Rheoliad 2
1. Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003(7)
2. Gorchymyn Pla'r Gwartheg 1928(8)
3. Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003(9)
4. Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003(10)
5. Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch 1972(11)
6. Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003(12)
Rheoliad 2
| Y driniaeth i'r cig | Y clefydau y mae'r driniaeth yn effeithiol yn eu herbyn |
|---|---|
(a) Triniaeth wresogi mewn cynhwysydd aerglos â gwerth F o 3 neu fwy (lle F yw effaith lladd sborau bacterol: mae gwerth F o 3 yn golygu bod y pwynt oeraf yn y cynnyrch wedi'i wresogi'n ddigonol i gyflawni'r un effaith ladd â 121°C mewn tair munud gyda chynhesu ac oeri enydaidd) |
Pob clefyd |
(b) Triniaeth wresogi ar dymheredd sydd o leiaf yn 70°C y mae'n rhaid ei gyrraedd ym mhob cwr o'r cig |
Pob clefyd ac eithrio clwy Affricanaidd y moch |
(c) Triniaeth wresogi ar dymheredd sydd o leiaf yn 80°C y mae'n rhaid ei gyrraedd ym mhob cwr o'r cig |
Pob clefyd |
(ch) Triniaeth wresogi mewn cynhwysydd aerglos hyd at o leiaf 60°C am o leiaf 4 awr ac yn ystod yr amser hwn rhaid i'r tymheredd craidd fod o leiaf yn 70°C am 30 o funudau |
Pob clefyd ac eithrio Clefyd Newcastle |
(d) Eplesu ac aeddfedu am gyfnod heb fod yn llai na naw mis ar gyfer cig heb esgyrn sy'n rhoi o ganlyniad y nodweddion canlynol: Gweithgaredd Dwr (Aw) â gwerth heb fod yn fwy na 0.93 neu werth pH o ddim mwy na 6 |
Pob clefyd ac eithrio pla'r defaid a'r geifr a chlefyd Newcastle |
(dd) Eplesu naturiol fel a geir yn (d) ond gyda'r asgwrn yn dal i fod yn y cig |
Clwy clasurol y moch a chlefyd pothellog y moch |
(e) Triniaeth o hamiau ac ystlysau sy'n golygu eplesu ac aeddfedu naturiol am o leiaf 190 o ddiwrnodau ar gyfer hamiau a 140 o ddiwrnodau ar gyfer ystlysau |
Clwy Affricanaidd y moch |
(f) Triniaeth wresogi sy'n sicrhau tymheredd craidd sy'n cyrraedd o leiaf 65°C am yr amser sy'n angenrheidiol i gyflawni gwerth pasteureiddio (pv) sy'n hafal i neu'n fwy na 40 |
Pla'r defaid a'r geifr |
Rheoliad 13
1. Rhaid i gig dan gyfyngiadau o anifeiliaid gael ei farcio â marc adnabod—
(a) sy'n groes groeslin, a osodwyd ar ben y marc iechyd neu'r marc adnabod a osodir o dan erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(13) neu erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 a (EC) Rhif 854/2004(14), sy'n ddwy linell syth sy'n croesdorri ar ganol y stamp ac sy'n caniatáu i'r wybodaeth a geir ar y marc sydd yno barhau'n ddarllenadwy, neu
(b) stamp hirgrwn unigol, ei led yn 6.5 cm a'i uchder yn 4.5 cm, y mae'r wybodaeth ganlynol yn ddarllenadwy arno:
(i) ar y rhan uchaf, y llythrennau UK;
(ii) yn y canol, rhif cymeradwyo'r sefydliad;
(iii) ar y rhan isaf, y llythrennau EC;
(iv) dwy linell syth sy'n croesi ar ganol y stamp yn y fath fodd nad yw'r wybodaeth yn cael ei chuddio;
(v) gwybodaeth sy'n dynodi pwy oedd yr arolygydd milfeddygol a arolygodd y cig.
2. Os defnyddir y stamp hirgrwn unigol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)—
(a) rhaid i'r llythrennau fod yn o leiaf 0.8 cm eu huchder;
(b) rhaid i'r ffigurau fod yn o leiaf 1 cm eu huchder; ac
(c) rhaid i'r defnydd o'r marc gael ei oruchwylio gan swyddog o'r Gwasanaeth Hylendid Cig.
3. Rhaid i gig dan gyfyngiadau o ddofednod gael ei farcio â marc adnabod—
(a) sy'n farc gwladol y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer cyflawni Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(15); neu
(b) y marc a ddisgrifir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/118/EC sy'n gosod rheolau manwl o ran marc adnabod amgen yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC(16).
4. Ceir gosod y marc adnabod yn unol â'r dulliau ym mharagraff 9, 10, 11 a 13 o adran 1(C) o Atodiad II i Reoliad EC Rhif 853/2004 sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(17).
5. Y “Gwasanaeth Hylendid Cig” (“Meat Hygiene Service”) yw'r corff sy'n dwyn yr enw hwnnw ac sy'n asiantaeth weithredol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
O.S. 2003/3273 (Cy.323). Back [7]
SR&O 1928/206. Back [8]
O.S. 2003/2456 (Cy.239). Back [9]
O.S. 2003/399 (Cy.56). Back [10]
O.S. 1972/1980. Back [11]
O.S. 2003/1079 (Cy.148). Back [12]
OJ Rhif L 226, 25.6.2004, t. 22. Back [13]
OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 83. Back [14]
OJ Rhif L 338, 22.12.2005, t. 83. Back [15]
OJ Rhif L 51, 20.02.2007, t. 19. Back [16]
OJ Rhif L 226, 25.06.2004, t. 22. Back [17]