Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Rheoliadau 9 a 13

ATODLEN 2 Darpariaethau sy'n Gymwys pan Brofir Cydymffurfedd â'r Terfynau Ymfudiad

Darpariaethau Cyffredinol

1.  Pan benderfynir yn ddadansoddol ganlyniadau'r profion ymfudiad a bennir yn yr Atodlen hon a, phan fo hynny'n briodol, yn Atodlen 3, rhaid tybio mai 1 fydd disgyrchiant penodol unrhyw efelychwyr a ddefnyddir, fel y bydd nifer y miligramau o unrhyw sylwedd a ryddheir fesul litr o efelychydd yn cyfateb yn rhifol i nifer y miligramau o'r sylwedd hwnnw a ryddheir fesul cilogram o'r efelychydd hwnnw.

2.  Pan wneir ar unrhyw sampl a gymerir o unrhyw ddeunydd neu eitem plastig unrhyw brawf ymfudiad a bennir yn yr Atodlen hon a, phan fo hynny'n briodol, yn Atodlen 3, a phan fo'r sympiau o fwyd neu efelychydd a osodir mewn cyffyrddiad â'r sampl yn wahanol i'r rhai a ddefnyddir yn yr amgylchiadau go iawn y mae'r deunydd neu'r eitem plastig yn cael ei ddefnyddio neu y bydd yn cael ei ddefnyddio oddi tanynt, dylid cywiro'r canlyniadau a geir drwy gymhwyso'r fformiwla M = (( m.a2/a1.q). 1000) os —

(a) M yw'r ymfudiad mewn mg/kg:

(b) m yw'r màs yn yr mg o sylwedd a ryddheir gan y sampl fel y'i penderfynir gan y prawf ymfudiad;

(c) a1 yw arwynebedd mewn decimetrau sgwâr y sampl mewn cyffyrddiad â'r bwyd neu'r efelychydd yn ystod y prawf ymfudiad;

(ch) a2 yw arwynebedd mewn decimetrau sgwâr y deunydd neu'r eitem plastig o dan amgylchiadau defnyddio go iawn; a

(d) q yw'r swmp o fwyd mewn gramau sydd mewn cyffyrddiad â'r deunydd neu'r eitem plastig o dan amgylchiadau defnyddio go iawn.

3.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i unrhyw brofi a wneir ar ymfudiad o unrhyw ddeunydd neu eitem plastig gael ei wneud ar y deunydd neu'r eitem plastig hwnnw.

(2) Mewn unrhyw achos pan fydd penderfyniad yn unol ag is-baragraff (1) uchod yn anymarferol, rhaid gwneud gwaith profi o'r fath, gan ddefnyddio naill ai sbesimenau a gymerir o'r deunydd neu'r eitem plastig hwnnw, neu lle y bo'n briodol, sbesimenau sy'n gynrychioliadol o'r deunydd neu'r eitem plastig hwnnw.

(3) Rhaid gosod unrhyw sampl a ddefnyddir ar gyfer gwaith profi o'r fath mewn cyffyrddiad â'r efelychydd neu'r bwyd, yn ôl y digwydd, mewn dull sy'n cynrychioli amodau cyffyrddiad defnyddio go iawn, ac at y diben hwn rhaid gwneud y gwaith profi yn y fath fodd fel mai dim ond y rhannau hynny o'r sampl y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â'r bwyd mewn amgylchiadau defnyddio go iawn fydd mewn cyffyrddiad â'r efelychydd neu'r bwyd.

(4) Rhaid i unrhyw brofion ymfudiad ar gapiau, gasgedi, topiau neu ddyfeisiadau tebyg ar gyfer selio gael eu gwneud ar yr eitemau hyn drwy eu rhoi ar y cynwysyddion y bwriedir hwy ar eu cyfer mewn dull sy'n cyfateb i amodau cau'r cynwysyddion pan y'i defnyddir yn arferol neu mewn ffordd a ragwelir.

4.—(1) Rhaid i unrhyw sampl o ddeunydd neu eitem plastig gael ei ddwyn i gyffyrddiad â'r efelychydd priodol neu'r bwyd am gyfnod ac ar dymheredd a ddewisir drwy gyfeirio at yr amodau cyffyrddiad defnyddio go iawn yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon a, phan fo hynny'n briodol, Atodlen 3.

(2) Ar ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1), rhaid gwneud, ar yr efelychydd neu'r bwyd, yn ôl y digwydd, benderfyniad dadansoddol o swmp cyfan sylweddau (ymfudiad cyflawn), o bob swmp penodol sylwedd (ymfudiad penodol) neu, yn ôl y digwydd, o'r swmp cyfan hwnnw ac o'r swmp penodol hwnnw a ryddheir gan y sampl.

(3) Rhaid gwirio bod ymfudiad i fwyd yn cydymffurfio â therfyn ymfudiad a bennir yn rheoliad 9 neu yn Atodiad II, III neu IV (at ddibenion yr Atodlen hon ac Atodlen 3 y cyfeirir atynt ar y cyd fel “yr Atodiadau”) a rhaid gwneud hynny o dan yr amodau defnyddio go iawn sydd hefyd y mwyaf eithafol a ragwelir o ran amser a thymheredd mewn amgylchiadau defnyddio go iawn yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon.

(4) Yn unol â darpariaethau'r Atodlen hon a thrwy ddefnyddio profion ymfudiad confensiynol, y ceir y rheolau sylfaenol ar eu cyfer yn Atodlen 3, rhaid gwirio bod ymfudiad i efelychwyr bwyd yn cydymffurfio â therfyn ymfudiad a bennir yn rheoliad 9, neu yn yr Atodiadau.

5.  Os bwriedir i ddeunydd neu eitem plastig ddod i gyffyrddiad dro ar ôl tro â bwyd, (yn ddarostyngedig i baragraff 7 isod) rhaid gwneud unrhyw brawf ymfudiad deirgwaith ar un sampl unigol yn unol â'r amodau a bennir yn yr Atodlen hon a, phan fo hynny'n briodol, yn Atodlen 3 gan ddefnyddio samplau gwahanol o'r efelychydd neu, yn ôl y digwydd, o'r bwyd, ar bob achlysur, rhaid trin y lefel ymfudiad a ganfyddir yn y trydydd prawf fel y lefel ymfudiad sy'n berthnasol i'r prawf hwnnw.

Darpariaethau arbennig sy'n berthnasol i'r ffactor rhydwytho braster

6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 7, rhaid cywiro canlyniadau profion ar gyfer ymfudiad penodol i fwydydd y mae mwy nag 20% ohonynt yn fraster, a hynny gan y ffactor rhydwytho braster (“FRF”), sef ffactor rhwng 1 a 5 (a fynegir fel MFRF) y mae ymfudiad mesuredig i fwyd brasterog neu i efelychydd D a'r hyn a ddefnyddir yn ei le gan sylweddau lipoffilig a restrir yn Atodiad IVa yn cael ei rannu ganddo cyn cymharu â therfynau ymfudiad penodol.

(2) Rhaid cymhwyso'r hafaliadau a ganlyn cyn cymharu â'r terfyn ymfudiad penodol —

(a) MFRF = M/FRF, a

(b) FRF = (g braster mewn bwyd/kg o fwyd)/200 = (% braster × 5)/100.

7.—(1) Ni chaniateir cywiro gan yr FRF —

(a) os yw'r deunydd neu'r eitem plastig mewn cyffyrddiad â bwydydd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant bach neu os bwriedir ei ddwyn i gyffyrddiad â'r bwydydd o'r fath;

(b) mewn perthynas â sylweddau a restrir yn yr Atodiadau a chanddynt gyfyngiad yng ngholofn (4) o SML = ND;

(c) mewn perthynas â sylweddau nas rhestrir yn yr Atodiadau ac a ddefnyddir y tu ôl i wahanfur swyddogaethol plastig gyda therfyn ymfudiad o 0.01 mg/kg;

(ch) ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (2), mewn perthynas â deunyddiau neu eitemau plastig —

(i) y mae'n anymarferol amcangyfrif y berthynas rhwng yr arwynebedd a swmp y bwyd mewn cyffyrddiad ag ef, oherwydd siâp, dull defnyddio a ffactorau eraill, a

(ii) os cyfrifir yr ymfudiad drwy ddefnyddio'r ffactor trosi confensiynol arwynebedd /cyfaint o 6 dm2/kg.

(2) Mewn perthynas â chynwysyddion ac eitemau eraill y gellir eu llenwi a chanddynt gapasiti o lai na 500 o fililitrau neu o fwy na 10 o litrau ac mewn perthynas â dalennau a ffilmiau mewn cyffyrddiad â bwydydd y mae mwy nag 20% ohonynt yn fraster —

(a) caniateir cyfrifo'r ymfudiad fel crynodiad (wedi ei fynegi fel mg/kg) yn y bwyd neu'r efelychydd bwyd a'i gywiro gan yr FRF; neu

(b) caniateir ail-gyfrifo'r ymfudiad fel mg/dm2 heb gymhwyso'r FRF,

ac ar yr amod bod y gwerth sy'n ganlyniad y cyfrifo o dan naill ai is-baragraff (a) neu (b) yn is na'r SML rhaid ystyried bod y deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio.

8.  Os yw defnyddio'r FRF o dan baragraff 6 neu 7(2) yn arwain at ganlyniad sy'n dynodi yr aed dros ben y terfyn ymfudiad cyflawn, rhaid peidio ag ystyried bod y deunydd neu'r eitem plastig o dan sylw yn cydymffurfio.

Darpariaethau arbennig sy'n berthnasol i gywiro ymfudiad penodol yn efelychydd D

9.  Rhaid cywiro ymfudiad penodol i efelychydd D a'r hyn a ddefnyddir yn ei le gan y sylweddau lipoffilig hynny a restrir yn Atodiad IV gan—

(a) ffactor rhydwytho efelychydd D (“DRF”), sef y ffactor rhydwytho y cyfeirir ato ym mharagraff 2(2) o Ran 3 a pharagraffau 2 a 3 o Ran 4 o Atodlen 3, ar yr amod —

(i) mewn achosion pan fo'r ymfudiad penodol i efelychydd D yn uwch nag 80% o gynnwys y sylwedd yn y deunydd neu'r eitem plastig gorffenedig, y gellir dangos drwy gyfrwng tystiolaeth wyddonol neu arbrofol, megis profi gyda'r bwydydd mwyaf critigol, bod y DRF yn briodol, a

(ii) nad yw'r sylwedd yn un a grybwyllir ym mharagraff 7(1)(b) neu (c);

(b) yr FRF, ar yr amod bod cynnwys braster y bwyd sydd i'w bacio yn hysbys a bod gofynion paragraffau 6, 7 ac 8 wedi eu bodloni; neu

(c) y ffactor rhydwytho crynswth (“TRF”), sef y ffactor —

(i) y mae'n rhaid rhannu ag ef, cyn cymharu â'r terfyn ymfudiad penodol, ymfudiad penodol mesuredig i efelychydd D neu i'r hyn a ddefnyddir yn ei le, a

(ii) a geir drwy luosi'r DRF gan yr FRF ag uchafswm gwerth o 5, pan fydd y ddau ffactor yn gymwys.

Darpariaethau arbennig sy'n berthnasol i ymfudiad cyflawn

10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), caniateir defnyddio unrhyw ddull penderfynu dadansoddol i brofi ymfudiad dros ben y terfyn ymfudiad cyflawn mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig.

(2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn pan honnir nad yw deunydd neu eitem plastig yn cydymffurfio â rheoliad 9 bydd yn amddiffyniad i'r person sy'n cael ei gyhuddo brofi'r canlynol—

(a) os oedd efelychydd dyfrllyd a bennir yn Atodlen 3 wedi ei ddefnyddio, a bod y penderfyniad dadansoddol o swmp cyfan y sylweddau a ryddhawyd gan sampl o'r deunydd neu'r eitem plastig a brofwyd wedi ei wneud drwy anweddu'r efelychydd a phwyso'r gweddillion; neu

(b) os oedd olew olewydd coeth neu unrhyw beth a ddefnyddiwyd yn ei le wedi ei ddefnyddio fel efelychydd a—

(i) bod sampl o'r deunydd neu'r eitem plastig wedi cael ei bwyso cyn ac ar ôl dod i gyffyrddiad â'r efelychydd;

(ii) bod yr efelychydd a amsugnwyd gan y sampl wedi ei echdynnu a'i benderfynu yn feintiol;

(iii) bod swmp yr efelychydd a ddarganfuwyd felly wedi ei dynnu o bwysau'r sampl a fesurwyd ar ôl iddo ddod i gyffyrddiad â'r efelychydd; ac

(iv) bod y gwahaniaeth rhwng y pwysau cychwynnol, a'r pwysau terfynol sydd wedi ei gywiro, wedi ei benderfynu i gynrychioli ymfudiad cyflawn y sampl a archwiliwyd,

ni fyddai'r cyfryw ymfudiad dros ben y terfyn wedi ei benderfynu.

11.—(1) Os bwriedir i ddeunydd neu eitem plastig ddod i gyffyrddiad â bwyd dro ar ôl tro a'i bod yn dechnegol amhosibl gwneud y prawf a ddisgrifir ym mharagraff 5, rhaid addasu'r prawf yn unol ag is-baragraff (2) neu yn y fath fodd arall a fydd yn galluogi penderfynu'r lefel ymfudiad sy'n digwydd yn ystod y trydydd prawf o'r fath, a chaniateir defnyddio penderfyniad yn dystiolaeth o'r ymfudiad cyflawn mewn perthynas â deunydd neu eitem plastig.

(2) Mae tri sampl o'r deunydd neu'r eitem plastig sy'n union yr un fath â'i gilydd i'w caffael, ac yn dilyn hynny—

(a) mae prawf priodol i'w wneud ar y sampl cyntaf yn unol â pharagraff 4 uchod a'r ymfudiad cyflawn i'w benderfynu (M1);

(b) mae'r ail sampl a'r trydydd i'w cadw o dan yr un amodau tymheredd ond mae'r cyfnod cyffyrddiad i fod yn ddwywaith neu deirgwaith y cyfnod a bennir ac mae ymfudiad cyflawn i'w benderfynu ym mhob achos (M2 a M3).

(3) Os gwnaed prawf addasedig yn unol ag is-baragraff (2), ar yr amod na fu i M1 nac M3 − M2 fynd dros ben y terfyn ymfudiad cyflawn, rhaid barnu bod y deunydd neu'r eitem plastig y gwnaed y prawf arno yn cydymffurfio â'r terfyn hwnnw.

12.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid barnu nad yw unrhyw ddeunydd neu eitem plastig sy'n mynd dros ben ei derfyn ymfudiad cyflawn o swm nad yw'n fwy na'r goddefiant dadansoddol a bennir yn is-baragraff (2) yn mynd dros ben ei derfyn ymfudiad cyflawn.

(2) Rhaid cymhwyso'r goddefiannau dadansoddol canlynol i derfynau ymfudiad cyflawn—

(a) 20 mg/kg neu, yn ôl y digwydd, 3 miligram y decimetr sgwâr mewn profion ymfudiad gan ddefnyddio olew olewydd coeth neu rywbeth arall yn ei le fel efelychydd;

(b) 12mg/kg neu, yn ôl y digwydd, 2 filigram y decimetr sgwâr mewn profion ymfudiad gan ddefnyddio efelychwyr eraill y cyfeirir atynt yn Atodlen 3.

Darpariaethau arbennig yn ymwneud â chapiau, caeadau, gasgedi, topiau ac eitemau selio tebyg

13.—(1) Os yw'r defnydd y bwriedir ei wneud o gapiau, caeadau, gasgedi, topiau ac eitemau selio tebyg yn hysbys, rhaid eu profi drwy eu rhoi ar y cynwysyddion y bwriedir hwy ar eu cyfer, a hynny o dan amodau cau sy'n cyfateb i'r defnydd arferol a ragwelir a chan dybio bod y cyfryw eitemau mewn cyffyrddiad â swmp o fwyd sy'n llenwi'r cynhwysydd.

(2) Rhaid mynegi canlyniadau unrhyw brofion a wneir o dan is-baragraff (1) mewn mg/kg neu mg/dm2 fel y bo'n briodol yn unol â gofynion rheoliad 9(2), gan ystyried, o ran yr eitem selio a'r cynhwysydd, y cyfanswm arwynebedd cyffyrddiad y mae'n bosibl iddo fod mewn cyffyrddiad â'r bwyd.

(3) Os nad yw'r defnydd y bwriedir ei wneud o eitem o'r math a grybwyllir yn is-baragraff (1) yn hysbys, rhaid—

(a) profi'r eitem ar wahân i'r cynhwysydd y bwriedir ef ar ei gyfer, a mynegi'r canlyniad mewn mg/eitem; a

(b) ychwanegu'r gwerth, os yw hynny'n briodol, at y swm sydd wedi ymfudo o'r cynhwysydd hwnnw.