Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3

Gofynion eraill

Gofynion o ran llaeth a chynhyrchion llaeth

16.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod gofynion o ran llaeth a chynhyrchion llaeth yn gymwys os ydynt o'r farn bod y gofynion hynny yn angenrheidiol i leihau'r risg o ymlediad clefyd.

(2) Mae “llaeth a chynhyrchion llaeth” (“milk and milk products”) yn cynnwys llaeth gwartheg, llaeth geifr, llaeth mamogiaid a chynhyrchion a gafwyd o'r cyfryw laeth a fwriadwyd ym mhob achos ar gyfer ei yfed neu ei fwyta gan bobl.

(3) O ran datganiad o dan baragraff (1)—

(a) rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b) ceir ei ddiwygio drwy ddatganiad pellach ar unrhyw bryd; ac

(c) dim ond drwy ddatganiad pellach y gellir ei ddirymu.

RHAN 4

Arolygu, tramgwyddau a gorfodi

Pwerau a dyletswyddau arolygwyr

17.—(1) Caiff arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, ar bob adeg resymol fynd i unrhyw fangre, sefydliad neu gerbyd er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn.

(2) Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod person sydd ag unrhyw gig yn ei feddiant yn dal gafael yn y cig hwnnw mewn man a bennir gan yr arolygydd.

(3) Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod person sydd â chig yn ei feddiant yn gwaredu'r cig hwnnw.

(4) Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod person sydd â chig yn ei feddiant yn trin y cig hwnnw.

(5) Caiff arolygydd gyflawni'r ymholiadau, archwiliadau a phrofion hynny a chymryd y samplau hynny y mae o'r farn bod eu hangen.

(6) Caiff arolygydd farcio unrhyw anifail, cig neu beth arall at ddibenion eu hadnabod.

(7) Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gig yn cael ei farcio.

(8) Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gig y mae'r meddiannydd wedi ei drafod yn cael ei olrhain.

(9) Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ran o'r fangre honno yn cael ei glanhau a'i diheintio.

(10) Caiff arolygydd, drwy hysbysu'r person sydd â gofal am unrhyw beth, ei gwneud yn ofynnol bod y peth hwnnw'n cael ei lanhau a'i ddiheintio.

(11) Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, neu'r person sydd â gofal am unrhyw anifail neu beth ei gwneud yn ofynnol—

(a) bod yr anifail, neu beth yn cael ei ynysu mewn man penodedig;

(b) bod unrhyw anifail, neu beth yn cael ei wahanu oddi wrth unrhyw anifail arall neu beth arall.

(12) Caiff arolygydd archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn a mynd â'r cofnodion hynny oddi yno er mwyn eu copïo.

(13) Caiff arolygydd archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â llunio a chadw cofnodion o dan y Rheoliadau hyn.

(14) Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod cofnodion cyfrifiadurol yn cael eu llunio ar ffurf y gellir ei dwyn ymaith.

(15) Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre, sefydliad neu gerbyd fynd â'r canlynol gydag ef—

(a) y personau eraill hynny y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol; a

(b) unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd.

(16) Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu neu i unrhyw sefydliad nad yw wedi'i feddiannu rhaid iddo eu gadael wedi'u diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag oeddent pan aeth yno gyntaf.

Darparu cymorth rhesymol, gwybodaeth a chydweithrediad

18.  Rhaid i unrhyw berson y mae unrhyw ofyniad ar ei gyfer yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn, neu unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n gweithredu'r Rheoliadau hyn, onid oes gan y person hwnnw achos rhesymol, wneud hynny'n ddi-oed.

Costau cydymffurfio

19.  Rhaid i'r costau a dynnir gan unrhyw berson wrth gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol, neu drwy beidio â chymryd camau a waherddir, o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan y person hwnnw oni fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall mewn ysgrifen.

Pwerau arolygwyr os ceir diffyg

20.  Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni ar draul y person hwnnw.

Tramgwyddau ac achosion

21.—(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—

(a) adran 66 (gwrthod a rhwystro);

(b) adran 71A(5) (erlyniadau: terfyn amser);

(c) adran 73 (tramgwyddau cyffredinol);

(ch) adran 77 (arian y gellir ei adennill yn ddiannod);

(d) adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn).

(2) Mae adran 75 o'r Ddeddf(6) (cosbau am dramgwyddau diannod penodol) yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio bod rhaid i unrhyw gyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod beidio â bod yn hwy na thri mis.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

22.—(1) Os dangosir bod tramgwydd a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a) wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b) i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog,

bydd y swyddog yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn atebol i gael achos yn ei erbyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2) Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelodau mewn cysylltiad â'u swyddogaethau rheoli fel pe baent yn gyfarwyddwyr y corff.

(3) Ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.

Datgymhwyso darpariaethau i unrhyw berson sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn

23.  Nid fydd unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar symud neu ddefnyddio unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer y canlynol wrth iddynt weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn—

(a) Gweinidogion Cymru;

(b) arolygydd awdurdod lleol;

(c) unrhyw berson arall a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol i gyflawni'r cyfryw weithredu neu orfodi.

Gorfodi

24.  Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan—

(a) Gweinidogion Cymru mewn unrhyw sefydliad neu safle torri; neu

(b) yr awdurdod lleol, oni fydd Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo fel arall.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Mai 2008

(5)

Mewnosodwyd adran 71A gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 14. Back [5]

(6)

Mewnosodwyd adran 75 gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 2002, adran 13. Back [6]