Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 2 TALIADAU COSB

Gosod taliadau cosb

3.  Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn mae tâl cosb yn daladwy o ran cerbyd y cyflawnwyd yn ei gylch dramgwydd parcio o fewn paragraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 mewn ardal gorfodi sifil yng Nghymru.

Y person sydd i dalu tâl cosb

4.—(1) Pan fydd tramgwydd parcio'n digwydd, penderfynir pwy yw'r person sydd i dalu'r tâl cosb am y tramgwydd yn unol â darpariaeth ganlynol y rheoliad hwn.

(2) Mewn achos nad yw'n dod o fewn paragraff (3), bydd y tâl cosb yn daladwy gan y person a oedd yn berchennog y cerbyd a oedd yn destun y tramgwydd ar yr adeg berthnasol.

(3) Os bydd—

(a) y cerbyd yn gerbyd a yrrir yn fecanyddol a oedd, ar yr adeg berthnasol, yn cael ei logi gan ffyrm llogi cerbydau o dan gytundeb llogi;

(b) y person sy'n llogi'r cerbyd wedi llofnodi datganiad yn cydnabod ei atebolrwydd o ran unrhyw hysbysiad o dâl cosb a gyflwynir o ran unrhyw dramgwydd parcio sy'n ymwneud â'r cerbyd yn ystod cyfnod y cytundeb llogi; ac

(c) perchennog y cerbyd, mewn ymateb i hysbysiad i berchennog a gyflwynir iddo, wedi gwneud sylwadau ar y sail a bennir yn rheoliad 4(4)(ch) o'r Rheoliadau Sylwadau ac Apelau a bod yr awdurdod gorfodi wedi derbyn y sylwadau hynny,

bydd y tâl cosb yn daladwy gan y person y llogwyd y cerbyd ganddo ac ymdrinnir â'r person hwnnw fel pe bai'n berchennog y cerbyd ar yr adeg berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(4) Yn y rheoliad hwn—

(a) mae i “cytundeb llogi” a “ffyrm llogi cerbydau” yr ystyr sydd i “hiring agreement” a “vehicle-hire firm” yn adran 66 o Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988(7); a

(b) ystyr “yr adeg berthnasol” (“the material time”) yw'r adeg y dywedir bod y tramgwydd sy'n peri'r tâl cosb wedi digwydd.

Tystiolaeth o dramgwydd

5.  Ni osodir tâl cosb ac eithrio—

(a) ar y sail y cynhyrchir cofnod gan ddyfais a gymeradwyir; neu

(b) ar sail yr wybodaeth a roddir gan swyddog gorfodi sifil o ran ymddygiad y bydd y swyddog hwnnw wedi sylwi arno.

Achosion troseddol am dramgwyddau parcio mewn ardaloedd gorfodi sifil

6.—(1) Ni cheir cychwyn achos troseddol ac ni cheir cyflwyno hysbysiad o gosb benodedig o ran unrhyw dramgwydd parcio sy'n digwydd mewn ardal gorfodi sifil, ac eithrio tramgwydd croesfan i gerddwyr.

(2) Ni fydd tâl cosb yn daladwy o ran tramgwydd croesfan i gerddwyr—

(a) os yw'r ymddygiad sy'n gwneud y tramgwydd yn destun achos troseddol; neu

(b) os rhoddwyd hysbysiad o gosb benodedig, fel y'i diffinnir gan adran 52 o Ddeddf Tramgwyddwyr Traffig Ffyrdd 1988(8), ynglŷn â'r ymddygiad hwnnw.

(3) Er gwaethaf darpariaethau paragraff (2)—

(a) os talwyd tâl cosb ynglŷn â thramgwydd croesfan i gerddwyr; a

(b) os yw'r amgylchiadau fel a grybwyllir ym mharagraff (2)(a) neu (b),

rhaid i'r awdurdod gorfodi, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r amgylchiadau ddod i'w sylw, ad-dalu swm y tâl cosb.

RHAN 3 ATAL CERBYDAU RHAG SYMUD

Pŵer i atal cerbydau rhag symud

7.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8, (terfynau ar y pŵer i atal cerbydau rhag symud) os bydd gan swyddog gorfodi sifil reswm i gredu y caniatawyd i gerbyd aros yn ei unfan yn unrhyw fan mewn ardal gorfodi sifil mewn amgylchiadau pan fo tâl cosb wedi dod yn daladwy, caiff y swyddog neu berson sy'n gweithredu o dan ei gyfarwyddyd osod dyfais sy'n atal y cerbyd rhag symud tra erys yn y man lle y daethpwyd o hyd iddo.

(2) Ar unrhyw achlysur pan osodir dyfais ar gerbyd sy'n ei rwystro rhag symud yn unol â'r rheoliad hwn, rhaid i'r person sy'n gosod y ddyfais osod hefyd ar y cerbyd hysbysiad—

(a) sy'n dangos bod dyfais o'r fath wedi cael ei gosod ar y cerbyd ac yn rhybuddio na ddylid ceisio ei yrru neu fel arall beri iddo symud hyd nes y rhyddheir ef oddi wrth y ddyfais honno;

(b) sy'n pennu'r camau i'w cymryd er mwyn sicrhau ei ryddhad; ac

(c) sy'n rhybuddio bod symud dyfais sy'n rhwystro cerbyd rhag symud yn anghyfreithlon yn dramgwydd.

(3) Rhaid peidio â thynnu neu ymyrryd â hysbysiad a osodwyd ar gerbyd yn unol â'r adran hon ac eithrio gan neu o dan awdurdod—

(a) y perchennog, neu'r person sydd â rheolaeth dros y cerbyd; neu

(b) yr awdurdod gorfodi.

(4) Mae person sy'n mynd yn groes i baragraff (3) yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

(5) Bydd unrhyw berson sydd, heb awdurdod i wneud hynny yn unol â'r Rheoliadau hyn, yn tynnu neu'n ceisio tynnu dyfais a osodwyd i rwystro cerbyd rhag symud yn unol â'r rheoliad hwn yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Terfynau ar y pŵer i atal cerbydau rhag symud

8.—(1) Rhaid peidio â gosod dyfais sy'n atal cerbyd rhag symud ar gerbyd os arddangosir ar y cerbyd—

(a) bathodyn cyfredol person anabl; neu

(b) bathodyn cyfredol a gydnabyddir.

(2) Mewn achos y byddai dyfais sy'n atal cerbyd rhag symud wedi cael ei gosod ar gerbyd oni bai am baragraff (1)(a), os nad oedd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio—

(a) yn unol â rheoliadau o dan adran 21 o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970(9)

(b) mewn amgylchiadau sy'n dod o fewn adran 117(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(10) (defnydd lle y byddai consesiwn person anabl ar gael),

bydd y person â rheolaeth dros y cerbyd yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(3) Mewn achos y byddai dyfais sy'n atal cerbyd rhag symud wedi cael ei gosod ar gerbyd oni bai am baragraff (1)(b), os nad oedd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio—

(a) yn unol â rheoliadau o dan adran 21A o Ddeddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970(11);

(b) mewn amgylchiadau sy'n dod o fewn adran 117(1A)(b) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(12)(defnydd lle y byddai consesiwn person anabl ar gael yn rhinwedd arddangos bathodyn nad yw'n fathodyn Prydain Fawr),

bydd y person â rheolaeth dros y cerbyd yn euog o dramgwydd ac yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4) Rhaid peidio â gosod dyfais atal cerbyd rhag symud ar gerbyd sydd mewn man parcio o ran tramgwydd sy'n golygu methiant, neu'n codi o fethiant—

(a) i dalu tâl parcio ynglŷn â'r cerbyd;

(b) i arddangos tocyn neu ddyfais parcio; neu

(c) i symud y cerbyd o'r man parcio erbyn diwedd y cyfnod y talwyd y tâl priodol amdano,

nes bod y cyfnod priodol wedi mynd heibio ers rhoi'r hysbysiad o dâl cosb o dan reoliad 5 o Reoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosbau, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008 ynglŷn â'r tramgwydd.

(5) At ddibenion paragraff (4) y cyfnod priodol yw—

(a) yn achos cerbyd y mae 3 thâl cosb yn ddyledus yn ei gylch, 15 munud;

(b) mewn unrhyw achos arall, 30 munud.

Rhyddhau cerbydau a ataliwyd rhag symud

9.—(1) Dim ond drwy neu o dan gyfarwyddyd person a awdurdodwyd gan awdurdod gorfodi i roi cyfarwyddyd o'r fath y caniateir rhyddhau cerbyd y gosodwyd dyfais atal rhag symud arno yn unol â rheoliad 7 oddi wrth y ddyfais honno.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1), rhyddheir cerbyd o'r fath oddi wrth y ddyfais pan delir, drwy unrhyw un o'r dulliau a bennir yn yr hysbysiad a osodwyd ar y cerbyd o dan reoliad 7(2)—

(a) y tâl cosb sy'n daladwy ynglŷn â'r tramgwydd parcio ;

(b) y cyfryw dâl ynglŷn â'r rhyddhau a all fod yn ofynnol gan yr awdurdod gorfodi.

(8)

Diwygiwyd adran 52 gan Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (p.22), paragraff 147, gan Ddeddf y Llysoedd 2003 (p.39) Atodlen 8, paragraff 314 a chan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2004 (p.14), Atodlen 1, Rhan 14. Back [8]

(9)

1970 p.44: o ran Cymru, diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), Atodlen 30, gan Ddeddf Trafnidiaeth 1982 (p.49) adran 68, gan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (p.27), Atodlen 13, gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1985 (p.51), Atodlen 5, paragraff 1, gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p.40), adran 35(2)-(5), Atodlen 8, gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, Atodlen 10, paragraff 8, Atodlen 18, gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 adran 94(1)-(4) a chan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (p.13) Atodlen 1, paragraff 41. Back [9]

(10)

1984 (p.27); o ran Cymru amnewidiwyd adran 117(1) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 adran 35(6) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, Atodlen 1, paragraff 44(1), (2) a chan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, adran 94(5). Back [10]

(11)

Mewnosodwyd adran 21A gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, adran 9. Back [11]

(12)

Mewnosodwyd is-adran (1A) gan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005, Atodlen 1, paragraff 44. Back [12]