Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main menu and contents

Supplementary menus and contents

RHAN 5 Gweinyddu a gorfodi

Gwrthod rhoi cymewyaethrad neu drwydded

32.  Os yw Gweinidogion Cymru'n gwrthod rhoi cymeradwyaeth neu drwydded, neu'n ei rhoi'n ddarostyngedig i amodau, rhaid iddynt—

(a) rhoi eu rhesymau mewn ysgrifen; a

(b) esbonio hawl y ceisydd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru

33.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i geisydd am gymeradwyaeth i anifail buchol, deiliad cymeradwyaeth o'r fath neu berchennog anifail buchol ddarparuu'r cyfryw wybodaeth, a chaniatáu i'r anifail buchol gael y cyfryw brofion ac archwiliadau, sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru i'w galluogi i benderfynu a ddylai'r gymeradwyaeth gael ei rhoi neu ei pharhau.

(2) Rhaid i berchennog blaenorol anifail buchol a gymeradwywyd hysbysu Gweinidogion Cymru o enw a chyfeiriad y perchennog newydd o fewn 21 o ddiwrnodau i drosglwyddo'r berchenogaeth iddo.

(3) Rhaid i berchennog anifail buchol a gymeradwywyd, o fewn 21 o ddiwrnodau i farwolaeth yr anifail hwnnw, hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod wedi marw, o dan ba amgylchiadau y digwyddodd hynny a chanlyniadau unrhyw archwiliad post mortem.

(4) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i geisydd am drwydded canolfan semen buchol, neu i ddeiliad trwydded o'r fath, ddarparu'r cyfryw wybodaeth, a chaniatáu'r cyfryw brofion ac archwiliadau, sy'n angenrheidiol ym marn Gweinidogion Cymru i'w galluogi i benderfynu a ddylai'r drwydded gael ei rhoi neu ei pharhau.

Atal dros dro a diwygio

34.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro neu ddiwygio cymeradwyaeth neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol—

(a) os na chaiff unrhyw un o'r amodau y cafodd ei rhoi odanynt eu bodloni; neu

(b) os cânt eu bodloni na chydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

(2) O ran ataliad dros dro neu ddiwygiad—

(a) caniateir iddo gael effaith ar unwaith os bydd Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid; a

(b) ni chaniateir iddo gael effaith, fel arall, am o leiaf 21 o ddiwrnodau.

(3) Rhaid i hysbysiad o'r ataliad dros dro neu'r diwygiad—

(a) bod yn ysgrifenedig;

(b) datgan i beth y mae'n gymwys;

(c) datgan pryd y daw'n weithredol;

(ch) rhoi'r rhesymau; a

(d) esbonio hawl y person a hysbyswyd i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(4) Os na fydd yr ataliad dros dro neu'r diwygiad yn cael effaith ar unwaith a bod sylwadau'n cael eu cyflwyno o dan reoliad 36, ni fydd yn cael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu'n derfynol ar yr apêl oni fyddant o'r farn ei bod yn angenrheidiol diogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid i'r diwygiad neu'r ataliad dros dro gael effaith cyn hynny.

Dirymu cymeradwyaeth neu drwydded

35.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu cymeradwyaeth neu drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol—

(a) os ydynt wedi hysbysu o'u penderfyniad i atal dros dro'r gymeradwyaeth neu'r drwydded a bod y cyfnod ar gyfer apelio o dan reoliad 36 wedi dirwyn i ben;

(b) os ydynt wedi cadarnhau eu penderfyniad i'w hatal dros dro yn sgil apêl o dan reoliad 36;

(c) os ydynt wedi atal dros dro y gymeradwyaeth neu'r drwydded o'r blaen a bod methiant pellach â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn; neu

(ch) os ydynt wedi'u bodloni nad yw meddiannydd y fangre yn ei defnyddio mwyach at y diben y rhoddwyd trwydded ar ei gyfer.

(2) Rhaid i hysbysiad o ddirymiad—

(a) bod yn ysgrifenedig;

(b) datgan beth y mae'n gymwys iddo;

(c) datgan pryd y daw'n weithredol;

(ch) rhoi'r rhesymau; a

(d) yn achos dirymiad o dan baragraff (1)(c) neu(1)(ch), esbonio hawl y person sydd wedi'i hysbysu i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru.

(3) Os bydd person yn cyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan reoliad 36(1), mae'r dirymiad yn parhau mewn grym tra'n aros am ganlyniad yr apêl.

Apelau

36.—(1) Caiff person gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i berson a benodir i'r perwyl hwnnw gan Weinidogion Cymru ynghylch unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru ynghylch—

(a) rhoi, atal dros dro neu ddirymu cymeradwyaeth neu drwydded o dan y Rheoliadau hyn,

(b) yr amodau y mae cymeradwyaeth neu drwydded yn ddarostyngedig iddynt, neu

(c) unrhyw ffioedd a godir o dan y Rheoliadau hyn,

o fewn 21 o ddiwrnodau o'i hysbysu o'r penderfyniad.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno sylwadau ysgrifenedig hefyd i'r person penodedig ynghylch eu penderfyniad.

(3) Rhaid i'r person penodedig gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(4) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i'r apelydd hysbysiad ysgrifenedig o'u dyfarniad terfynol a'r rhesymau drosto.

Hysbysiad yn gwahardd defnyddio semen

37.—(1) Os yw'n meddwl ei bod yn angenrheidiol i atal clefyd rhag lledaenu, caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i berchennog anifail buchol neu unrhyw un y mae'n credu ei fod yn berchennog ar yr anifail buchol neu'n meddu ar semen o'r anifail buchol hwnnw.

(2) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1)—

(a) gwahardd defnyddio neu fasnachu semen a gasglwyd o'r anifail buchol;

(b) ei gwneud yn ofynnol i'r semen hwnnw gael ei ddistrywio; ac

(c) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson arall y gall yr anifail buchol neu ei semen fod yn ei feddiant yn cael ei nodi.

(3) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre lle mae'n gwybod neu'n amau bod y semen sy'n destun yr hysbysiad yn cael ei gadw a chaiff gymryd y semen i'w feddiant a threfnu i ofynion yr hysbysiad gael eu bodloni.

Hysbysiad ynghylch llwythi anghyfreithlon

38.—(1) Os yw arolygydd yn gwybod neu'n amau bod semen wedi'i fewnforio o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i'r Gyfarwyddeb, caiff gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) i'r person y mae'n ymddangos i'r arolygydd fod y semen o dan ei ofal.

(2) Caiff yr hysbysiad ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw—

(a) dal ei afael ar semen yn y lle a bennir yn yr hysbysiad;

(b) distrywio semen yn unol â gofynion yr hysbysiad; neu

(c) cymryd unrhyw gamau eraill a bennir gan yr arolygydd.

(3) Os na chydymffurfir â hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn, caiff arolygydd fynd i mewn i unrhyw fangre lle mae'n gwybod neu'n amau bod semen sy'n destun yr hysbysiad yn cael ei gadw a chaiff gymryd y semen i'w feddiant a threfnu i ofynion yr hysbysiad i gael eu bodloni.

Darparu gwybodaeth anwir

39.  Ni chaiff neb ddarparu unrhyw wybodaeth na gwneud unrhyw ddatganiad er mwyn cael cymeradwyaeth neu drwydded o dan y Rheoliadau hyn os nad yw'n credu neu os nad oes ganddo sail resymol dros gredu bod yr wybodaeth honno neu'r datganiad hwnnw'n wir.

Archwilio canolfannau semen buchol

40.  Rhaid i Weinidogion Cymru archwilio pob canolfan semen buchol o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Talu ffioedd

41.—(1) Mae ffi'n daladwy i Weinidogion Cymru—

(a) adeg gwneud cais am gymeradwyo anifail buchol o dan reoliad 7 neu 10;

(b) adeg gwneud cais am drwydded canolfan semen buchol o dan reoliad 4;

(c) am brofi anifail buchol o dan Ran 2 o Atodlen 3 neu Ran 2 o Atodlen 5, adeg cael yr anfoneb; neu

(ch) am archwilio canolfan semen buchol o dan reoliad 40, adeg cael yr anfoneb.

(2) Mae'r ffi yn swm y canlynol—

(a) costau teithio'r swyddog milfeddygol ac unrhyw gynorthwyydd mewn perthynas â'r cais, prawf neu archwiliad perthnasol;

(b) costau'r swyddogion sy'n ystyried y cais, prawf neu archwiliad perthnasol; ac

(c) costau profion labordy ar anifeiliaid buchol.

(3) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ar eu gwefan y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo'r ffi.

Ad-dalu ffioedd

42.  Os bydd cais o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei dynnu'n ôl cyn bod dyfarniad arno, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i'r ceisydd unrhyw gyfran o unrhyw ffi a dalwyd o dan reoliad 41 mewn cysylltiad â'r cais hwnnw ag y gwêl Gweinidogion Cymru'n dda, gan roi sylw i unrhyw gostau a dynnir yn rhesymol ganddo mewn cysylltiad â'r cais.

Darpariaethau trosiannol

43.  Bydd trwyddedau a chymeradwyaethau a roddwyd o dan Reoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985(14) yn parhau i gael effaith fel petaent yn gymeradwyaethau neu drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn yn unol â'r tabl canlynol, ar yr amod, yn achos mangre, bod y fangre'n cydymffurfio, â darpariaethau'r Rheoliadau hyn, ac yn cael ei gweithredu'n unol â hwy—

Trwyddedau a chymeradwyaethau o dan Reoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985 Y gymeradwyaeth gyfatebol o dan y Rheoliadau hyn
Cymeradwyo tarw i gael ei ddefnyddio (rheoliad 5) Cymeradwyo anifail buchol (rheoliad 7)
Trwydded brosesu (rheoliad 7(1)(a))

Prosesu semen y bwriedir ei ddefnyddio ar gyfer masnach ryng-Gymunedol: trwydded canolfan gasglu CE (rheoliad 4 (b)(i);

Prosesu semen na fwriedir ei ddefnyddio ar gyfer masnach ryng-Gymunedol: trwydded canolfan gasglu ddomestig (rheoliad 4(b)(ii)).

Trwydded storio (rheoliad 7(1)(b)) Trwydded canolfan storio CE (rheoliad 4(c)(i) neu drwydded canolfan storio ddomestig (rheoliad 4(c)(ii)).

Diwygio Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial (Gwartheg a Moch) (Ffioedd) 1987

44.  Yn Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial (Gwartheg a Moch) (Ffioedd) 1987(15)—

(a) yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “the principal cattle Regulations”;

(b) yn rheoliad 3(1), yn lle'r geiriau “Subject to paragraph (1A) below, there” rhodder “There” a hepgorer y geiriau “the principal cattle Regulations and”;

(c) hepgorer rheoliad 3(1)(a);

(ch) hepgorer rheoliad 3(1A);

(d) yn rheoliad 4, hepgorer y geiriau “the principal cattle Regulations or”; ac

(dd) hepgorer Atodlen 1.

Dirymiadau

45.—(1) Mae'r Rheoliadau yn Rhan 1 o Atodlen 10 wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

(2) Mae'r Rheoliadau yn Rhan 2 o Atodlen 10 wedi'u dirymu.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

7 Ebrill 2008

(14)

S.I. 1985/1861, a ddiwygiwyd gan O.S. 1987/904, 1992/671, 1995/2549, 1996/3124, 2001/380, 2002/824 a 2004/3231. Back [14]

(15)

O.S. 1987/390, a ddiwygiwyd gan O.S. 1992/2592. Back [15]