25.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person wedi gwneud cais i gael cynnwys ychwanegyn cymwys yn rhestr y Gymuned y cyfeirir ati yn Erthygl 4 o'r Gyfarwyddeb.
(2) Rhaid i'r cais y cyfeirir ato ym mharagraff (1), gyda data sy'n ei gefnogi, fod wedi ei wneud i EFSA cyn 1 Ionawr 2007.
(3) Os bydd EFSA, yn ystod archwiliad o'r data y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), yn galw am wybodaeth atodol, gellir parhau i ddefnyddio'r ychwanegyn cymwys, os caniateir ei ddefnyddio fel arall dan gyfraith Cymru a Lloegr, hyd nes bydd EFSA wedi dyroddi barn, cyhyd â bod yr wybodaeth atodol wedi cael ei chyflwyno o fewn y terfynau amser a bennir gan EFSA.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn, ychwanegyn cymwys yw un y caniateir ei ddefnyddio mewn un neu fwy o Aelod-wladwriaethau cyn 1 Ionawr 2007.
26. Rhaid i'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf fod yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn yr un modd ag y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf —
(a) adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);
(b) adran 30(8) (ynghylch tystiolaeth ddogfennol);
(c) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n ymddwyn yn ddidwyll).
27. Yn Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) 1990(24), yn Atodlen 1 (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hynny yn gymwys iddynt) yn lle enw a chyfeirnod Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008, rhodder enw a chyfeirnod y Rheoliadau hyn.
28.—(1) Diwygir Rheoliadau 2007 yn unol â pharagraffau (2) i (3).
(2) Yn rheoliad 2(1) —
(a) hepgorer y diffiniad o “Rheoliadau 2008”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder y diffiniad a ganlyn—
“ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) (Rhif 2) 2008(25);”.
(3) Ym mharagraff (5) o reoliad 11 (terfynau ymfudo ar gyfer caen cellwlos atgynyrchiedig wedi ei araenu â phlastigion), yn lle'r ymadrodd “fel y'i darllenir gyda rheoliad 11” rhodder “fel y'i darllenir gyda rheoliad 13”.
29. Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Gasgedi mewn Caeadau) (Cymru) 2008(26), yn lle'r diffiniad “Rheoliad y Comisiwn” rhodder y diffiniad canlynol—
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007, sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, fel y mae wedi ei ddiwygio gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008(27);”.
30. Dirymir y Rheoliadau a ganlyn neu rannau ohonynt —
(a) Rheoliad 29(c) o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008(28);
(b) Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2008; ac
(c) Rheoliad 24 o Reoliadau 2007.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2008
Rheoliadau 4 a 5
1. Yn Adrannau A a B o Atodiadau II a III (y cyfeirir atynt gyda'i gilydd at ddibenion yr Atodlen hon fel “yr Atodiadau”)—
(a) rhif PM/REF unrhyw sylwedd yw ei rif cyfeirnod deunydd pacio CEE;
(b) rhif CAS unrhyw sylwedd yw ei Rif Cofrestrfa CAS (Gwasanaeth Crynoadau Cemegion);
(c) enw unrhyw sylwedd yw ei enw cemegol, ac i'r graddau y bydd unrhyw anghysondeb rhwng y rhif CAS a'r enw, rhaid i'r enw gael blaenoriaeth dros y rhif CAS; ac
(ch) cymerir mai ystyr cyfeiriadau at ymfudiad penodol yw ymfudiad penodol fel y'i mesurir yn unol ag Atodlenni 2 a 3.
2. Os bydd sylwedd sy'n ymddangos yn yr Atodiadau fel cyfansoddyn unigol hefyd yn dod o fewn term generig a geir ynddynt, mae'n orfodol mai'r cyfyngiad a ddynodir ar gyfer y cyfansoddyn unigol fydd y cyfyngiad sy'n gymwys i'r sylwedd hwnnw a rhaid trin y cofnod sy'n gymwys i'r term generig fel amrywiad i'r cyfryw raddau ag sy'n angenrheidiol.
3.—(1) Rhaid barnu bod yr eitemau a nodir yn Adran A neu B o Atodiad II yn cynnwys—
(a) sylweddau sy'n polymeru (gan gynnwys polygyddwyso, poly-ychwanegu neu unrhyw broses debyg arall) i weithgynhyrchu macromoleciwlau;
(b) sylweddau macromoleciwlaidd naturiol neu synthetig a ddefnyddir i weithgynhyrchu macromoleciwlau wedi eu haddasu, os nad yw'r monomerau sy'n ofynnol ar gyfer eu syntheseiddio wedi eu nodi felly; ac
(c) sylweddau a ddefnyddir i addasu sylweddau macromoleciwlaidd naturiol neu synthetig sy'n bodoli eisoes.
(2) Nid yw halwynau'r canlynol (gan gynnwys halwynau dwbl a halwynau asidau) yn cael eu cynnwys yn y rhestrau yn yr Atodiadau hyd yn oed os ydynt wedi eu hawdurdodi ac yn cael eu defnyddio'n fwriadol: alwminiwm, amoniwm, calsiwm, haearn, magnesiwm, potasiwm a sodiwm asidau, ffenolau neu alcoholau a awdurdodir; er hynny mae enwau sy'n cynnwys “...asid(au), halwynau” yn ymddangos yn y rhestrau os na chrybwyllir yr asid(au) rhydd cyfatebol.
(3) Nid yw halwynau'r canlynol (gan gynnwys halwynau dwbl a halwynau asidau) yn cael eu cynnwys yn y rhestrau yn yr Atodiadau hyd yn oed os ydynt wedi eu hawdurdodi ac yn cael eu defnyddio'n fwriadol: sinc asidau, ffenolau neu alcoholau a awdurdodir. Ar gyfer yr halwynau hyn mae SML Grŵp = 25/mg/kg (a fynegir fel Zn) yn gymwys. Mae'r un cyfyngiad o ran Zn yn gymwys i—
(a) sylweddau y mae eu henwau'n cynnwys “ ... ... ... ...asid(au), halwynau” ac a geir yn y rhestrau, os na chrybwyllir yr asid(au) rhydd cyfatebol; a
(b) sylweddau y cyfeirir atynt yn nodyn 38 yn Atodiad VI.
4. Yn achos sylweddau a restrir yn Adran B o Atodiad III, rhaid i derfynau ymfudiad penodol a bennir yng ngholofn 4 gael effaith pan wneir gwiriad o gydymffurfiad yn Efelychydd D neu mewn cyfryngau profi profion disodli fel a ragnodwyd yng Nghyfarwyddeb 82/711/EEC ac 85/572/EEC.
5. Pan fo cofnod yng ngholofn 4 yn yr Atodiadau (cyfyngiadau a manylebau) yn cynnwys rhif mewn cromfachau, mae'r cofnod hwnnw'n ddarostyngedig i nodyn sy'n ymwneud â'r rhif hwnnw fel y'i ceir yn Atodiad VI.