(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn trosi yng Nghymru Erthyglau 3 a 4 o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC sy'n gosod rheolau am iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu cynhyrchu, prosesu, dosbarthu a chyflwyno cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L 18, 23.1.2003, t 11).
Mae'r Erthyglau hyn hefyd yn cael eu trosi gan Orchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1079) (Cy.148), Gorchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006 (O.S. 2006/179 (Cy.30)) a Gorchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy'n Dod o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006 (O.S. 2006/2927) (Cy.262).
Trosir Erthyglau eraill o Gyfarwyddeb y Cyngor a mesurau eraill CE sy'n ychwanegu atynt gan—
(a) Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007 (O.S. 2007/3294) (Cy.290);
(b) Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/196) (Cy.15);
(c) Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1536) (Cy.153);
(ch) Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124);
(d) Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/376) (Cy.36); ac
(dd) Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31) (Cy.5).
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn trosi, i'r graddau y maent yn gymwys i glefyd Newcastle, Benderfyniad y Comisiwn 2007/118/EC sy'n sefydlu marc iechyd amgen yn unol â Chyfarwyddeb 2002/99/EC (OJ Rhif L 51, 20.2.2007, t 19).
Mae'r Rheoliadau hyn yn creu rhwymedigaethau o ran anifeiliaid neu ddofednod o fangreoedd lle yr amheuir neu lle y cadarnheir bod clwy clasurol y moch, clwy Affricanaidd y moch, clefyd pothellog y moch, rinderpest, pla'r defaid a'r geifr neu glefyd Newcastle yno, a'r ardal heintiedig a/neu'r parth gwarchod a'r parth goruchwylio a roddir ar waith pan gadarnheir un o'r clefydau hyn. Maent hefyd yn creu rhwymedigaethau a gwaharddiadau o ran y cig sy'n dod oddi wrth yr anifeiliaid a'r dofednod hyn.
Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i ddal gafael mewn cig sy'n dod o fangre a amheuir a distrywio cig sy'n dod o fangre heintiedig. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i olrhain cig sy'n dod o fangre heintiedig. Mae rheoliad 9 yn gwahardd cyflenwi neu allforio “cig dan gyfyngiadau”, sef cig sydd heb ei drin sy'n dod o anifeiliaid a allai gael haint o ardaloedd dan gyfyngiadau, onid yw'r cig yn gig o ddofednod o ardal dan gyfyngiadau clefyd Newcastle. Yn yr achos hwnnw, gellir masnachu'r cig ar y farchnad ddomestig ar yr amod bod gofynion penodol wedi'u bodloni.
Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i ladd-dai sy'n ymdrin ag anifeiliaid neu ddofednod dan gyfyngiadau a chig sy'n dod oddi wrth yr anifeiliaid neu'r dofednod hynny gael eu dynodi ac mae'n ei gwneud yn ofynnol gwahanu'r anifeiliaid neu'r dofednod hynny. Mae'n ofynnol dal gafael yn y cig os oes amheuaeth o glefyd, neu os cadarnheir hynny, yn y lladd-dy. Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau trin anifeiliaid hela sy'n trin cig dan gyfyngiadau gael eu dynodi.
Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol bod mangreoedd a sefydliadau yn cael eu dynodi cyn derbyn cig dan gyfyngiadau ac yn ei gwneud yn ofynnol bod cig dan gyfyngiadau yn y lleoedd hynny'n cael ei wahanu oddi wrth gig arall.
Mae rheoliad 13 yn ymwneud â marcio cig sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau. Y marc iechyd y cyfeirir ato ym mharagraff 1(a) o Atodlen 3 yw marc hirgrwn pan osodir ef o dan Reoliad y GE 854/2004 sy'n gosod rheolau penodedig ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L 155, 30.4.2004, t 206) marc sgwâr (dofednod) neu farc pentagonol (anifeiliaid hela gwyllt) o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004 (OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t.83). Goruchwylir gosod y marc iechyd gan swyddog o'r Gwasanaeth Hylendid Cig. Y marciau adnabod y cyfeirir atynt ym mharagraff 3 o Atodlen 3 yw'r marc cenedlaethol, unwaith eto mae hwn yn sgwâr ar gyfer dofednod a phentagonol ar gyfer anifeiliaid hela gwyllt, a'r marc adnabod amgen sydd ar siâp mat cwrw a darlunnir ef yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/118/EC.
Mae rheoliad 14 yn gymwys i symud cig dan gyfyngiadau ac mae rheoliad 15 yn gymwys i gadw cofnodion o ran y cyfryw gig.
Mae rheoliad 16 yn galluogi Gweinidogion Cymru i osod gofynion o ran llaeth a chynhyrchion llaeth i leihau'r risg o ymlediad clefyd.
Mae rheoliadau 17 i 24 yn ymwneud â gorfodi.
Mae Atodlen 1 yn gosod y ddeddfwriaeth y datgenir parthau ac ardaloedd oddi tani o ran y clefydau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy. Mae Atodlen 2 yn gosod y triniaethau sy'n rhaid i gig dan gyfyngiadau fynd odanynt. Mae Atodlen 3 yn gosod y gofynion marcio cig ar gyfer cig dan gyfyngiadau.
Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn wedi'i baratoi. Gellir cael copïau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.