1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2 o'r Rhan hon y canlynol yw'r amodau y mae'n rhaid eu bodloni i ganiatáu i ganlyniad y naill brawf neu'r llall a bennir ym mharagraff 3 gael ei ddefnyddio fel dewis amgen yn lle canlyniad prawf ymfudiad a wneir o dan Ran 3—
(a) mae'r canlyniad a geir mewn “prawf cymharu” yn dangos bod y gwerthoedd yn gyfwerth â neu'n fwy na'r rhai a geir yn y prawf gydag efelychydd D; a
(b) nid yw'r ymfudiad sy'n digwydd yn y naill brawf neu'r llall a bennir ym mharagraff 3 dros ben y terfyn ymfudiad priodol, ar ôl cymhwyso'r ffactor rhydwytho priodol.
2. Nid oes raid i'r amod yn is-baragraff (a) o baragraff 1 gael ei fodloni os gellir dangos ar sail canlyniad arbrawf gwyddonol fod y gwerthoedd a geir yn y naill brawf neu'r llall a bennir ym mharagraff 3 yn gyfwerth â neu'n fwy na'r rhai a geir yn unrhyw brofion ymfudiad a bennir yn Rhan 3.
3. Y canlynol yw'r profion ymfudiad y cyfeirir atynt ym mharagraff 2 a 3—
(a) prawf a wneir gan ddefnyddio cyfryngau anweddol gan gynnwys isoocten, ethanol 95%, toddyddion anweddol eraill neu gymysgedd o doddyddion o dan y cyfryw amodau cyffyrddiad ag a fyddai'n arwain at werthoedd cyfwerth â neu fwy na'r rhai a geir mewn prawf yn defnyddio efelychydd D;
(b) profion eraill sy'n defnyddio cyfryngau a chanddynt bŵer echdynnu cryf iawn o dan amodau prawf heriol iawn os cydnabyddir yn gyffredinol, ar sail tystiolaeth wyddonol, bod y canlyniadau, o ddefnyddio'r profion hyn, yn gyfwerth â neu'n uwch na'r rhai a geir mewn prawf yn defnyddio efelychydd D.
Rheoliad 14
1. Enw a chyfeiriad y gweithredwr busnes sy'n gweithgynhyrchu neu'n mewnforio'r deunyddiau neu'r eitemau plastig neu'r sylweddau a fwriedir ar gyfer gweithgynhyrchu'r deunyddiau neu'r eitemau hynny.
2. Enw'r deunyddiau, yr eitemau neu'r sylweddau a fwriedir ar gyfer eu gweithgynhyrchu.
3. Dyddiad y datganiad.
4. Cadarnhad bod y deunyddiau neu'r eitemau plastig yn bodloni'r gofynion perthnasol a osodir yn y Gyfarwyddeb ac yn Rheoliad 1935/2004.
5. Gwybodaeth ddigonol mewn perthynas â'r sylweddau a ddefnyddir y mae cyfyngiadau neu fanylebau yn bodoli ar eu cyfer o dan y Gyfarwyddeb er mwyn caniatáu gweithredwyr busnes derbyn i sicrhau cydymffurfedd â hwy.
6. Gwybodaeth ddigonol mewn perthynas â'r sylweddau sy'n ddarostyngedig i gyfyngiad ar fwyd, a geir drwy gyfrwng data arbrofol neu gyfrifo theoretig ynghylch lefel eu hymfudiad penodol a, phan fo hynny'n briodol, feini prawf purdeb yn unol â'r Cyfarwyddebau purdeb i alluogi defnyddiwr y deunyddiau neu'r eitemau plastig i gydymffurfio â'r darpariaethau Cymunedol perthnasol neu, yn absenoldeb y cyfryw ddarpariaethau, â darpariaethau cenedlaethol sy'n gymwys i fwyd.
7. Manylebau ynghylch defnyddio'r deunydd neu'r eitem plastig, megis —
(a) y mathau o fwyd y bwriedir iddo fod mewn cyffyrddiad â hwy;
(b) amser a thymheredd ei drin a'i storio mewn cyffyrddiad â'r bwyd;
(c) cymhareb arwynebedd cyffyrddiad â bwyd i gyfaint a ddefnyddir i gadarnhau cydymffurfedd y deunydd neu'r eitem plastig.
8. Cadarnhad, pan ddefnyddir gwahanfur swyddogaethol plastig mewn plastig amlhaenog, bod y deunydd neu'r eitem plastig yn cydymffurfio â gofynion paragraffau 2 i 4 o Erthygl 7a o'r Gyfarwyddeb.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cyffyrddiad â Bwyd (Cymru) 2008, (O.S. 2008/1237 (Cy.124)), ac yn ailddeddfu'r Rheoliadau hynny gyda newidiadau penodol. Y prif newid yw darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi yng Nghymru Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 597/2008 sy'n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 372/2007 sy'n gosod terfynau ymfudiad trosiannol ar gyfer plastigyddion mewn gasgedi mewn caeadau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, (OJ Rhif L164 25.6.2008 tt.12—13), (“y Rheoliad Comisiwn newydd”). Mae'r Rheoliad Comisiwn newydd yn estyn y dyddiad terfyn perthnasol ar gyfer y cyfryw ddeunyddiau ac eitemau i 30 Ebrill 2009. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi'r Rheoliad Comisiwn newydd yn rheoliadau 22(3)(a) a 30(a).
2. Mae'r Rheoliadau yn Rhan 2—
(a) yn gwahardd gweithgareddau penodedig mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd neu eitem plastig (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2) sy'n methu â bodloni'r safonau gofynnol priodol a osodir yn y Rheoliadau (rheoliad 3);
(b) yn gwahardd defnyddio monomerau ac ychwanegion wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig ac eithrio yn unol ag amodau penodedig (rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn achos monomerau a rheoliad 5 ac Atodlen 1 yn achos ychwanegion);
(c) yn pennu'r safonau gofynnol sy'n ymwneud â galluogrwydd monomer neu ychwanegyn i drosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd (rheoliad 6 ar gyfer monomerau a rheoliad 7 ar gyfer ychwanegion);
(ch) yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â chynhyrchion a geir drwy eplesu bacterol (rheoliad 8 );
(d) yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â therfynau ymfudiad cyflawn o ddeunyddiau neu eitemau plastig i fwyd (rheoliad 9);
(dd) yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn ag ymfudiad aminau aromatig sylfaenol o ddeunyddiau neu eitemau plastig i fwyd (rheoliad 10);
(e) yn pennu'r safon ofynnol ynglŷn â deunyddiau ac eitemau amlhaenog plastig (rheoliad 11);
(f) yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad 1895/2005 ar gyfyngu ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwyd (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.28), sy'n cynnwys darpariaethau Cymunedol ynglŷn â'r deilliadau epocsi a elwir BADGE, BFDGE a NOGE (rheoliad 12);
(ff) yn pennu'r dulliau o benderfynu ar allu deunydd neu eitem plastig i drosglwyddo ei gyfansoddion i fwyd, ac i ganfod presenoldeb unrhyw gyfansoddion o'r fath mewn bwyd (rheoliad 13 ac Atodlenni 2 a 3);
(g) yn darparu bod rhaid, cyn y cam manwerthu, i wybodaeth ysgrifenedig benodedig benodol, gan gynnwys datganiad o gydymffurfiad deddfwriaethol, fynd gyda deunyddiau ac eitemau plastig (rheoliad 14 ac Atodlen 4).
3. Mae'r Rheoliadau yn Rhan 3 —
(a) yn dynodi awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd porthladd yn awdurdodau gorfodi yn eu hardaloedd neu yn eu rhanbarthau yn eu trefn (rheoliad 15);
(b) yn pennu'r tramgwyddau y gellir eu cyflawni o dan y Rheoliadau hyn ac yn gosod uchafswm y cosbau ar gollfarn (rheoliad 16);
(c) yn darparu y caniateir i unigolion sy'n gyfrifol am weithredoedd corff corfforaethol neu bartneriaeth Albanaidd gael eu herlyn ar y cyd am dramgwyddau gan y corff hwnnw neu'r bartneriaeth honno (rheoliad 17);
(ch) yn pennu terfyn amser ar gyfer cychwyn erlyniad (rheoliad 18);
(d) yn darparu ar gyfer erlyn person sy'n peri i berson arall dramgwyddo, p'un a yw achos yn cael ei ddwyn yn erbyn y tramgwyddwr gwreiddiol ai peidio (rheoliad 19);
(dd) yn darparu ar gyfer amddiffyniad o arfer diwydrwydd dyladwy am dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn (rheoliad 20);
(e) yn darparu amddiffyniad o ran gwerthu jariau gwydr sy'n cynnwys bwydydd penodol i fabanod a phlant bach ac sydd wedi eu selio â gasged PVC yn cynnwys olew ffa soia wedi ei epocsideiddio (rheoliad 21);
(f) yn darparu amddiffyniadau trosiannol o ran deunyddiau neu eitemau plastig penodol sydd eisoes wedi eu gweithgynhyrchu neu eu cylchredeg cyn bod newid yn y gyfraith a fyddai fel arall wedi gwneud eu gweithgynhyrchu neu eu cylchredeg yn anghyfreithlon (rheoliad 22);
(ff) yn pennu'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan anfonir sampl i gael ei dadansoddi (rheoliad 23);
(g) yn darparu ar gyfer cael dadansoddi sampl gyfeiriadol gan Labordy Cemegydd y Llywodraeth (rheoliad 24).
4. Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â'r cyfnod interim rhwng gwneud cais i Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop am awdurdodiad i ychwanegyn newydd a'r penderfyniad terfynol gan yr Awdurdod hwnnw (rheoliad 25).
5. Y prif Gyfarwyddebau a weithredwyd gan y Rheoliadau hyn yw —
(a) Cyfarwyddeb y Cyngor 82/711/EEC (OJ Rhif L297, 23.10.1982, t.26) sy'n gosod y rheolau sylfaenol sy'n angenrheidiol ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, fel y mae wedi ei diwygio gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 93/8/EEC (OJ Rhif L90, 14.4.1993, t.22) a 97/48/EC (OJ Rhif L222, 12.8.1997, t.10);
(b) Cyfarwyddeb y Cyngor 85/572/EEC sy'n gosod y rhestr o efelychwyr sydd i'w defnyddio ar gyfer profi ymfudiad cyfansoddion deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd (OJ Rhif L372, 31.12.1985, t.14), fel y mae wedi ei diwygio gan Gyfarwyddeb newydd y Comisiwn;
(c) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC (OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18) ynglŷn â deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gyffyrddiad â bwydydd, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2004/1/EC (OJ Rhif L7, 13.1.2004, t.45) a 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8) a 2005/79/EC (OJ Rhif L302, 19.11.2005, t.35), a Chyfarwyddeb newydd y Comisiwn.
6. Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn.