Page 1 of 1
Offerynnau Statudol
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gwnaed
13 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mai 2008
Yn dod i rym
12 Mehefin 2008
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2008. Daw i rym ar 12 Mehefin 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006(3) wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (2).
(2) Yn erthygl 5, yn lle “30 Mehefin 2008”, rhodder “30 Mehefin 2009”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
13 Mai 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006 (“Gorchymyn 2006”).
Yn benodol, mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio erthygl 5 o Orchymyn 2006, drwy newid y dyddiad, pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob cynllun trafnidiaeth lleol sy'n gymwys gael ei ddisodli, o 30 Mehefin 2008 i 30 Mehefin 2009.
Mae'r diwygiad yn angenrheidiol oherwydd yr oedi cyn cyhoeddi'r fersiwn derfynol o Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae'n ofynnol i gynlluniau trafnidiaeth lleol fod yn gyson â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ac yn ofynnol iddynt ei rhoi ar waith, ac felly ni ellir eu cwblhau hyd nes y cyhoeddir Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.