10.—(1) Bydd adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(13) yn gymwys o ran incwm a gwariant awdurdodau gorfodi mewn cysylltiad â'u swyddogaethau o dan Ran 6 o Ddeddf 2004 ynghylch tramgwyddau parcio, yn ddarostyngedig i'r addasiadau canlynol.
(2) Yn lle is-adran (1) rhodder—
“(1) A local authority in Wales which is an enforcement authority shall keep an account—
(a) of its income and expenditure in respect of any designated parking places in its area which are not in a civil enforcement area;
(b) of its income and expenditure (otherwise than as an enforcement authority) in respect of designated parking places in its area which are in a civil enforcement area; and
(c) of its income and expenditure in connection with its functions as an enforcement authority in relation to parking contraventions within paragraph 4 of Schedule 7 to the 2004 Act.”.
(3) Yn lle is-adran (3A) rhodder—
“(3A) A local authority in Wales which is an enforcement authority shall after the end of each financial year send a copy of the account kept under subsection (1) to the Welsh Ministers.”.
(4) Yn is-adran (3B) yn lle “the end of” rhodder “the conclusion of the audit of the accounts of the body concerned for”.
(5) Yn is-adran (10) ar ôl “in this section-” mewnosoder—
““the 2004 Act” means the Traffic Management Act 2004;
“enforcement authority” means an authority which is an enforcement authority for the purposes of Part 6 of the 2004 Act (pursuant to paragraphs 1(2), and 8(5) of Schedule 8) and references to the functions of an authority as an enforcement authority are to its functions under that Part of that Act;”.
11. Os oes, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, warged mewn cyfrif—
(a) a gedwir o dan adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y'i haddaswyd o ran yr awdurdod hwnnw gan orchymyn a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991(14); a
(b) a gedwir gan awdurdod lleol,
bydd y gwarged yn cael ei gario ymlaen ac ymdrinnir ag ef fel gwarged sy'n codi o dan adran 55 fel y'i haddesir gan reoliad 10.
12. Mae Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008(15) wedi eu dirymu.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
29 Ebrill 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2008 ((S.I. 2008/614 (Cy.66)). Mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio yng Nghymru yn unol â Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Mae Rhan 6 o Ddeddf 2004 a Rheoliadau a wneir oddi tani yn disodli darpariaethau Rhan II ac Atodlen 3 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991.
Mae rheoliad 3 yn galluogi bod tâl cosb yn cael ei osod am fathau penodol o dramgwyddau parcio. Mae tâl cosb yn daladwy gan berchennog y cerbyd o dan sylw (rheoliad 4(1)), ac eithrio yn yr amgylchiadau a bennir yn rheoliad 4(2) i (4) (cerbyd a logir gan ffyrm llogi cerbydau o dan gytundeb llogi cerbydau). Yn unol â rheoliad 5, rhaid peidio â gosod tâl cosb ac eithrio ar sail cofnod a gynhyrchir gan “ddyfais a gymeradwyir” (gweler adran 92(1) o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 a Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dyfeisiadau a Gymeradwyir) (Cymru) (Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/1215 (Cy.123)) neu wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil o ran ymddygiad y bydd y swyddog hwnnw yn sylwi arno. Mae rheoliad 6 yn darparu na fydd tâl cosb yn daladwy am dramgwydd parcio os yw'r tramgwydd yn destun achos troseddol neu os rhoddwyd hysbysiad o gosb benodedig o dan Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988, ond, os caiff tâl cosb ei dalu mewn gwirionedd yn y naill amgylchiad neu'r llall, rhaid i'r awdurdod gorfodi ei ad-dalu.
Gwneir darpariaeth gan Ran 3 ynghylch atal cerbydau rhag symud. Mae rheoliad 7 yn diffinio pryd y caniateir gosod dyfais ar gerbyd i'w atal rhag symud, yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei osod ar y cerbyd pan atelir ef rhag symud ac yn creu'r tramgwyddau o ymyrryd â'r hysbysiad neu'r ddyfais atal rhag symud. Mae rheoliad 8 yn pennu eithriadau i'r pŵer cyffredinol i atal cerbydau rhag symud ac mae rheoliad 9 yn pennu'r rhagangenrheidiau ar gyfer rhyddhau cerbyd o'r ddyfais atal rhag symud.
Yn Rhan 4, mae rheoliad 10 yn cymhwyso adran 55 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, gydag addasiadau, i incwm a gwariant awdurdodau gorfodi o dan Ran 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac mae rheoliad 11 yn darparu ar gyfer cario gwargedau ymlaen gan awdurdodau lleol mewn cyfrifon a gedwir o dan adran 55 fel yr oedd yr adran honno yn gymwys i'r awdurdodau hynny o dan orchmynion a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol i'w gael gan yr Uned Trafnidiaeth Integredig, yr Is-adran Cynllunio Trafnidiaeth a Gweinyddu, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF 10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn
O ran Cymru, diwygiwyd adran 55 gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (p. 41), Atodlen 12, paragraff 42, gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22), Atodlen 8, paragraff 46, gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, Atodlen 7, paragraff 5, Atodlen 8 a chan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 95. Back [13]
O ran Cymru, diwygiwyd Atodlen 3 gan O.S. 1996/500. Back [14]
O.S. 2008/614 (Cy.66). Back [15]