28. Caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn sicrhau iechyd neu les unrhyw anifail—
(a) trwyddedu person i gymryd unrhyw gamau a fyddai fel arall wedi'u gwahardd o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b) esemptio person, drwy hysbysiad, rhag unrhyw ofyniad o dan y Rheoliadau hyn.
29. Mae Gorchymyn y Tafod Glas (Rhif 2) (Cymru) 2007(9) wedi'i ddiddymu (ac eithrio erthygl 17).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Ebrill 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/75/EC sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer rheoli a difodi'r tafod glas a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1266/2007(10). Maent yn dirymu ac yn ail-wneud gyda newidiadau Orchymyn y Tafod Glas (Rhif 2) (Cymru) 2007(11).
Mae'r newidiadau fel a ganlyn—
(a) caiff Gweinidogion Cymru, o fewn parth dan gyfyngiadau, ddatgan bod unrhyw ardal o amgylch mangre heintiedig yn barth gwarchod, a bod unrhyw ardal y tu hwnt i'r parth gwarchod hwnnw'n barth gwyliadwriaeth (rheoliad 13(1)(b)).
(b) gwaherddir person rhag symud anifail mewn parth dan gyfyngiadau os yw'r anifail yn amlygu arwyddion clinigol o'r tafod glas ar y diwrnod cludo (rheoliad 13(5)).
(c) rhaid i weithredydd lladd-dŷ mewn parth gwyliadwriaeth gael trwydded os yw'n bwriadu cigydda anifeiliaid o barth gwarchod (rheoliad 14(3)).
(ch) os cadarnheir bod y tafod glas yn bresennol y tu allan i Gymru, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth yng Nghymru (rheoliad 16).
(d) onid yw'n perthyn i gategori a eithrir, mae'n ofynnol bod gan berson drwydded i gael gafael ar frechlyn y tafod glas (rheoliad 17). Ni chaniateir brechu ond os yw wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru (rheoliad 18) neu pan fo brechu'n ofynnol naill ai mewn parth brechu neu drwy hysbysiad a gyflwynwyd ar gyfer mangre benodol (rheoliad 19).
(dd) rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru ganiatáu i berson gymryd neu osgoi cymryd cam nad yw'r unol â darpariaethau eraill y Rheoliadau hyn a hynny ddim ond er mwyn sicrhau iechyd a lles unrhyw anifail (rheoliad 28).
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau'n gwneud darpariaeth ar gyfer esemptiadau rhag gofynion y Rheoliadau, ar gyfer trwyddedau ac ar gyfer datgan parthau (rheoliadau 3 i 7).
Mae rhan 2 o'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer hysbysu o symptomau'r tafod glas (rheoliad 8), sefydlu cyfyngiadau ar fangreoedd (rheoliad 9), sefydlu parthau rheoli dros dro (rheoliad 10), cadarnhau bod y tafod glas mewn mangre (rheoliad 11), a sefydlu parthau a rheolaethau ar symudiadau anifeiliaid oddi mewn ac oddi allan i'r parthau hynny (rheoliadau 12 a 13). Rhoddir pŵer i Weinidogion Cymru drwyddedu neu ddynodi lladd-dai penodol (rheoliad 14). Gwaherddir symud heb drwydded anifeiliaid o'r parth dan gyfyngiadau pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno i feddiannydd mangre pen y daith (rheoliad 15). Mae'r Rhan hon hefyd yn darparu bod Gweinidogion Cymru yn datgan parthau yng Nghymru pan fo presenoldeb y tafod glas wedi'i gadarnhau y tu allan i Gymru.
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer brechu (rheoliadau 17 i 19).
Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi ac yn nodi'r tramgwyddau o rwystro ac o ymyrryd â thrapiau a marciau (rheoliadau 20 i 24 a rheoliad 26). Mae methiant â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu fethiant ag ufuddhau i unrhyw waharddiad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt yn dramgwydd (rheoliad 25). Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan yr awdurdod lleol, oni fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall (rheoliad 27).
Mae Rhan 5 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ganiatáu unrhyw beth a fyddai fel arall yn cael ei wahardd neu i esemptio person rhag unrhyw ofyniad o dan y Rheoliadau, er mwyn sicrhau iechyd neu les unrhyw anifail (rheoliad 28).
Mae asesiad effaith rheoleiddiol o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.