Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

Rheoliad 16

ATODLEN 3 Y MESURAU SY'N GYMWYS I GANOLFANNAU CASGLU CE

RHAN 1 Cofnodion o lewcosis buchol ensootig a marcio dognau semen

1.—(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud cofnod o anifail buchol a dderbyniwyd ac

(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd o lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu

(b) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.

(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan drosglwyddo copi o unrhyw gofnod a wnaed o dan is-baragraff (1) i filfeddyg canolfan unrhyw ganolfan gasglu y caiff yr anifeiliaid buchol neu eu semen symud iddi, heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.

2.  Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau y caiff pob dogn unigol o semen a gesglir yn y ganolfan ei farcio'n glir mewn modd a fyddai'n ei gwneud yn bosibl i'r wybodaeth ganlynol gael ei chadarnhau'n rhwydd—

(a) y dyddiad y casglwyd y semen;

(b) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;

(c) brid yr anifail buchol a roes y semen; ac

(ch) rhif trwydded y ganolfan.

RHAN 2 Y profion arferol y mae'n rhaid eu cynnal ar yr holl anifeiliaid buchol mewn canolfannau casglu CE a'r driniaeth y mae'n rhaid ei rhoi iddynt yno

1.—(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod pob anifail buchol yn y ganolfan yn cael y profion canlynol o leiaf unwaith y flwyddyn—

(a) ar gyfer twbercwlosis buchol, prawf twbercwlin mewngroenol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad B i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;

(b) ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;

(c) ar gyfer lewcosis buchol ensootig, prawf serolegol a gynhelir yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;

(ch) ar gyfer IBR/IPV, prawf serolegol (firws cyfan) ar sampl gwaed; a

(d) ar gyfer BVD/MD, prawf gwrthgorffynnau serolegol a gynhelir ar anifeiliaid buchol seronegyddol yn unig.

(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod anifeiliaid buchol y mae semen yn cael ei gasglu oddi wrthynt, neu anifeiliaid buchol sydd mewn cyffyrddiad ag anifeiliaid buchol o'r fath, yn cael profion o leiaf unwaith y flwyddyn ar samplau o sbesimen blaengroenol ar gyfer—

(a) Campylobacter fetus ssp. venerealis; a

(b) Trichomonas foetus.

(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod anifeiliaid buchol y mae semen i'w gasglu oddi wrthynt ar ôl ysbaid o fwy na chwe mis yn cael eu profi heb fod yn hwy na 30 o ddiwrnodau cyn i'r casglu ailddechrau ar samplau o sbesimen blaengroenol ar gyfer—

(a) Campylobacter fetus ssp. venerealis; a

(b) Trichomonas foetus.

(4) Os daw anifail buchol yn serolegol gadarnhaol mewn prawf ar gyfer BVD/MD, rhaid i filfeddyg y ganolfan wneud y canlynol mewn cysylltiad â phob dogn o had bwrw'r anifail hwnnw a gasglwyd rhwng dyddiad y prawf negyddol diwethaf (neu'r dyddiad y cyrhaeddodd yr anifail y ganolfan os yw'r canlyniad cadarnhaol yn deillio o'r prawf cyntaf a gynhaliwyd yno) a dyddiad y prawf cadarnhaol—

(a) sicrhau, pan fo'r had bwrw'n cael ei ddal yn y ganolfan—

(i) ei fod yn cael ei waredu; neu

(ii) ddim ond yn cael ei ddefnyddio neu ei gyflenwi os cafodd ei brofi ar gyfer BVD/MD a bod y canlyniadau'n rhai negyddol; neu

(b) pan fo'r had bwrw wedi'i gyflenwi i unrhyw berson, hysbysu'r person hwnnw bod yr had bwrw'n ddarostyngedig i ofynion is-baragraff (4)(a).

(5) Rhaid i berson y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan is-baragraff (4)(b) sicrhau, os yw'r had bwrw'n cael ei ddal ganddo neu ar ei gyfer, fod yr had bwrw hwnnw'n cael ei waredu, ei ddefnyddio neu ei gyflenwi'n unol ag is-baragraff (4)(a).

(6) Pan fo had bwrw wedi'i gyflenwi o fan ac eithrio'r ganolfan i unrhyw berson a bod y person hwnnw'n wedyn yn cyflenwi'r had bwrw hwnnw i unrhyw berson arall, bydd is-baragraff (4)(b) yr un mor gymwys i'r person arall hwnnw.

2.—(1) Os bydd unrhyw rai o'r profion sy'n ofynnol o dan baragraff 1 yn gadarnhaol, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod yr anifail buchol yn cael ei ynysu ac na fydd y semen a gasglwyd oddi wrtho ers y prawf negyddol diwethaf (yn ddarostyngedig i baragraff 3) yn cael ei gyflenwi ar gyfer masnach ryng-Gymunedol.

(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y semen a gasglwyd oddi wrth bob anifail buchol arall yn y ganolfan ers y dyddiad y cynhaliwyd y prawf cadarnhaol yn cael ei gadw mewn storfa ar wahân ac ni chaiff fod yn destun masnach ryng-Gymunedol hyd nes y bydd statws iechyd y ganolfan wedi'i adfer i'r lefel sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddeb a'r Rheoliadau hyn.

3.  Er gwaethaf paragraff 2(1), yn achos anifail buchol y mae canlyniad ei brawf ar gyfer BVD/MD yn gadarnhaol mewn prawf gwrthgorffynnau serolegol, caiff milfeddyg y ganolfan ganiatáu i semen o had bwrw y mae canlyniad ei brawf ar gyfer BVD/MD yn negyddol fod yn destun masnach ryng-Gymunedol.

RHAN 3 Y mesurau sy'n gymwys i gyfleusterau prosesu mewn canolfan gasglu CE

1.  Rhaid i feddiannydd y ganolfan sicrhau—

(a) bod semen a brosesir yn y ganolfan yn un o'r canlynol—

(i) semen a gasglwyd mewn canolfan gasglu CE;

(ii) semen a gasglwyd mewn canolfan gasglu a gymeradwywyd o dan y Gyfarwyddeb mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig; neu

(iii) semen sy'n dod o anifeiliaid buchol sydd wedi cael y profion a bennwyd yn Atodlen 2, paragraff 2(1);

(b) bod unrhyw semen y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a)(iii)—

(i) wedi'i brosesu gan defnyddio cyfarpar ar wahân (y mae'n rhaid ei lanhau a'i sterileiddio ar ôl ei ddefnyddio) neu ar adeg wahanol i'r adeg y proseswyd semen a fwriadwyd ar gyfer masnach ryng-Gymunedol; a

(ii) wedi'i ddynodi â marc gwahanol i'r hyn sy'n ofynnol o dan is-baragraff (dd);

(c) na fydd semen sydd wedi'i gasglu, ei brosesu a'i roi mewn cwarantîn mewn canolfannau casglu CE ac sydd wedi'i fwriadu ar gyfer masnach ryng-Gymunedol yn dod i gyffyrddiad, nac yn cael ei storio yn yr un ystafell, ag unrhyw semen arall sy'n cael ei brosesu yn y ganolfan;

(ch) y ceir cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a ddefnyddir i brosesu semen, gan gynnwys ychwanegion a theneuwyr, o ffynonellau nad ydynt yn peri unrhyw risg i iechyd anifeiliaid neu o ffynonellau sy'n cael eu trin cyn cael eu defnyddio fel bod y risg hwnnw'n cael ei ddileu;

(d) na fydd yr asiant cryogenig a ddefnyddir wedi'i ddefnyddio o'r blaen ar gyfer cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid;

(dd) bod pob dogn semen unigol yn cael ei selio, ei rifo a'i farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd—

(i) y dyddiad y casglwyd y semen;

(ii) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;

(iii) brid yr anifail buchol a roes y semen; a

(iv) rhif trwydded y ganolfan lle cafodd y semen ei gasglu (os yw'n gymwys); ac

(e) yr hysbysir Gweinidogion Cymru o'r fformat a ddefnyddir i nodi semen .

2.  Ni chaiff milfeddyg y ganolfan dderbyn semen nas casglwyd yn y ganolfan i'w brosesu oni fydd y canlynol yn dod gydag ef—

(a) y dogfennau a bennir yn rheoliad 14(4); a

(b) os yw'r semen yn dod o fangre sydd heb ei thrwyddedu, y dogfennau a bennir yn Atodlen 7, paragraff 1(c).

3.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y gwrthfiotigau streptomycin, penicillin, lincomycin a spectinomycin yn cael eu hychwanegu i greu'r crynodiadau canlynol yn y semen gwanhaëdig terfynol—

(a) dim llai na 500 μg streptomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol,

(b) dim llai na 500 o Unedau Rhyngwladol o penicillin fesul ml o'r gwanhad terfynol,

(c) dim llai na 150 μg lincomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol, ac

(ch) dim llai na 300 μg spectinomycin fesul ml o'r gwanhad terfynol.

(2) Caniateir i gyfuniad amgen o wrthfiotigau a chanddo effaith gyfatebol yn erbyn campylobacterau, leptospira a mycoplasmâu gael ei ddefnyddio.

4.  Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau, yn union ar ôl ychwanegu gwrthfiotigau, fod y semen yn cael ei gadw ar dymheredd o 5°C o leiaf am gyfnod nad yw'n llai na 45 o funudau.