Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 1 Rhagarweiniad

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008.

(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 24 Gorffennaf 2008.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sydd â gofal a rheolaeth dros foch, boed hynny ar sail dros dro neu barhaol, ond nid yw'n cynnwys person nad yw ond yn cludo moch;

ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw fan lle y mae moch yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;

mae i “marc cenfaint” (“herdmark”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(2).

Hysbysiadau, etc

3.  Rhaid i unrhyw hysbysiad, trwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir atal, diwygio neu ddirymu unrhyw un o'r rhain yn ysgrifenedig ar unrhyw amser.

RHAN 2 Cofnodion

Hysbysu gan ddaliadau

4.—(1) Rhaid i feddiannwr daliad sy'n dechrau cadw moch ar y daliad hwnnw ac unrhyw berson sy'n cymryd meddiannaeth o ddaliad lle y cedwir moch hysbysu Gweinidogion Cymru o'r wybodaeth ganlynol o fewn un mis—

(a) eu henw a'u cyfeiriad; a

(b) cyfeiriad y daliad.

(2) Pan fydd hysbysiad o dan baragraff (1) yn dod i law Gweinidogion Cymru rhaid iddynt ddyroddi cod alffaniwmerig ar gyfer pob cenfaint o foch ar y daliad (y “marc cenfaint”).

(3) Rhaid i'r meddiannydd hysbysu Gweinidogion Cymru o unrhyw newid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis ar ôl i'r newid gael ei wneud.

Cofnodion

5.—(1) O fewn 36 awr ar ôl symud mochyn i ddaliad neu oddi arno, rhaid i'r ceidwad lenwi'r ffurflen yn yr Atodlen.

(2) O leiaf unwaith y flwyddyn rhaid i'r ceidwad gofnodi uchafswm nifer y moch a gedwir fel arfer ar y daliad.

(3) Rhaid i'r ceidwad gadw'r cofnodion am 6 blynedd o leiaf.

(1)

1981 p. 22. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd OS 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau un o Weinidogion y Goron, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd OS 2004/3044. Mae adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p.32 ac Atodlen 11 iddi yn breinio'r swyddogaethau hyn yng Ngweinidogion Cymru. Back [1]