Offerynnau Statudol
BWYD, CYMRU
Gwnaed
27 Mehefin 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Mehefin 2008
Yn dod i rym
at ddiben rheoliad 30(a)
30 Mehefin 2008
at bob diben arall
1 Gorffennaf 2008
Gofynion ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau
3. Cyfyngu ar ddefnyddio, gwerthu neu fewnforio deunyddiau ac eitemau plastig
4. Cyfyngu ar ddefnyddio monomerau wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig
5. Cyfyngu ar ddefnyddio ychwanegion wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig
6. Y safon ofynnol i sicrhau nad oes ymfudiad cyfansoddion monomerau
7. Y safon ofynnol i sicrhau nad oes ymfudiad cyfansoddion ychwanegion
8. Y safon ofynnol ar gyfer cynhyrchion a geir drwy eplesu bacteriol
10. Y safon ofynnol i sicrhau nad oes ymfudiad aminau aromatig cynradd
11. Y safon ofynnol mewn perthynas â deunyddiau ac eitemau amlhaenog plastig
12. Darpariaethau yn ymwneud â defnyddio deilliadau epocsi penodol (BADGE, BFDGE a NOGE)
13. Dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion, a dulliau dadansoddi
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a), (2)(a) a (3), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) fel y'i darllenir ynghyd â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(3).
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i gyfeiriadau at yr Atodiadau i'r offeryn Cymunedol a bennir yn rheoliad 2(5) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn y drefn honno o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), “Deddf 1999”. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 26(3) gan Atodlen 6 i Ddeddf 1999. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990. Back [1]
1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006, p.51). Back [2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac fe'u trosglwyddwyd wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (2006 p.32). Back [3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 202/2008 (OJ Rhif L60, 5.3.2008, t.17). Back [4]