Rheoliadau 4, 62, 79 a 92
1.—(1) At ddibenion yr Atodlen hon —
ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw —
o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE —
ei briod neu ei bartner sifil;
ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;
o ran gwladolyn o'r Gymuned Ewropeaidd sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38 —
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —
o dan 21 oed; neu
yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;
o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38 —
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —
o dan 21 oed; neu
yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;
perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;
o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9 —
ei briod neu ei bartner sifil; neu
ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd —
o dan 21 oed; neu
yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;
ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal sydd yn y Gwladwriaethau AEE;
ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(76) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;
ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd;
ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE ” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, heblaw gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE —
sy'n weithiwr yng Nghymru; a
sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “gwladolyn AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE heblaw'r Deyrnas Unedig;
ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;
ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig, heblaw person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd —
yn berson cyflogedig yng Nghymru; a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw —
o ran gwladolyn o'r AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl fel y digwydd; neu
o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;
ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sydd —
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, heblaw person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;
ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd —
yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a
yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA heblaw'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl fel y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(77).
(2) At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i'w ddehongli yn unol â hynny.
(3) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—
(a) y cwrs presennol; neu
(b) a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,
i'w ystyried yn berson sy'n preswylio'n arferol yn y lle y mae wedi symud ohono.
(4) At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod —
(a) y person hwnnw;
(b) ei briod neu ei bartner sifil;
(c) ei riant; neu
(ch) yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn ef neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,
yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl fel y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.
(5) At ddibenion is-baragraff (3), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys —
(a) yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a
(b) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd; ac
(c) yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd.
(6) At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal —
(a) nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall, neu o'r ddwy, o'r ardaloedd hyn,
i'w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.