Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 3 Brechu

Cael gafael ar frechlyn

17.  Ni chaiff neb ac eithrio deiliad awdurdodiad marchnata, awdurdodiad gweithgynhyrchu neu awdurdodiad deliwr cyfanwerthu a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2007(8) gael gafael ar frechlyn ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Gwahardd brechu

18.  Ac eithrio pan fo rheoliad 19 yn gymwys, ni chaiff neb frechu anifail yn erbyn y tafod glas ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

Brechu gorfodol

19.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth brechu lle bydd yn rhaid i unrhyw feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid sicrhau bod eu hanifeiliaid yn cael eu brechu a'u bod yn cydymffurfio ag unrhyw fesurau eraill sy'n ymwneud naill ai â'r brechu neu â'r brechlyn a bennir yn y datganiad hwnnw.

(2) Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid mewn mangre hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd neu'r ceidwad hwnnw sicrhau bod yr anifeiliaid yn y fangre yn cael eu brechu.

RHAN 4 Arolygu, tramgwyddau a gorfodi

Pwerau arolygwyr milfeddygol, swyddogion ac arolygwyr

20.—(1) Ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos yr awdurdod sy'n ofynnol, caiff arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, fynd i mewn, ar bob adeg resymol, i unrhyw fangre, cerbyd neu lestr er mwyn monitro feirws y tafod glas, gwrthgorffynnau i feirws y tafod glas neu wybed, neu er mwyn cadw gwyliadwriaeth amdanynt.

(2) Ar ôl dangos, os gofynnir iddo wneud hynny, dogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos yr awdurdod sy'n ofynnol, caiff arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru fynd, ar bob adeg resymol, i mewn i unrhyw fangre, cerbyd neu lestr er mwyn sicrhau cydymffurfedd â'r Rheoliadau hyn.

(3) Caiff person sy'n mynd i mewn i fangre, cerbyd neu lestr o dan baragraffau (1) neu (2) fynd â'r canlynol gydag ef—

(a) unrhyw gyfarpar; a

(b) unrhyw berson arall sy'n briodol.

(4) Caiff unrhyw berson sy'n dod i mewn i fangre o dan baragraffau (1) neu (2) ddod â cherbyd gydag ef.

(5) Caiff arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru—

(a) cadw, ynysu neu atal unrhyw anifail;

(b) ei gwneud yn ofynnol i gadw, ynysu neu atal unrhyw anifail;

(c) marcio at ddibenion adnabod unrhyw anifail, unrhyw garcas neu unrhyw beth;

(ch) cadw neu ynysu unrhyw beth;

(d) ei gwneud yn ofynnol i gadw neu ynysu unrhyw beth;

(dd) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n gwybod am symudiadau anifail roi manylion am y symudiadau hynny ac am unrhyw anifail arall y mae wedi bod mewn cyffyrddiad ag ef;

(e) ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid yn y fangre honno roi manylion am anifeiliaid sydd naill ai yn y fangre honno neu mewn mangre arall lle mae gan y meddiannydd neu'r ceidwad anifeiliaid;

(f) ei gwneud yn ofynnol i ddangos unrhyw gofnod a gedwir o dan y Rheoliadau hyn, ar ba ffurf bynnag y mae'r cofnod hwnnw'n cael ei gadw;

(ff) copïo unrhyw gofnod y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (dd); neu

(g) arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir mewn cysylltiad â gwneud a chadw cofnodion o dan y Rheoliadau hyn.

(6) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol—

(a) archwilio unrhyw garcas neu beth;

(b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail gael ei drin;

(c) gwneud ymchwiliad epidemiolegol sy'n berthnasol i reoli'r tafod glas;

(ch) gwneud profion a chymryd samplau (gan gynnwys samplau gwaed) o unrhyw anifail, carcas neu beth at ddibenion diagnosis neu ymchwiliad epidemiolegol;

(d) trapio gwybed;

(dd) rhoi mesurau rheoli gwybed ar waith;

(e) ei gwneud yn ofynnol i ddifa, claddu, gwaredu neu drin unrhyw beth; neu

(f) ei gwneud yn ofynnol i lanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw berson, anifail, cerbyd, llestr neu beth yn y fangre.

(7) Caiff arolygydd milfeddygol—

(a) ar ôl mynd i mewn i unrhyw fangre, cerbyd neu lestr o dan y rheoliad hwn, archwilio neu frechu unrhyw anifail;

(b) ei gwneud yn ofynnol, drwy hysbysiad, i feddiannydd mangre neu i geidwad unrhyw anifeiliaid mewn mangre —

(i) caniatáu i unrhyw anifail sy'n cael ei gadw yno gael ei frechu;

(ii) cadw anifeiliaid i'w defnyddio'n anifeiliaid rhybuddio neu ganiatáu i anifeiliaid rhybuddio gael eu cyflwyno i'r fangre honno; neu

(iii) symud anifail sydd wedi'i symud ac eithrio'n unol â rheoliadau 13 neu 15 i fan a bennir gan yr arolygydd milfeddygol.

(8) Ystyr “anifail rhybuddio” (“sentinel animal”) yw anifail a ddefnyddir at ddibenion cadw gwyliadwriaeth am feirws y tafod glas ac nad oes ganddo wrthgorffynnau i feirws y tafod glas o'r math y mae gwyliadwriaeth yn cael ei chadw mewn cysylltiad ag ef pan gafodd yr anifail hwnnw'n ei gyflwyno neu ei gadw am y tro cyntaf yn y fangre.

Rhwystro

21.—(1) Ni chaiff neb—

(a) rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn; neu

(b) rhoi i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol.

(2) Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth i berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn wneud hynny'n ddi-oed, onid oes ganddo achos rhesymol dros wneud fel arall.

Ymyrryd â thrapiau a marciau

22.  Ni chaiff neb—

(a) difrodi unrhyw drapiau a osodwyd ar gyfer gwybed o dan y Rheoliadau hyn, ymyrryd â hwy na'u symud ymaith; neu

(b) difwyno, dileu na symud ymaith unrhyw farc a wnaed gan unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn.

Costau cydymffurfio

23.  Oni fydd Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo fel arall mewn ysgrifen, rhaid i'r costau a dynnir gan unrhyw berson wrth gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol, neu wrth ymatal rhag cymryd camau sydd wedi'u gwahardd gan neu o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan y person hwnnw.

Pwerau arolygwyr os ceir diffyg

24.  Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y byddai'r gofyniad yn cael ei fodloni, a'u cymryd ar draul y person hwnnw.

Tramgwyddau a chosbau

25.  Bydd person sy'n mynd yn groes i unrhyw ofyniad neu waharddiad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i gyfnod o garchar nad yw'n hwy na thri mis neu'r ddau.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

26.—(1) Pan fo corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phrofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a) unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol; neu

(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

mae'r person hwnnw yw'n euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.

(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Gorfodi

27.—(1) Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag achosion penodol, mai hwy yn hytrach fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2007/2539. Back [8]