1.—(1) Cyn anfon am y tro cyntaf semen oddi wrth anifeiliaid buchol y nodwyd eu bod yn serolegol gadarnhaol ar gyfer BVD/MD, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod sampl o semen oddi wrth bob anifail buchol yn cael prawf ynysu firws neu brawf ELISA am antigenau firws ar gyfer y firws BVD/MD.
(2) Os ceir canlyniad cadarnhaol, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifail buchol yn cael ei symud o'r ganolfan gasglu a bod ei semen yn cael ei ddistrywio.
2. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y semen rhewedig yn cael ei gadw yn y cyfleusterau cwarantîn ar gyfer semen am o leiaf 30 o ddiwrnodau cyn iddo adael y ganolfan.
3. Rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i unrhyw semen adael y ganolfan onid yw'r fangre y cafodd ei gasglu ohoni yn dal yn rhydd rhag—
(a) clwy'r traed a'r genau; a
(b) y clefydau buchol a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC
am 30 o ddiwrnodau ar ôl casglu'r semen neu, yn achos semen ffres, tan ddyddiad anfon y semen.
4. O ran anifail buchol—
(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd rhag lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu
(a) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC,
rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i'w semen adael y ganolfan hyd nes y bydd yr anifail buchol wedi cyrraedd dwy flwydd oed a'i fod wedi cael canlyniad negyddol i brawf ar gyfer lewcosis buchol ensootig, mewn prawf serolegol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
5. O ran anifail buchol a frechwyd yn erbyn clwy'r traed a'r genau fwy na 30 o ddiwrnodau cyn casgliad, ond o fewn 12 mis i'r casgliad hwnnw, rhaid i filfeddyg y ganolfan beidio â chaniatáu i'w semen adael y ganolfan oni cheir canlyniad negyddol i 5% (gyda lleiafswm o bum corsen) o bob casgliad mewn prawf ynysu firws ar gyfer clwy'r traed a'r genau.
Rheoliad 16
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau—
(a) mai dim ond semen a gaiff ei storio yn y ganolfan;
(b) bod semen ond yn cael ei storio yn y ganolfan os nad yw wedi dod i gyffyrddiad ag unrhyw semen arall ac—
(i) ei fod wedi'i gasglu a'i brosesu mewn canolfannau casglu CE, neu mewn canolfannau a gymeradwywyd fel arall i gasglu semen o dan y Gyfarwyddeb; neu
(ii) ei fod, ar ôl cael ei gasglu a'i brosesu mewn canolfannau casglu CE neu mewn canolfannau a gymeradwywyd fel arall i gasglu semen o dan y Gyfarwyddeb, wedi'i storio mewn canolfannau storio CE neu mewn canolfannau a gymeradwywyd fel arall i storio semen o dan y Gyfarwyddeb;
(c) na fydd yr asiant cryogenig a ddefnyddir wedi'i ddefnyddio o'r blaen ar gyfer cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid; ac
(ch) bod pob dogn semen unigol yn cael ei selio, ei rifo a'i farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd—
(i) y dyddiad y casglwyd y semen;
(ii) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(iii) brid yr anifail buchol a roes y semen; a
(iv) rhif trwydded y ganolfan lle cafodd y semen ei gasglu (os yw'n gymwys).
2. Er gwaethaf paragraff 1(a), caiff milfeddyg y ganolfan storio embryonau dwys-rewedig yn y ganolfan os yw—
(a) y storio hwnnw wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru;
(b) yr embryonau yn bodloni gofynion Cyfarwyddeb y Cyngor 89/556/EEC ar yr amodau iechyd anifeiliaid sy'n rheoli'r fasnach ryng-Gymunedol mewn embryonau anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol a mewnforio embryonau o'r fath o drydydd gwledydd(17);
(c) y ganolfan yn cydymffurfio â rheoliadau 13, 14 a 15 o Reoliadau Embryonau Buchol (Eu Casglu, Eu Cynhyrchu a'u Trosglwyddo) 1995(18); ac
(ch) yr embryonau yn cael eu storio mewn cynwysyddion storio ar wahân i'r rhai sy'n cynnwys semen.
Rheoliad 16
1.—(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud cofnod o anifail buchol a dderbyniwyd ac—
(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd rhag lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu
(b) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodlen D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan drosglwyddo copi o unrhyw gofnod a wnaed o dan is-baragraff (1) i filfeddyg canolfan unrhyw ganolfan gasglu y caiff yr anifeiliaid buchol neu eu semen symud iddi, heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.
2. Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau y caiff pob dogn unigol o semen a gesglir yn y ganolfan ei farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd—
(a) y dyddiad y casglwyd y semen;
(b) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(c) brid yr anifail buchol a roes y semen; ac
(ch) rhif trwydded y ganolfan.