1. Rhaid profi deunyddiau ac eitemau plastig o dan yr amodau prawf a bennir yn Rhan 5 gan ddefnyddio efelychydd neu efelychwyr a ddewisir yn unol â'r Rhan hon a chan gymryd sbesimen newydd i'w brofi o'r deunydd neu'r eitem plastig ar gyfer pob efelychydd a ddefnyddir.
2.—(1) Pan fo prawf yn cael ei wneud ar ddeunydd neu eitem plastig y bwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â mwy nag un bwyd neu grŵp o fwydydd a bod ffactor rhydwytho wedi ei bennu ar gyfer un neu fwy o'r bwydydd hynny neu o'r grwpiau hynny o fwydydd nad yw'n gyfwerth â'r ffactor rhydwytho sydd wedi ei bennu ar gyfer un neu fwy o'r bwydydd eraill neu o'r grwpiau eraill o fwydydd y bwriedir i'r deunydd neu'r eitem plastig ddod i gyffyrddiad â hwy—
(a) rhaid cymhwyso i ganlyniad y prawf y ffactor rhydwytho sydd wedi ei bennu ar gyfer pob bwyd neu grŵp o fwydydd, fel y bo'n briodol; a
(b) rhaid trin y deunydd neu'r eitem plastig fel pe bai'n gallu trosglwyddo'i gyfansoddion i fwyd y gallai ddod i gyffyrddiad ag ef dros ben y terfyn ymfudiad sydd wedi ei bennu yn rheoliad 9 neu yn yr Atodiadau os bydd un neu fwy o'r canlyniadau, yn dilyn cymhwyso'r ffactorau rhydwytho penodedig hynny, yn dangos nad yw'r deunydd neu'r eitem yn cydymffurfio â'r terfyn ymfudiad penodedig hwnnw.
(2) At ddibenion y paragraff hwn —
(a) y ffigur sy'n dilyn “X” a blaenslaes yn y grŵp o golofnau sy'n dwyn y pennawd “Efelychwyr i'w defnyddio” yn y Tabl i Ran 4 yw'r ffactor rhydwytho;
(b) mae ffactor rhydwytho wedi ei bennu ar gyfer bwyd neu grŵp o fwydydd pan fydd, yn y Tabl yn Rhan 4 —
(i) y bwyd neu'r grŵp o fwydydd wedi ei ddisgrifo yn y golofn sy'n dwyn y pennawd “Disgrifiad o'r bwyd”, a
(ii) “X” wedi ei osod mewn colofn ac iddi efelychydd penodedig yn bennawd, gyferbyn â'r bwyd hwnnw neu'r grŵp hwnnw o fwydydd a chyda blaenslaes a ffactor rhydwytho ar ei ôl;
(c) mae ffactor rhydwytho i'w gymhwyso i ganlyniad prawf drwy rannu'r canlyniad â'r ffactor rhydwytho hwnnw.
3. Mae mathau o fwyd wedi eu diffinio yn Nhabl 1 isod fel a ganlyn—
| Diffiniad | Ystyr |
|---|---|
| Bwydydd dyfrllyd â pH > 4.5 | Bwydydd nad oes ond efelychydd A wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
| Bwydydd asidig â pH < 4.5 | Bwydydd nad oes ond efelychydd B wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
| Bwydydd alcoholaidd | Bwydydd nad oes ond efelychydd C wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
| Bwydydd brasterog | Bwydydd nad oes ond efelychydd D wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
| Bwydydd Sych | Bwydydd nad oes efelychydd wedi ei bennu mewn perthynas â hwy yn y Tabl yn Rhan 4 |
4. Efelychydd B, efelychydd C ac efelychydd D, sef y rhai a gânt eu hystyried yn rhai mwy heriol o dan yr amodau prawf sydd wedi eu diffinio yn Rhan 5 yw'r efelychwyr sydd i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig y bwriedir iddo ddod i gyffyrddiad â phob math o fwyd.
5. Y canlynol yw'r efelychydd neu'r efelychwyr sydd i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig sydd eisoes mewn cyffyrddiad â bwyd hysbys—
(a) pan fydd—
(i) y bwyd hysbys yn fwyd penodol neu'n fwyd sydd yn dod o fewn grŵp penodol o fwydydd a ddisgrifir yng ngholofn 2 o'r Tabl yn Rhan 4 a,
(ii) at ddibenion y Rhan honno, efelychydd neu efelychwyr wedi ei bennu neu eu pennu mewn perthynas â'r bwyd penodol hwnnw neu'r grŵp penodol hwnnw o fwydydd,
yr efelychydd neu'r efelychwyr a bennir felly;
(b) pan—
(i) nad yw'r bwyd hysbys yn fwyd penodol, nac
(ii) yn dod o fewn grŵp penodol o fwydydd a ddisgrifir yn y Tabl yn Rhan 4 o'r Atodlen hon,
yr efelychydd neu'r efelychwyr yng ngholofn 2 yn Nhabl 2 gyferbyn â'r disgrifiad o'r bwyd yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw sy'n cyfateb yn fwyaf agos i'r bwyd hysbys.
6. Mae'n orfodol mai'r efelychydd neu'r efelychwyr, a geir yng ngholofn 2 yn Nhabl 2 gyferbyn â'r bwyd mewn cyffyrddiad a geir yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw, ac sy'n cyfateb yn fwyaf agos at y math neu'r mathau o fwyd y caniateir defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig gydag ef, fel a nodir gan y dangosiad sy'n mynd gyda'r deunydd neu'r eitem plastig, yw'r efelychydd neu'r efelychwyr sydd i'w ddefnyddio neu i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig y mae yn mynd gydag ef, yn unol â Rheoliad 1935/2004, ddangosiad penodol sy'n nodi unrhyw fath neu fathau o fwyd a ddisgrifir yn Nhabl 1 ac y caniateir neu na chaniateir defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig gydag ef neu gyda hwy.
7. Y canlynol yw'r efelychydd neu'r efelychwyr sydd i'w defnyddio i brofi deunydd neu eitem plastig y mae yn mynd gydag ef, yn unol â Rheoliad 1935/2004, ddangosiad penodol wedi ei fynegi yn unol â pharagraff 8, sy'n nodi unrhyw fwyd neu grŵp o fwydydd a ddisgrifir yn y Tabl yn Rhan 4 y caniateir neu na chaniateir defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig gydag ef—
(a) pan fydd y dangosiad yn datgan y caniateir i'r deunydd neu'r eitem plastig gael ei ddefnyddio gyda bwyd neu grŵp o fwydydd a ddisgrifir yng ngholofn 2 yn y Tabl yn Rhan 4, yr efelychydd bwyd neu'r efelychwyr bwyd sydd, at ddibenion Rhan 4, wedi ei bennu neu eu pennu mewn perthynas â'r bwyd hwnnw neu â'r grŵp hwnnw o fwydydd;
(b) pan fydd y dangosiad yn datgan na chaniateir i'r deunydd neu'r eitem plastig gael ei ddefnyddio gydag unrhyw fwyd neu grŵp o fwydydd a ddisgrifir yng ngholofn 2 yn y Tabl yn Rhan 4, efelychydd ac eithrio'r un sydd, at ddibenion Rhan 4, wedi ei bennu mewn perthynas â'r bwyd hwnnw neu â'r grŵp hwnnw o fwydydd.
8. Mae dangosiad penodol y cyfeirir ato ym mharagraff 7 wedi ei fynegi'n unol â'r paragraff hwn os yw wedi ei fynegi—
(a) ar gam marchnata ac eithrio manwerthu, drwy ddefnyddio'r rhif cyfeirnod yng ngholofn 1 yn y Tabl yn Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn neu'r disgrifiad o fwyd yng ngholofn 2 o'r Tabl hwnnw sydd, yn y naill achos a'r llall, yn cyfateb i'r bwyd;
(b) ar y cam manwerthu, drwy ddefnyddio dangosiad sy'n cyfeirio at rai bwydydd neu grwpiau o fwydydd a ddisgrifir yn y Tabl yn Rhan 4 yn unig.
| Bwyd sy'n dod i gyffyrddiad | Efelychydd |
|---|---|
| Dim ond bwydydd dyfrllyd | Efelychydd A |
| Dim ond bwydydd asidig | Efelychydd B |
| Dim ond bwydydd alcoholaidd | Efelychydd C |
| Dim ond bwydydd brasterog | Efelychydd D |
| Pob bwyd dyfrllyd ac asidig | Efelychydd B |
| Pob bwyd alcoholaidd a dyfrllyd | Efelychydd C |
| Pob bwyd alcoholaidd ac asidig | Efelychydd C a B |
| Pob bwyd brasterog a dyfrllyd | Efelychwyr D ac A |
| Pob bwyd brasterog ac asidig | Efelychwyr D a B |
| Pob bwyd brasterog, alcoholaidd a dyfrllyd | Efelychwyr D ac C |
| Pob bwyd brasterog, alcoholaidd ac asidig | Efelychwyr D, C a B |