15. Ni chaiff neb, oni chaiff ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru, ddileu neu ddifrodi tag clust a atodir neu datŵ a roddir o dan y Gorchymyn hwn.
16.—(1) Ni chaiff neb, oni chaiff ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru, roi marc adnabod newydd yn lle'r marc adnabod a atodir neu a roddir o dan y Gorchymyn hwn oni bai—
(a) bod y marc wedi dod yn amhosibl ei ddarllen;
(b) bod y marc wedi ei ddileu am resymau lles; neu
(c) bod y marc wedi mynd ar goll.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n rhoi marc adnabod newydd yn lle hen un naill ai—
(a) defnyddio marc adnabod union debyg; neu
(b) defnyddio marc adnabod newydd a chroes-gyfeirio'r marc adnabod newydd â'r marc adnabod gwreiddiol yn y cofnod a gedwir o dan erthygl 5.
17. Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gofnod a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael ei gyflwyno os gwneir cais am hynny ac i gopi neu allbrint ohono gael ei wneud.
18.—(1) Gorfodir y Gorchymyn hwn gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, y byddant hwy yn gorfodi'r Gorchymyn hwn yn lle'r awdurdod lleol.
19. Dirymir Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) 2004(3) mewn perthynas â Chymru'n unig.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2008
Erthygl 5
| Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008 | ||||
|---|---|---|---|---|
| Enw a chyfeiriad y person sy'n cadw'r cofnod | ||||
| Dyddiad symud y mochyn/moch | Rhif adnabod neu farc dros dro | Nifer y moch | Daliad y symudwyd y mochyn/moch ohono | Daliad y symudwyd y mochyn/moch iddo |
O. S. 2004/996 (Cy. 104). Back [3]