Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1716 (Cy.163)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

28 Mehefin 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

31 Gorffennaf 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2008.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008.

2.—(1) Mae Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008 (3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn:—

(2) Yn rheoliad 4(1)(f) yn y testun Cymraeg yn unig yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”.

(3) Yn rheoliad 4(1)( h) yn y testun Saesneg yn unig yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Welsh Ministers”.

(4) Yn rheoliad 6, yn y testun Cymraeg yn unig, yn lle'r ymadrodd “awdurdodau lleol”, rhodder yr ymadrodd “awdurdod lleol”.

(5) Yn rheoliad 7, yn y testun Cymraeg yn unig, rhwng “gwybodaeth” ac “yn” mewnosoder “ar unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau eraill neu unrhyw gyhoeddiadau”.

(6) Yn rheoliad 9, yn y testun Cymraeg yn unig, yn lle “adnoddau”, rhodder “ffynonellau”.

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

28 Mehefin 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2008 i gywiro anghysonderau yn nhestun y Rheoliadau.

(2)

Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Back [2]

(3)

O.S. 2008/170 (Cy.23). Back [3]

Amended by correction slip on 01 July 2008