Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliadau 9 a 13

ATODLEN 3 Profi Ymfudiad Cyflawn a Phenodol drwy Ddefnyddio Efelychwyr Bwyd

RHAN 1 Rheolau Sylfaenol

1.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 2, 3 a 4 o'r Rhan hon, rhaid gwneud profion ymfudiad i benderfynu ymfudiad penodol a chyflawn drwy ddefnyddio'r efelychwyr bwyd a bennir yn Rhannau 2, 3 a, phan fo hynny'n briodol 4, ac o dan amodau prawf ymfudiad confensiynol fel a bennir yn Rhan 5.

2.  Yn ddarostyngedig i baragraffau 3 a 4 o'r Rhan hon, rhaid gwneud profion disodli sy'n defnyddio cyfryngau prawf o dan yr amodau profion disodli confensiynol fel a bennir yn Rhan 6 os nad yw'r prawf ymfudiad sy'n defnyddio'r efelychwyr bwyd brasterog a bennir yn Rhan 3 yn bosibl am resymau technegol sy'n gysylltiedig â'r dull dadansoddi.

3.  Yn ddarostyngedig i baragraff 4 o'r Rhan hon, caniateir defnyddio profion amgen fel a bennir yn Rhan 7 yn lle'r prawf ymfudiad gydag efelychwyr bwyd brasterog a bennir yn Rhan 3 ond ni chaniateir defnyddio canlyniadau'r cyfryw brofion amgen i benderfynu cydymffurfedd â therfyn ymfudiad oni chyflawnir yr amodau a bennir yn Rhan 7.

4.  Mewn profion ymfudiad caniateir—

(a) gostwng nifer y profion sydd i'w gwneud gan ddefnyddio dim ond y prawf hwnnw neu'r profion hynny y cydnabyddir yn gyffredinol mai ef neu hwy, yn yr achos penodol o dan sylw, yw'r rhai mwyaf heriol ar sail tystiolaeth wyddonol;

(b) hepgor y profion ymfudiad, y profion disodli neu'r profion amgen —

(i) os bod prawf digamsyniol na ellir mynd dros ben y terfynau ymfudiad o dan unrhyw amodau y gellir eu rhagweld o ran defnyddio'r deunydd neu'r eitem, neu

(ii) os bodlonir yr amodau ar gyfer profion nad ydynt yn orfodol a geir yn Erthygl 8(2) neu 8(3) o'r Gyfarwyddeb.

RHAN 2 Efelychwyr Bwyd i'w defnyddio mewn Profion Ymfudiad

1.  Yn ddarostyngedig i Rannau 3, 4, 5 a 7, mae'r efelychwyr sydd i'w defnyddio mewn profion ymfudiad yn cael eu pennu yn y Tabl yn y paragraff hwn (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “y Tabl”).

1 2
Byrfodd Efelychydd Bwyd
Efelychydd A: cyfatebol Dŵr distyll neu ddŵr o ansawdd
Efelychydd B: 3% Asid asetig (w/v) mewn hydoddiant dyfrllyd
Efelychydd C 10% Ethanol (v/v) mewn hydoddiant dyfrllyd ac eithrio bod yn rhaid i grynodiad yr hydoddiant ethanol gael ei addasu yn ôl gwir gryfder alcoholaidd y bwyd os yw'n fwy na 10% (v/v)
Efelychydd D: Olew olewydd coeth ac iddo'r nodweddion a bennir ym mharagraff 3 neu, yn ddarostyngedig i baragraff 5, unrhyw un neu rai o'r efelychwyr bwyd brasterog a bennir ym mharagraff 4

2.  At ddibenion yr Atodlen hon ystyr cyfeiriad at fyrfodd yng ngholofn 1 yn y Tabl yw cyfeiriad at yr efelychydd yng ngholofn 1 yn y Tabl hwnnw sydd gyferbyn â'r byrfodd hwnnw.

3.  Y nodweddion olew olewydd coeth y cyfeirir atynt yn y Tabl yw —

(a) Gwerth ïodin (Wijs) = 80 i 88;

(b) Indecs plygiant ar 25°C = 1.4665 i 1.4679;

(c) Asidedd (wedi ei fynegi fel % o asid olëig) = mwyafswm o 0.5%;

(ch) Rhif perocsid (wedi ei fynegi fel miligyfwerthoedd ocsigen fesul kg o olew) = mwyafswm o 10.

4.  Yr efelychwyr bwyd brasterog y cyfeirir atynt yn y Tabl yw—

(a) olew corn ac iddo fanylebau wedi eu safoni;

(b) olew blodau'r haul, y mae ei nodweddion fel a ganlyn —

(i) Gwerth ïodin (Wijs) = 120 i 145;

(ii) Indecs plygiant ar 20°C = 1.474 i 1.476;

(iii) Rhif seboneiddiad = 188 i 193;

(iv) Crynodiad cymharol ar 20°C = 0.918 i 0.925;

(v) Deunydd anseboneiddiadwy = 0.5% i 1.5%;

(c) cymysgedd synthetig o driglyseridau y mae ei gyfansoddiad fel a nodir yn y tablau a ganlyn:

Dosbarthiad asid brasterog

Y nifer o C-atomau mewn gweddillion asid brasterog 6 8 10 12 14 16 18 eraill
Maes GLC (%) 1 6—9 8—11 45—52 12—15 8—10 8—12 1

  

Purdeb

Cynnwys monogl yseridau (yn ensymig) <0.2%
Cynnwys diglyseridau (yn ensymig) <2.0%
Deunydd anseboneiddiadwy <0.2%
Gwerth ïodin(Wijs) <0.1%
Gwerth asid <0.1%
Cynnwys dŵr (K Fischer) <0.1%
Ymdoddbwynt 28 ± 2°C

  

Sbectrwm amsugno nodweddiadol (trwch haen: d = 1 cm; Cyfeirnod: dŵr ar dymheredd o 35°C)

Tonfedd (nm) 290 310 330 350 370 390 430 470 510
Trawsyriant (%) 2 15 37 64 80 88 95 97 98
Trawsyriant golau o 10% o leiaf ar 310 nm

5.  Pan ddefnyddir efelychydd bwyd brasterog a bennir ym mharagraff 4 mewn prawf ymfudiad a bod canlyniad y prawf hwnnw'n dangos nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio ag unrhyw derfyn ymfudiad a bennir yn rheoliad 9 neu yn yr Atodiadau, rhaid gwirio nad yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â'r ymfudiad penodedig drwy brofi'r deunydd neu'r eitem hwnnw gan ddefnyddio olew olewydd os yw profi o'r fath yn dechnegol bosibl, ac os nad yw'r cyfryw brofi'n dechnegol bosibl bernir nad yw'r deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â'r terfyn ymfudiad penodedig.