Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

Page 1 of 1

Offerynnau Statudol

2008 Rhif 1314 (Cy.136)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2008

Gwnaed

14 Mai 2008

Yn dod i rym

6 Mehefin 2008

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 6 Mehefin 2008.

Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003

2.—(1) Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003(2) wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.

(2) Yn erthygl 2, hepgorer y diffiniad o “milfeddyg”.

(3) Yn lle paragraff (3) o erthygl 14, rhodder—

(3) Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan drwydded benodol gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith..

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

14 Mai 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1966 (Cy.211)). Mae'n dileu diffiniad diangen ac yn egluro'r math o drwydded y cyfeirir ato yn erthygl 14(3) o'r Gorchymyn hwnnw.

Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(1)

1981 p. 22. Cafodd swyddogaethau o dan Ddeddf 1981 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r swyddogaethau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru. Back [1]

(2)

O.S. 2003/1966 (Cy.211). Back [2]