Rheolaeth ar gig o anifeiliaid neu ddofednod dan gyfyngiadau
7.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gig sy'n dod o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau sy'n deillio o fangre dan amheuaeth o'r dyddiad perthnasol, neu gig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig, ddal gafael ar y cig hwnnw hyd nes y bydd y fangre honno yn peidio â bod bellach yn fangre dan amheuaeth.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys ond dim ond os yw'r person sy'n meddu ar y cig yn ymwybodol neu os dylai'n rhesymol fod wedi bod yn ymwybodol fod y cig yn dod o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau sy'n deillio o fangre dan amheuaeth o'r dyddiad perthnasol, neu'n gig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gig a gynhyrchwyd o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau sy'n deillio o fangre dan amheuaeth o'r dyddiad perthnasol, neu gig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig, ddistrywio'r cig hwnnw'n ddi-oed.
8. Rhaid i unrhyw berson a fu'n berchen neu'n meddu ar gig y cyfeirir ato yn rheoliad 7(3)—
(a) wneud ei orau i olrhain y cig hwnnw; a
(b) hysbysu derbynnydd y cig hwnnw, heblaw defnyddiwr, bod y cig yn dod o fangre heintiedig.
9.—(1) Rhaid i berson beidio —
(a) cyflenwi cig dan gyfyngiadau; neu
(b) allforio cig dan gyfyngiadau.
(2) Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff (1)(a) yn gymwys i gig dan gyfyngiadau o ddofednod dan gyfyngiadau a fwriadwyd ar gyfer cyflenwi'r farchnad ddomestig ar yr amod—
(a) bod meddiannydd y lladd-dy lle y cynhyrchwyd y cig wedi cydymffurfio â rheoliadau 10, 12, 13 a 15(1) a (2);
(b) bod unrhyw berson sy'n meddu ar y cig yn cydymffurfio â rheoliadau 12(2) a 13; ac
(c) bod meddiannydd y fangre lle y mae torri, paratoi, prosesu, pacio, lapio, storio neu drin y cig yn digwydd yn cydymffurfio â rheoliadau 13 a 15(2) a (3).
(3) Y “farchnad ddomestig” (“domestic market”) yw'r farchnad ar gyfer gwerthu cig dofednod yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
10.—(1) Caiff meddiannydd lladd-dy gigydda anifeiliaid dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau ond dim ond os yw'r lladd-dy'n ddynodedig.
(2) Rhaid i feddiannydd lladd-dy sicrhau—
(a) bod anifeiliaid dan gyfyngiadau yn cael eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill;
(b) bod anifeiliaid dan gyfyngiadau yn cael eu cigydda ar wahân i anifeiliaid eraill;
(c) bod dofednod dan gyfyngiadau yn cael eu cadw ar wahân i ddofednod eraill;
(ch) bod dofednod dan gyfyngiadau yn cael eu cigydda ar wahân i ddofednod eraill.
(3) Rhaid i feddiannydd lladd-dy sy'n cymryd anifeiliaid dan gyfyngiadau na chafodd eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill neu sydd heb gadw anifeiliaid dan gyfyngiadau ar wahân i anifeiliaid eraill, pan gaiff hysbysiad gan arolygydd milfeddygol, drin yr anifeiliaid eraill hynny fel anifeiliaid dan gyfyngiadau.
(4) Rhaid i feddiannydd lladd-dy sy'n cymryd dofednod dan gyfyngiadau na chafodd eu cadw ar wahân i ddofednod eraill neu sydd heb gadw dofednod dan gyfyngiadau ar wahân i ddofednod eraill, pan gaiff hysbysiad gan arolygydd milfeddygol, drin y dofednod eraill hynny fel dofednod dan gyfyngiadau.
(5) Rhaid i feddiannydd lladd-dy lle yr amheuir bod clefyd yno neu lle y cadarnheir bod clefyd yno ddal gafael ar yr holl gig sydd yn y lladd-dy nes bod arolygydd milfeddygol yn hysbysu'r meddiannydd hwnnw fod yr arolygydd wedi'i fodloni nad oes angen dal gafael bellach yn yr holl gig neu rywfaint o'r cig hwnnw i leihau'r risg o drosglwyddo clefyd.
11.—(1) Caiff meddiannydd sefydliad trin anifeiliaid hela dderbyn cig dan gyfyngiadau ond dim ond os yw'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.
(2) Rhaid i feddiannydd sefydliad trin anifeiliaid hela lle yr amheuir bod clefyd yno neu lle y cadarnheir bod clefyd yno ddal gafael ar yr holl gig sydd yn y sefydliad trin anifeiliaid hela nes bod arolygydd milfeddygol yn hysbysu'r meddiannydd hwnnw fod yr arolygydd wedi'i fodloni nad oes angen dal gafael bellach yn yr holl gig neu rywfaint o'r cig hwnnw i leihau'r risg o drosglwyddo clefyd.
12.—(1) Caiff meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad dderbyn cig dan gyfyngiadau ond dim ond os yw'r fangre honno neu'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gig dan gyfyngiadau ei gadw ar wahân i gig arall.
13.—(1) Rhaid i feddiannydd sefydliad sicrhau bod cig dan gyfyngiadau wedi'i farcio yn unol ag Atodlen 3.
(2) Rhaid i berson beidio â bod â chig dan gyfyngiadau yn ei feddiant neu dan ei reolaeth onid yw wedi'i farcio yn unol ag Atodlen 3.
(3) Rhaid i berson beidio â thynnu oddi yno farc a osodwyd o dan y rheoliad hwn ac eithrio er mwyn galluogi torri, paratoi, prosesu, pacio neu drin cig dan gyfyngiadau.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy'n tynnu oddi yno farc a osodwyd o dan y rheoliad hwn, heblaw person sy'n trin cig mewn canolfan driniaeth â thriniaeth a restrir yn Atodlen 2, ailosod y marc, ynghyd â rhif cymeradwyo priodol y safle, ar ôl torri, paratoi, prosesu, pacio neu drin y cig.
14. Ni chaiff neb gludo na threfnu cludo cig dan gyfyngiadau i fangre neu sefydliad onid yw'r fangre honno neu'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.
15.—(1) Rhaid i feddiannydd lladd-dy lle y cigyddir anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau wneud cofnodion o'r canlynol—
(a) y nifer a'r math o anifeiliaid dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau a gigyddwyd;
(b) dyddiad y cyfryw gigydda;
(c) y clefyd a achosodd i'r anifeiliaid neu'r dofednod fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau o dan y ddeddfwriaeth clefydau.
(2) Rhaid i unrhyw berson sydd â chig dan gyfyngiadau yn ei feddiant wneud cofnodion o'r canlynol—
(a) pa faint o gig dan gyfyngiadau a drafodwyd;
(b) y clefyd a achosodd i'r cig fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau o dan y ddeddfwriaeth clefydau;
(c) pa faint o gig dan gyfyngiadau a osodwyd mewn storfa oer a'i symud oddi yno;
(ch) dyddiad y cyfryw symud i storfa oer neu ohoni;
(d) pa faint o gig dan gyfyngiadau a waredwyd fel sgil-gynnyrch anifail.
(3) Rhaid i feddiannydd canolfan driniaeth lle y caiff cig dan gyfyngiadau ei drin gadw cofnodion o'r canlynol—
(a) dyddiad y driniaeth;
(b) rhywogaeth yr anifail y daeth y cig ohono;
(c) pa faint o gig a driniwyd;
(ch) y driniaeth a roddwyd.
(4) Rhaid cadw cofnodion a wnaed o dan y rheoliad hwn am o leiaf 3 blynedd o ddyddiad y cigydda, y symud neu'r driniaeth y maent yn cyfeirio ato neu ati.