Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1732 (Cy.169)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008

Gwnaed

1 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

Yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 102, adran 108(2) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy(2), ac wedi gwneud y cyfryw drefniadau y maent yn eu hystyried yn briodol ar gyfer ymgynghori yn unol ag adran 117 o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Y Cyfnod Sylfaen) (Cymru) 2008.

(2) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i rym—

(a) ar 1 Awst 2008 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y cyfnod sylfaen;

(b) ar 1 Awst 2009 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y cyfnod sylfaen;

(c) ar 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn nhrydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen; ac

(ch) ar 1 Awst 2011 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen.

(3) Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002; ac

ystyr “y ddogfen” (“the document”) yw'r ddogfen a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ym mis Ionawr 2008 o dan yr enw “Cyfnod Sylfaen: Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant 3 i 7 oed yng Nghymru”(3).

(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y cyfnod sylfaen

2.—(1) Y cyfnod sylfaen o ran disgybl yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r amser perthnasol (fel y'i diffinnir ym mharagraff (2)) ac sy'n diweddu ar yr un amser â'r flwyddyn ysgol y bydd mwyafrif y disgyblion yn nosbarth y disgybl yn cyrraedd saith oed ynddi.

(2) Ym mharagraff (1) ystyr “yr amser perthnasol” (“the relevant time”) yw—

(a) yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir cyn iddo gyrraedd tair oed, ei drydydd pen-blwydd;

(b) yn achos plentyn y darperir iddo addysg feithrin a ariennir ar ôl iddo gyrraedd yr oedran hwnnw, yr amser pan ddarperir yr addysg honno iddo gyntaf; ac

(c) yn achos plentyn na ddarperir iddo unrhyw addysg feithrin a ariennir, yr amser pan fydd yn cael gyntaf addysg gynradd nad yw'n addysg feithrin.

Y meysydd dysgu, y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol

3.—(1) Y darpariaethau sy'n ymwneud â meysydd dysgu, canlyniadau dymunol a rhaglenni addysgol a osodir yn y ddogfen yn effeithiol at ddibenion pennu'r meysydd dysgu, y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol ar gyfer y cyfnod sylfaen.

(2) Nid yw'r canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol sy'n ymwneud â'r maes dysgu a elwir Datblygu'r Gymraeg a osodir yn y ddogfen i'w cymhwyso i ddisgybl yn y cyfnod sylfaen os caiff y disgybl hwnnw ei addysgu yn gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Cymraeg.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

1 Gorffennaf 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Cyflwynir y cyfnod sylfaen ar gyfer blwyddyn gyntaf y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2008, ar gyfer ail flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2009, ar gyfer trydedd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2010 ac ar gyfer pedwaredd flwyddyn y cyfnod sylfaen ar 1 Awst 2011. Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn pennu cyfnod y cyfnod sylfaen ac yn rhoi effaith gyfreithiol i'r meysydd dysgu, sy'n gosod y canlyniadau dymunol a'r rhaglenni addysgol.

(2)

Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32). Back [2]

(3)

ISBN Rhif 9780750444293. Back [3]