Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main navigation

Supplementary menus and contents

RHAN 2 Y profion arferol y mae'n rhaid eu cynnal ar yr holl anifeiliaid buchol mewn canolfannau casglu domestig a'r driniaeth y mae'n rhaid ei rhoi iddynt yno

1.  Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr holl anifeiliaid buchol a gedwir mewn canolfan gasglu ddomestig yn cael y profion canlynol o leiaf unwaith y flwyddyn—

(a) ar gyfer twbercwlosis buchol, prawf twbercwlin mewngroenol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad B i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;

(b) ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC; ac

(c) ar gyfer lewcosis buchol ensootig, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.

2.  —Os bydd unrhyw rai o'r profion uchod yn gadarnhaol, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifail buchol yn cael ei ynysu a bod y semen a gasglwyd oddi wrtho ers y prawf negyddol diwethaf yn cael ei ddistrywio.

(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau—

(a) bod y semen, a gasglwyd oddi wrth bob anifail buchol arall yn y ganolfan ers y dyddiad y cynhaliwyd y prawf cadarnhaol, yn cael ei gadw mewn storfa ar wahân; a

(b) na chaiff y semen hwnnw ei ddefnyddio na'i gyflenwi hyd nes y bydd statws iechyd y ganolfan wedi'i adfer i'r lefel sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddeb a'r Rheoliadau hyn.

RHAN 3 Y mesurau sy'n gymwys i brosesu mewn canolfan gasglu ddomestig

1.  Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau—

(a) bod semen sy'n cael ei brosesu yn y ganolfan yn semen a gasglwyd—

(i) mewn canolfan gasglu CE;

(ii) mewn canolfan gasglu a gymeradwywyd o dan y Gyfarwyddeb mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig neu Aelod-wladwriaeth arall;

(iii) mewn canolfan gasglu ddomestig;

(iv) mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu yn unol â'r Rheoliadau hyn; neu

(v) yn gyfreithlon mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig;

(b) nad yw'r semen yn cael ei storio gyda semen o statws iechyd gwahanol a bod modd nodi'r semen â marciau gwahanol i'r rhai a ddefnyddir mewn canolfannau casglu CE neu ganolfannau storio CE i semen ar gyfer fasnach ryng-Gymunedol;

(c) y ceir cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a ddefnyddir i brosesu semen, gan gynnwys ychwanegion neu deneuwyr, o ffynonellau nad ydynt yn peri unrhyw risg i iechyd anifeiliaid neu sy'n cael eu trin cyn cael eu defnyddio fel bod y risg hwnnw'n cael ei ddileu;

(ch) na fydd yr asiant cryogenig a ddefnyddir wedi'i ddefnyddio o'r blaen ar gyfer cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid;

(d) bod pob dogn semen unigol yn cael ei selio, ei rifo a'i farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd—

(i) y dyddiad y casglwyd y semen;

(ii) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;

(iii) brid yr anifail buchol a roes y semen; a

(iv) rhif trwydded y ganolfan lle cafodd y semen ei gasglu (os yw'n gymwys).

2.  Ni chaiff milfeddyg y ganolfan dderbyn i'w brosesu semen nas casglwyd yn y ganolfan ar gyfer prosesu oni fydd y canlynol yn dod gydag ef—

(a) y dogfennau a bennir yn rheoliad 14(4); a

(b) os yw'r semen yn dod o fangre sydd heb ei thrwyddedu, y dogfennau a bennir yn Atodlen 7, paragraff 1(c).

3.  —Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y gwrthfiotigau streptomycin, penicillin, lincomycin a spectinomycin yn cael eu hychwanegu i greu'r crynodiadau canlynol yn y semen gwanhaëdig terfynol—

(a) dim llai na 500 μg streptomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol,

(b) dim llai na 500 o Unedau Rhyngwladol o penicillin fesul ml o'r gwanhad terfynol,

(c) dim llai na 150 μg lincomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol, ac

(ch) dim llai na 300 μg spectinomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol.

(2) Caniateir i gyfuniad amgen o wrthfiotigau a chanddo effaith gyfatebol yn erbyn campylobacterau, leptospira a mycoplasmâu gael ei ddefnyddio.

4.  Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau, yn union ar ôl ychwanegu gwrthfiotigau, fod y semen yn cael ei gadw ar dymheredd o 5°C o leiaf am gyfnod nad yw'n llai na 45 o funudau.

RHAN 4 Y mesurau sy'n gymwys i gwarantîn semen mewn canolfan gasglu ddomestig

1.  Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y semen rhewedig yn cael ei gadw yn yr uned cwarantîn semen am o leiaf 30 o ddiwrnodau cyn iddo adael y ganolfan.

2.  Rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i unrhyw semen adael y ganolfan gasglu ddomestig onid yw'r fangre y cafodd ei gasglu ohoni yn dal yn rhydd rhag—

(a) clwy'r traed a'r genau; a

(b) y clefydau buchol a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC

am 30 o ddiwrnodau ar ôl casglu neu, yn achos semen ffres, tan ddyddiad anfon y semen.

3.  O ran anifail buchol—

(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd rhag lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu

(b) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC,

rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i'w semen adael y ganolfan hyd nes y bydd yr anifail buchol wedi cyrraedd dwy flwydd oed a'i fod wedi cael canlyniad negyddol i brawf ar gyfer lewcosis buchol ensootig, mewn prawf serolegol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.

4.  O ran anifail buchol a frechwyd yn erbyn clwy'r traed a'r genau fwy na 30 o ddiwrnodau cyn casgliad, ond o fewn 12 mis i'r casgliad hwnnw, rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i semen yr anifail buchol hwnnw adael y ganolfan oni chaiff 5% (gyda lleiafswm o bum corsen) o bob casgliad ganlyniad negyddol i brawf ynysu firws ar gyfer clwy'r traed a'r genau.