Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1890 (Cy.179)

YR IAITH GYMRAEG

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2008

Gwnaed

16 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

11 Awst 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 6(1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt(2) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2008 a daw i rym ar 11 Awst 2008.

Pennu Cyrff Cyhoeddus

2.  Pennir y personau y cyfeirir atynt yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn at ddibenion Rhan II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Rhodri Glyn Thomas

Y Gweinidog dros Dreftadaeth, un o Weinidogion Cymru

16 Gorffennaf 2008

Erthygl 2

YR ATODLEN Enw Cymraeg neu gyfieithiad o'r enw neu ddisgrifiad

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Yr Asiantaeth Genedlaethol er Gwella Plismona

Awdurdod y Diwydiant Diogelwch

Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd

Banc Lloegr

Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu

Y Comisiwn Cystadlu

Y Comisiwn Datblygu Cynaliadwy

Y Comisiwn Etholiadol

Y Comisiwn Hapchwarae

Comisiwn y Loteri Genedlaethol

Cynghorau Sgiliau Sector

Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol

Cyngor Chwaraeon y DU

Y Cyngor Defnyddwyr Dŵr

Cyngor Llyfrau Cymru

Y Cyngor Optegol Cyffredinol

Y Cyngor Osteopathig Cyffredinol

Y Cyngor Prydeinig

Cyngor Rheoleiddio Proffesiynolion Gofal Iechyd

Cyllid Cymru c.c.c.

Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr

FFORWM

Y Gronfa Loteri Fawr

Grŵp y Post Brenhinol c.c.c.

Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a'r Celfyddydau

Y Rheoleiddiwr Pensiynau

Sefydliad Datblygu Cymunedol

Y Swyddfa Gyfathrebiadau

Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru

Uned Ddata Llywodraeth Leol — Cymru

Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni Cyfyngedig

Yr Ymddiriedolaeth Garbon

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan Ran II o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (“y Ddeddf”) caiff Bwrdd yr Iaith Gymraeg roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw gorff cyhoeddus lunio Cynllun Iaith Gymraeg. Mae adran 6 o'r Ddeddf yn rhestru amryw o gyrff cyhoeddus at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf ac yn darparu bod yr Ysgrifennydd Gwladol (Gweinidogion Cymru bellach) yn cael pennu cyrff cyhoeddus pellach at y dibenion hynny.

Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu cyrff cyhoeddus pellach at ddibenion Rhan II o'r Ddeddf.

Mae pum Gorchymyn blaenorol wedi'u gwneud o dan adran 6 o'r Ddeddf:

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1996 (O.S. 1996/1898);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 1999 (O.S. 1999/1100);

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2001 (O.S. 2001/2550 (Cy.215));

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2002 (O.S. 2002/1441 (Cy.145)); a

Gorchymyn Cynlluniau Iaith Gymraeg (Cyrff Cyhoeddus) 2004 (O.S. 2004/71 (Cy.7)).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cyfeiriad at Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hynny yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [2]