50.—(1) Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw—
(a) os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gostau byw sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a
(b) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys —
(i) methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad neu swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu
(ii) rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
(2) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.
(3) Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.
51.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd a fydd yn arwain at gyfradd ganrannol flynyddol o dâl a bennir yn unol â Rheoliadau Credyd Defnyddwyr (Cyfanswm y Tâl am Gredyd) 1980(63) sy'n hafal i'r cynnydd canrannol rhwng y mynegai prisiau manwerthu pob eitem a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Mawrth 2007 a'r mynegai a gyhoeddwyd ganddi ar gyfer Mawrth 2008.
(2) Os yw'r gyfradd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn fwy na'r gyfradd sydd am y tro wedi'i phennu at ddibenion unrhyw esemptiad sydd wedi'i roi yn rhinwedd adran 16(5)(b) o Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974(64) mae benthyciadau'n cario llog yn ôl y gyfradd sydd wedi'i phennu felly.
(3) Cyfrifir llog ar y prifswm sy'n weddill bob dydd ac mae'n cael ei ychwanegu at y prifswm bob mis.
(4) Y mynegai prisiau y mae adran 22(8) o'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw iddo wrth ragnodi cyfradd llog benthyciadau yw'r mynegai prisiau manwerthu pob eitem a grybwyllir ym mharagraff (1).
52. Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 4.
53.—(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.
(2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.
54.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae swm sy'n hafal i'r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5 i'w gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn —
(a) yn gyntaf, i ostwng GFF;
(b) yn ail, i ostwng ADG;
(c) yn drydydd, i ostwng CCG;
(ch) yn bedwerydd, i ostwng PLA;
(d) yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;
(dd) yn chweched, i ostwng GFT.
(2) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo swm sylfaenol y grant at ffioedd wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 16(1) a 16(7), i benderfynu swm gwirioneddol y grant at ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso'r cyfraniad yn unol â pharagraff (1);
(3) Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, pan fo swm sylfaenol y grant at ffioedd wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 16(2) neu 16(8) a bod un o'r achosion a nodir yn rheoliad 16(4)(b) neu (ch) yn gymwys, i benderfynu swm gwirioneddol y ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) yn gyntaf, gymhwyso'r cyfraniad i ostwng swm sylfaenol y grant at ffioedd;
(b) yn ail, os nad yw'r cyfraniad wedi'i ddihysbyddu, didynnu swm sy'n hafal i swm sylfaenol y grant at ffioedd o'r hyn sydd ar ôl o'r cyfraniad sy'n gostwng gweddill y cyfraniad i ddim llai na dim; ac
(c) yn drydydd, os nad yw'r cyfraniad wedi'i ddihysbyddu o hyd, cymhwyso'r gweddill yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).
(4) Os yw'r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (heblaw cwrs ar gyfer gradd gyntaf), nid oes unrhyw ddidyniad o'r swm sylfaenol o'r grant at ffioedd o dan y rheoliad hwn a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).
(5) Yn achos blwyddyn Erasmus, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso'r swm y mae'r cyfraniad yn fwy na £1,255, yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).
(6) Os nad yw'r myfyriwr yn ymgymhwyso i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, mae GFF yn ddim a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG.
(7) Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, mae GFF yn ddim a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a) ADG yw swm y grant dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;
(b) CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 29;
(c) GFT yw swm y grant at deithio y mae'r myfyriwr cymwys yn ymgymhwyso ar ei gyfer o dan reoliad 31, os oes unrhyw swm o gwbl;
(ch) LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae'r myfyriwr cymwys (heblaw myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng) yn ymgymhwyso o dan Ran 6 i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (9);
(d) PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu'r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 29 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).
(9) Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) a (11), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 54(1)(ch) yw —
(a) £2,685, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b) £4,860, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c) £4,135, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch) £4,135, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d) £3,470, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.
(10) Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs dwys y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw —
(a) £2,430, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;
(b) £4,425, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;
(c) £3,595, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;
(ch) £3,595, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;
(d) £3,215, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.
(11) Os oes categorïau gwahanol yn gymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (9) a (10) yw cyfanswm y symiau a benderfynir o dan baragraff (12) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.
(12) Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o'r swm ym mharagraff (9) neu (10) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.
(13) Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £625 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £39,780.
(14) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyrwyr math 1 a math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sy'n ymgymhwyso i gael grant cynhaliaeth ac mae eu cyfraniad yn fwy na dim.
(15) Mae'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy o ran blwyddyn academaidd i fyfyriwr y mae paragraff (14) yn gymwys iddo yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn—
A - B
lle—
A yw swm y benthyciad at gostau byw sydd ar ôl wedi gorffen cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r Rhan hon; a
B yw swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy i'r myfyriwr.
(16) Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 49.