliad 91..

29.  Yn rheoliad 91—

(a) ym mharagraff (3), yn lle “a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl”, rhodder “, y grant rhan-amser at gostau byw myfyrwyr anabl a grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion”; a

(b) ym mharagraff (5), ar ôl “anabl” mewnosoder “neu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion”.

30.  Ym mharagraff 8 o Ran 2 o Atodlen 1—

(a) yn lle is-baragraff (b), rhodder “a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn ymadael â'r Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio”; a

(b) yn is-baragraff (c), yn lle “yng Nghymru”, rhodder “yn y Deyrnas Unedig”.

31.  Ar ôl Atodlen 5, mewnosoder—

Rheoliad 83F

ATODLEN 6 ASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION

Diffiniadau

1.  Yn yr Atodlen hon—

(a) mae i “myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu” (“contributing eligible part-time student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(b) ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifo mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(c) mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

(ch) ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

(d) “ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

(dd) ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu ac sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(e) ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yw unrhyw un o'r canlynol—

(i) priod myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu;

(ii) partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu;

(iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) ac os yw'n dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn syrthio o fewn paragraff 2(1)(a) ac os yw'n dechrau'r cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(f) ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(ff) ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

(g) ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu) neu baragraff 5 (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu); a

(ng) ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 84 ac, o ran paragraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifo at ddibenion—

(i) y Deddfau Treth Incwm;

(ii) deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii) os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelodwladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5).

Myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu

2.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon, mae myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn fyfyriwr rhan-amser cymwys ym mhob achos—

(a) lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b) lle mae'n briod neu lle mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

(c) lle nad oes ganddo riant yn fyw;

(ch) lle mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na ellir dod o hyd i'r naill na'r llall o'i rieni neu lle nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;

(d) lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle mae, ym marn Gweinidogion Cymru, yn gallu dangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd nad oes modd cymodi;

(dd) lle'r oedd yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(14) drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;

(e) lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni naill ai—

(i) y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii) na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig;

(f) lle mae'n aelod o urdd grefyddol ac yn preswylio yn un o dai'r urdd honno;

(ff) lle mae'n gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(g) lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae i'w drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

(i) pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

(ii) pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

(iii) pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglân â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn budd-dal ;

(iv) pan oedd ganddo efrydiaeth y wladwriaeth(15) neu ddyfarniad cyffelyb; neu

(v) pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

(2) Mae myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu o dan baragraff 2(1)(ff) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.

Incwm yr aelwyd

3.—(1) Mae swm cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2) Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—

(a) yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu ac y mae ganddo bartner, yr incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(b) yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu ond nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.

(3) Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,100 yn cael ei ddidynnu am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu neu bartner y myfyriwr hwnnw.

(4) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant ac y mae gan ei blentyn ef neu blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu

4.—(1) Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol —

(a) unrhyw dôl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, ar yr amod nad yw'r tôl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu mewn perthynas â phensiwn(nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(16) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid2004(17), neu pan fo incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad drosto yn cael ei roi petai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.

(2) Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei ddiystyru i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3) Pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a) os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b) fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y mis y ceir yr incwm yndd(18).

Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu

5.—(1) Er mwyn pennu incwm trethadwy partner myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir—

(a) ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;

(b) yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu

(c) o dan is-baragraff (2)

beidio â chael eu gwneud na'u caniatâu.

(2) Er mwyn pennu incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol —

(a) swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1998, neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;

(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.

(3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y partner yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm gweddilliol y partner am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y partner mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd ei gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y partner am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.

(5) Os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6) Os yw partner myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm—

(a) nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall, nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b) nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y partner yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelodwladwriaeth honno; neu

(c) bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

(7) Os yw incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelodwladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(9) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'i luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a'i bartner heb wahanu.

(10) Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo'r cyfraniad

6.—(1) Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu fel a ganlyn—

(a) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £39,780, £1 am bob swm cyflawn o £9.50 sy'n codi incwm yr aelwyd uwchlaw £39,780; a

(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,780 neu lai, dim.

(2) Rhaid i swm y cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,060.

(3) Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 7.

(4) Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,060.

(5) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Rhannu cyfraniadau

7.—(1) Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff6 mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu a hwnnw'n fyfyriwr a chanddo bartner, mae'r cyfraniad yn daladwy yn unol â'r is-baragraffau canlynol—

(a) am unrhyw flwyddyn y mae dyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad y cyfeirir ato ym mharagraff (b) o'r is-baragraff hwn ac sydd gan bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yw'r gyfran honno o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 7 y mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sy'n ymwneud â'r mater, o'r farn ei fod yn gyfiawn;

(b) yn ddarostyngedig i'r is-baragraffau canlynol, am unrhyw flwyddyn y delir y dyfarniad sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003 neu adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968 (a dim unrhyw ddyfarniad statudol arall) gan bartner i'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynasâ'r myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu yn swm sy'n hafal i hanner y cyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 7;

(c) pe na bai'r cyfraniad a gyfrifir, o ganlyniad i'r dyraniad o dan baragraff (b) o'r is-baragraff hwn, yn cael ei ddileu drwy ei gymhwyso mewn perthynas â dyfarniad statudol y myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu, mae gweddill y cyfraniad yn cael ei gymhwyso yn hytrach at ddyfarniad statudol perthnasol ei bartner os ydynt ill dau yn fyfyrwyr rhan-amser cymwys sy'n cyfrannu.

(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), at ddiben cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant, unrhyw swm sy'n weddill—

(a) os yw'r myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i un myfyriwr cymwys yn unig a bod y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw yn fwy na'r dyfarniad statudol mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys hwnnw, y gwahaniaeth rhwng y cyfraniad hwnnw a'r dyfarniad statudol hwnnw; neu

(b) os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dyrannu'r cyfraniad i'w blant o dan yr Atodlen hon.

(3) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner sydd hefyd yn fyfyriwr cymwys ac y cymerir incwm y partner hwnnw i ystyriaeth wrth asesu'r cyfraniad mewn perthynas â'r plant yn is-baragraff (2), ychwanegir hanner y swm a gyfrifir o dan is-baragraff (2) at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant..

John Griffiths

O dan awdurdod y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

5 Awst 2008

(14)

1989 p.41. Mae adran 22 wedi'i diwygio gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p. 35), adran 2, Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 41), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38), adran 116(2) a Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 52. Back [14]

(15)

Darperir cyllid gan y Cynghorau Ymchwil mewn perthynas ag astudio ôl-radd amser-llawn. Back [15]

(16)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10, Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281, Atodlen 35, Deddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p.5), Atodlen 1, a Deddf Treth Incwm 2007, Atodlen1. Back [16]

(17)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007, adrannau 68, 69 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27. Back [17]

(18)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X). Back [18]