Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 Adnabod

Tagiau clust a thatŵs

6.—(1) Rhaid i dag clust —

(a) bod yn hawdd ei ddarllen drwy gydol oes y mochyn;

(b) bod wedi ei wneud naill ai o fetal neu o blastig neu o gyfuniad o fetal a phlastig;

(c) bod yn amhosibl ymhél ag ef;

(ch) bod yn amhosibl ei ailddefnyddio;

(d) gallu gwrthsefyll gwres yn ddigonol fel na fydd prosesu'r carcas yn sgil cigydda yn difrodi'r tag clust na'r wybodaeth sydd wedi ei hargraffu neu ei stampio arno;

(dd) fod wedi ei ddylunio i barhau i fod ynghlwm wrth y mochyn heb beri niwed iddo.

(2) Rhaid rhoi tatŵ naill ai gan ddefnyddio gefel tatwio, ac yn yr achos hwn rhaid iddo fod ar glust, neu gan ddefnyddio offer slapfarcio, ac yn yr achos hwn rhaid ei roi ar ddwy ysgwydd y mochyn.

(3) Caiff ceidwad farcio mochyn ag unrhyw wybodaeth arall, neu ychwanegu gwybodaeth arall ar y tag clust neu at y tatŵ a ddarperir ar yr amod y gellir gwahaniaethu'n glir rhwng yr wybodaeth ychwanegol a'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan y Gorchymyn hwn.

Adnabod moch a symudir oddi ar ddaliad

7.—(1) Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad oni bai bod ganddo—

(a) tag clust ac arno'r llythrennau “UK” ac, yn eu dilyn, y marc cenfaint ar gyfer y daliad y symudir y mochyn ohono; neu

(b) tatŵ yn dangos y marc cenfaint hwnnw (ynghyd â'r llythrennau “UK” neu hebddynt).

(2) Yn achos marchnad—

(a) caniateir symud y mochyn oddi yno os yw wedi ei farcio â'r marc cenfaint ar gyfer y daliad y daeth ohono i gyrraedd y farchnad;

(b) os nad yw wedi ei farcio'n gywir pan fydd yn cyrraedd y farchnad, caiff ceidwad gywiro'r marciau adnabod er mwyn marcio'r mochyn â marc y daliad y daeth ohono i gyrraedd y farchnad, ond os na fydd y ceidwad yn gwneud hynny ni chaniateir ond ei ddychwelyd i'r daliad y daeth ohono.

Eithriad ar gyfer mochyn nad yw eto'n flwydd oed

8.—(1) Nid yw erthygl 7 yn gymwys mewn perthynas â mochyn nad yw eto'n flwydd oed ar yr amod ei fod wedi ei farcio â marc dros dro sydd—

(a) naill ai ar ei ben ei hun neu drwy gyfeirio at ddogfen sy'n mynd gyda'r mochyn pan gaiff ei symud, yn galluogi'r daliad y symudwyd y mochyn ohono ddiwethaf i gael ei adnabod; a

(b) yn para hyd oni fydd y mochyn yn cyrraedd ei gyrchfan.

(2) Nid yw'r eithriad hwn yn gymwys mewn perthynas â mochyn a symudir—

(a) i farchnad;

(b) i ladd-dy;

(c) at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned; neu

(ch) i sioe, etc. yn unol ag erthygl 10.

Gofynion ychwanegol ar gyfer allforio

9.  Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad at ddibenion masnachu neu allforio o fewn y Gymuned onid oes ganddo dag clust neu datŵ sy'n dwyn y llythrennau “UK” ac, yn eu dilyn, farc cenfaint a rhif adnabod unigol unigryw.

Gofynion ychwanegol ar gyfer symud moch i sioeau, etc

10.  Ni chaiff neb symud mochyn oddi ar ddaliad —

(a) i sioe neu arddangosfa; neu

(b) at ddibenion bridio gyda'r bwriad o ddychwelyd y mochyn i'r daliad y cafodd ei symud ohono,

onid yw wedi ei farcio'n unol ag erthygl 7 ac, at hynny, wedi ei farcio â marc adnabod sy'n cynnwys rhif adnabod unigol unigryw.

Adnabod moch a symudir i ddaliad o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd

11.—(1) Rhaid i berson sy'n mewnforio mochyn o fan y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd atodi tag clust i'r mochyn neu roi arno datŵ a rhaid i'r tag clust ar tatŵ gynnwys yr wybodaeth ganlynol, yn y drefn a ganlyn—

(a) y llythrennau “UK”;

(b) y marc cenfaint ar gyfer y genfaint y daw'r mochyn a allforiwyd i berthyn iddi;

(c) unrhyw wybodaeth arall, os bydd y ceidwad yn dymuno cynnwys y cyfryw wybodaeth; ac

(ch) y llythyren “F”.

(2) Rhaid atodi'r tag clust i'r mochyn neu roi arno'r tatŵ o fewn 30 o ddiwrnodau ar ôl iddo gyrraedd daliad y gyrchfan, a beth bynnag, cyn iddo gael ei symud o'r daliad hwnnw.

RHAN 4 Symudiadau

Symud moch

12.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo moch gario dogfen, a lofnodwyd gan y ceidwad, sy'n pennu—

(a) y cyfeiriad, gan gynnwys cod post a rhif CPH y daliadau y mae'r mochyn yn cael ei symud ohonynt ac iddynt;

(b) dyddiad symud y moch neu'r mochyn;

(c) nifer y moch y mae'r ddogfen honno'n eu cwmpasu;

(ch) marc adnabod pob un o'r moch a symudir (yn achos symud a bennir yn erthygl 9 neu 10, rhaid i hwn gynnwys y rhif adnabod unigol unigryw y mae'r erthyglau hynny'n ei wneud yn ofynnol); ac

(d) yn achos symud mochyn o farchnad, rhifau lot y moch sy'n cael eu symud.

(2) Rhaid i'r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) roi'r ddogfen i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan a rhaid i'r ceidwad ei chadw am 6 mis o leiaf.

(3) Rhaid i'r ceidwad yn naliad y gyrchfan anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r mochyn gyrraedd.

(4) Rhaid i geidwad mochyn sy'n cael ei symud y tu allan i Gymru anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (1) at yr awdurdod lleol ar gyfer y daliad traddodi.

(5) Yn yr erthygl hon ystyr “rhif CPH” yw'r rhif y daliad ym mhlwyf y sir a roddir i ddaliad neu ran o ddaliad gan Weinidogion Cymru.

Trwyddedau cerdded i foch anwes

13.  Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded gerdded i geidwad mochyn anwes i ganiatáu iddo fynd â'r mochyn am dro oddi ar y daliad heb gydymffurfio ag erthygl 5 neu 12, ond rhaid i'r person sy'n mynd â'r mochyn am dro gario copi o'r drwydded tra bydd allan am dro gyda'r mochyn.

Daliadau cymeradwy

14.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo daliad at ddibenion symud moch a fwriedir ar gyfer bridio neu besgi.

(2) Rhaid i'r gymeradwyaeth bennu pa ddaliadau y caniateir symud moch ohonynt a pha ddaliadau y caniateir eu symud iddynt.

(3) Nid yw symud mochyn rhwng daliadau sydd wedi eu cymeradwyo o dan yr erthygl hon yn sbarduno'r cyfnod segur yng Ngorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(2).

(2)

O.S. 2003/1966 (Cy.211). Back [2]