1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 26 Ebrill 2008.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anifail” (“animal”) yw anifail sy'n cnoi cil (ac at ddibenion y Rheoliadau hyn ystyrir bod pob camelid yn anifail sy'n cnoi cil) ac ystyr “carcas” (“carcase”), “embryo” (“embryo”), “ofwm” (“ovum”) a “semen” (“semen”) yw carcas, embryo, ofwm a semen anifail o'r fath;
ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;
ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”), o ran ardal, yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
ystyr “brechlyn” (“vaccine”) yw brechlyn yn erbyn feirws y tafod glas;
ystyr “gwybedyn” (“midge”) yw pryfyn o'r genws Culicoides;
mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan neu le;
ystyr “mangre heintiedig” (“infected premises”) yw mangre lle mae bodolaeth y tafod glas wedi'i chadarnhau; ac
ystyr “parth rheoli” (“control zone”) yw parth y cyfeirir ato yn rheoliad 12.
(2) Rhaid i unrhyw awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu ddynodiad o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig, caiff fod yn ddarostyngedig i amodau a chaniateir diwygio, atal, neu ddirymu unrhyw un ohonynt drwy hysbysiad ar unrhyw bryd.
3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—
(a) unrhyw beth y mae person wedi'i awdurdodi i'w wneud drwy drwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig 1998(5);
(b) unrhyw ganolfan gwarantîn neu gyfleuster cwarantîn a gymeradwywyd o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(6);
(c) rhoi brechlyn at ddibenion ymchwil yn unol â thystysgrif prawf anifeiliaid a roddwyd o dan Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2007(7).
4.—(1) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded benodol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—
(a) cario'r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symudiad trwyddedig;
(b) dangos, os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru, y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni neu ohono gael ei gymryd.
(2) Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol a roddir o dan y Rheoliadau hyn—
(a) cario, ar bob adeg yn ystod y symudiad, nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion am y canlynol—
(i) yr hyn sy'n cael ei gludo, gan gynnwys faint ohono;
(ii) dyddiad y symudiad;
(iii) enw'r traddodwr;
(iv) cyfeiriad y fangre y dechreuodd y symudiad ohoni;
(v) enw'r traddodai;
(vi) cyfeiriad mangre pen y daith;
(b) os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd milfeddygol, arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru, dangos y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd.
5. Ac eithrio pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo fel arall a chan eithrio mewn cysylltiad â thrwydded i gael brechlyn neu drwydded i frechu, mae trwyddedau a roddwyd yn yr Alban neu yn Lloegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn cael effaith yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.
6. O ran datganiadau parthau—
(a) rhaid iddynt fod mewn ysgrifen;
(b) caniateir eu diwygio drwy ddatganiad pellach ar unrhyw adeg;
(c) rhaid iddynt ddynodi hyd a lled y parth sy'n cael ei ddatgan; ac
(ch) ni chaniateir eu dirymu ond drwy ddatganiad pellach.
7.—(1) Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth rheoli dros dro ac nad yw oddi mewn i unrhyw barth arall fel mangre sydd oddi mewn i'r parth rheoli dros dro.
(2) Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth rheoli fel petai oddi mewn i'r parth hwnnw.
(3) Ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth brechu fel petai oddi mewn i'r parth hwnnw.
(4) Fel arall—
(a) os yw parth dan gyfyngiadau wedi'i rannu'n barth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth, ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i'r parth gwarchod ac yn rhannol oddi mewn i'r parth gwyliadwriaeth fel petai oddi mewn i'r parth gwarchod;
(b) ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth dan gyfyngiadau ac yn rhannol oddi mewn i ardal lle nad oes rheolaethau ar gyfer y tafod glas fel petai'r fangre honno oddi mewn i'r parth dan gyfyngiadau; ac
(c) ymdrinnir â mangre sy'n rhannol oddi mewn i barth dan gyfyngiadau ac yn rhannol oddi mewn i barth rheoli dros dro fel petai oddi mewn i'r parth dan gyfyngiadau.
8.—(1) Rhaid i berchennog neu geidwad unrhyw anifail neu garcas, neu unrhyw berson sy'n archwilio neu'n arolygu unrhyw anifail neu garcas, ac sy'n gwybod neu'n amau bod yr anifail neu'r carcas hwnnw wedi'i heintio â'r tafod glas—
(a) hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith; a
(b) peidio â symud unrhyw anifail neu garcas i'r fangre neu o'r fangre lle y gwyddys bod yr anifail neu'r carcas, y mae'n hysbys neu yr amheuir ei fod wedi'i heintio, wedi'i leoli, ac eithrio yn ôl awdurdodiad arolygwr.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n dadansoddi sampl a gymerwyd o unrhyw anifail neu garcas ac sy'n dod o hyd i dystiolaeth o wrthgorffynnau i feirws y tafod glas, neu antigenau neu asidau niwclëig ohono, neu unrhyw dystiolaeth o frechu ar gyfer y tafod glas, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar unwaith.
(3) Ystyr “Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol” (“Divisional Veterinary Manager”) yw'r arolygydd milfeddygol a benodwyd gan Weinidogion Cymru i gael gwybodaeth am anifeiliaid neu garcasau a'r clefyd arnynt neu yr amheuir bod y clefyd arnynt ar gyfer yr ardal lle mae'r anifeiliaid neu'r carcasau hynny.
9.—(1) Rhaid i arolygydd sy'n gwybod neu'n amau bod feirws y tafod glas yn bodoli ar unrhyw fangre gyflwyno ar unwaith i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid yn y fangre honno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol—
(a) na fydd unrhyw anifail, ofwm, semen neu embryo yn mynd i mewn i'r fangre nac yn ymadael â hi;
(b) bod stocrestr o'r holl anifeiliaid yn y fangre yn cael ei llunio, a honno'n cofnodi, ar gyfer pob rhywogaeth—
(i) y nifer sydd wedi marw;
(ii) y nifer sy'n fyw ac y mae'n ymddangos bod y tafod glas arnynt; a
(iii) y nifer sy'n fyw y mae'n ymddangos nad yw'r tafod glas arnynt;
(c) bod y stocrestr yn cael ei chadw'n rhestr gyfoes;
(ch) bod pob anifail yn y fangre yn cael ei gadw dan do neu fel y cyfarwyddir gan arolygydd;
(d) bod y fangre a'r anifeiliaid ynddi yn ddarostyngedig i'r mesurau rheoli gwybed a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol hefyd gyflwyno hysbysiad o'r fath i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid yn y fangre honno os yw'r arolygydd milfeddygol yn amau bod anifeiliaid yn y fangre o fewn cyrraedd i feirws y tafod glas.
(3) Rhaid i'r person sy'n llunio'r stocrestr gadw cofnod ohoni am o leiaf ddwy flynedd.
10.—(1) Os yw arolygydd yn amau bod feirws y tafod glas yn bodoli yn unrhyw fangre, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth rheoli dros dro.
(2) Pan fo parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu yn Lloegr a bod y parth hwnnw'n cyffwrdd â ffin Cymru, caiff Gweinidogion Cymru sefydlu parth rheoli dros dro cysylltiedig yng Nghymru.
(3) Rhaid i leoliad a maint y parth rheoli dros dro fod yn briodol, ym marn Gweinidogion Cymru, i atal y clefyd rhag lledaenu.
(4) Pan fo parth rheoli dros dro wedi ei sefydlu, ni chaiff neb symud unrhyw anifail i fangre neu o fangre sydd yn y parth ac eithrio'n unol â thrwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol.
(5) Mae parth rheoli dros dro yn peidio â bod mewn unrhyw ardal sy'n cael ei hymgorffori wedyn mewn parth rheoli neu barth dan gyfyngiadau.
11. Pan fo arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni bod y tafod glas yn bodoli mewn unrhyw fangre, caniateir iddo gyflwyno i'r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid yn y fangre honno hysbysiad—
(a) sy'n cadarnhau bod y tafod glas yn bodoli yn y fangre; a
(b) sy'n hysbysu'r meddiannydd, er gwaethaf rheoliad 8, nad oes angen hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol o unrhyw achosion pellach lle'r amheuir bod y tafod glas yn y fangre.
12.—(1) Os yw'r Prif Swyddog Milfeddygol yn cadarnhau bod feirws y tafod glas yn cylchredeg yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru, pan fônt wedi'u bodloni ar sail epidemiolegol, daearyddol, ecolegol neu feteorolegol, fod hynny'n briodol at ddibenion rheoli'r clefyd, ddatgan bod ardal yn barth rheoli.
(2) Rhaid i'r parth rheoli gynnwys y fangre heintiedig, a bod o'r maint sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru at ddibenion rheoli'r clefyd.
(3) Ni chaiff neb symud anifail i fangre sydd mewn parth rheoli na'i symud ohoni.
13.—(1) Os bydd y Prif Swyddog Milfeddygol yn cadarnhau bod feirws y tafod glas yn cylchredeg yng Nghymru—
(a) rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan bod ardal briodol yn barth dan gyfyngiadau;
(b) caiff Gweinidogion Cymru, oddi mewn i barth dan gyfyngiadau, ddatgan bod unrhyw ardal o amgylch mangre heintiedig yn barth gwarchod, a bod unrhyw ardal sydd y tu hwnt i'r parth gwarchod hwnnw'n barth gwyliadwriaeth.
(2) Ni chaiff neb symud anifail, semen, ofwm nac embryo allan o barth dan gyfyngiadau ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
(3) Ni chaiff neb symud unrhyw anifail allan o barth gwarchod ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd.
(4) Rhaid i arolygydd roi trwydded os yw'r symudiad yn un a ganiateir o dan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1266/2007 fel y'i diwygir o dro i dro, a rhaid i amodau unrhyw drwydded fod yn rhai sy'n sicrhau bod y symudiad yn cael ei wneud yn unol â'r Rheoliad hwnnw.
(5) Gwaherddir person rhag symud anifail oddi mewn i barth dan gyfyngiadau os bydd yr anifail yn amlygu arwyddion clinigol o'r tafod glas ar y diwrnod cludo.
14.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi lladd-dŷ at ddibenion cigydda anifeiliaid a gludir allan o barth dan gyfyngiadau.
(2) Os caiff anifail ei gludo o barth dan gyfyngiadau i ladd-dŷ oddi allan i'r parth dan gyfyngiadau yn unol â thrwydded, rhaid i weithredydd y lladd-dŷ gigydda'r anifail hwnnw o fewn 24 awr iddo gyrraedd yno.
(3) Dim ond os yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan Weinidogion Cymru y caiff gweithredydd lladd-dŷ mewn parth gwyliadwriaeth gigydda anifail o barth gwarchod.
15. Os yw anifail, semen, ofwm neu embryo a fu mewn parth dan gyfyngiadau yn cael ei symud i fangre oddi allan i'r parth dan gyfyngiadau, caiff arolygydd gyflwyno i feddiannydd y fangre honno, ac i feddiannydd unrhyw fangre y caiff yr anifail, y semen, yr ofwm neu'r embryo ei symud iddi wedyn, hysbysiad sy'n gwahardd ei symud o'r fangre honno ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd.
16. Os cadarnheir bod y tafod glas yn bresennol y tu allan i Gymru a bod Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol at ddibenion rheoli'r clefyd, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan yng Nghymru barth rheoli dros dro, parth rheoli, parth gwarchod, parth gwyliadwriaeth neu barth dan gyfyngiadau (y caniateir iddo gael ei ffurfio o barth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth).