19. Ni chaiff neb gasglu semen oddi wrth anifail buchol i'w ddefnyddio at ddiben ffrwythloni artiffisial onid yw'r anifail buchol—
(a) wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru;
(b) wedi'i nodi'n unol â rheoliadau adnabod gwartheg;
(c) heb amlygu unrhyw arwyddion clinigol o glefyd ar y diwrnod y mae'r semen i'w gasglu;
(ch) heb ei frechu yn erbyn clwy'r traed a'r genau o fewn y 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad casglu;
(d) heb ei adael i serfio'n naturiol ers dyddiad y cais am ei gymeradwyo at ddibenion casglu semen; ac
(dd) (pan fo'i semen i'w gyflenwi fel semen ffres) wedi'i gadw mewn canolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig am gyfnod parhaus o 30 o ddiwrnodau o leiaf cyn y dyddiad y caiff y semen ei gasglu.
20.—(1) Ni chaiff neb gasglu semen oddi wrth anifail buchol ac eithrio—
(a) mewn canolfan gasglu CE;
(b) mewn canolfan gasglu ddomestig; neu
(c) mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu,
yn unol â'r Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i'r cyfryw ganolfannau neu fangreoedd sydd heb eu trwyddedu fod—
(a) wedi bod yn rhydd rhag clwy'r traed a'r genau am o leiaf dri mis cyn casglu'r semen;
(b) wedi'u lleoli yng nghanol ardal ac iddi radiws o 10 cilometr lle na chafwyd unrhyw frigiad clwy'r traed a'r genau am y 30 niwrnod blaenorol o leiaf; ac
(c) wedi bod, am 30 niwrnod cyn casglu'r semen, yn rhydd rhag y clefydau buchol a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
21. Ni chaiff neb ddefnyddio anifail ymlid i fod yn gyfrwng cymorth i gasglu semen onid yw wedi'i gymeradwyo at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
22.—(1) Ni chaiff neb fynd ag anifail buchol i mewn i—
(a) canolfan gwarantîn CE;
(b) canolfan gasglu CE; neu
(c) canolfan gasglu ddomestig;
heb awdurdodiad pendant milfeddyg y ganolfan.
(2) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi anifail buchol i fynd i mewn i ganolfan gwarantîn CE onid oedd yr anifail hwnnw, cyn mynd i mewn i'r ganolfan, bob amser wedi perthyn i fuches—
(a) yn swyddogol rydd rhag twbercwlosis; a
(b) yn swyddogol rydd rhag brwselosis,
yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC.
(3) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi anifail buchol i fynd i mewn i ganolfan gasglu CE oni chaiff gofynion Rhan 1 o Atodlen 8 eu bodloni.
(4) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi anifail buchol i fynd i mewn i ganolfan gasglu ddomestig oni fydd gofynion Rhan 1 neu 2 o Atodlen 8 wedi'u bodloni.
(5) Ni chaiff gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu gasglu semen oddi wrth anifail buchol ar fangre sydd heb ei thrwyddedu oni fydd gofynion Rhan 1 neu 2 o Atodlen 8 wedi'u bodloni.
(6) Ni chaiff milfeddyg canolfan i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig, na gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu, dderbyn anifeiliaid buchol oni bai, ar y dyddiad symud, fod y fangre y daethant ohoni—
(a) wedi'i lleoli yng nghanol ardal ac iddi radiws o 10 cilometr lle na chafwyd unrhyw frigiad clwy'r traed a'r genau yn ystod y 30 niwrnod blaenorol o leiaf;
(b) wedi bod, am y 3 mis blaenorol o leiaf, yn rhydd rhag clwy'r traed a'r genau a brwselosis; ac
(c) wedi bod, am y 30 niwrnod blaenorol o leiaf, yn rhydd rhag y clefydau buchol hynny a restrir yn Atodiad E(I) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.
(7) Ni chaiff milfeddyg y ganolfan na gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu awdurdodi bod unrhyw anifail buchol sy'n amlygu unrhyw arwydd clinigol o glefyd ar ddiwrnod y derbyniad arfaethedig yn cael ei dderbyn.
23.—(1) Ni chaiff neb symud anifail buchol i ganolfan gasglu CE, canolfan gasglu ddomestig na mangre sydd heb ei thrwyddedu ac eithrio—
(a) mewn cyfrwng cludo sydd wedi'i lanhau a'i ddiheintio cyn cael ei ddefnyddio'n unol â Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(13); a
(b) o dan amodau sy'n sicrhau na fydd yn dod i gyffyrddiad ag anifeiliaid fforchog yr ewin nad ydynt wedi'u hawdurdodi i ddod i mewn i'r ganolfan na'r fangre y cyrchir ati.
(2) Ni chaiff neb symud anifail buchol o un ganolfan gasglu i un mewn Aelod-wladwriaeth arall ac eithrio'n unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC.
24. Ni chaiff neb brosesu semen ac eithrio—
(a) mewn canolfan gasglu CE; neu
(b) mewn canolfan gasglu ddomestig.
25. Ni chaiff neb—
(a) defnyddio unrhyw offeryn (ac eithrio offeryn untro) sy'n dod i gyffyrddiad â semen neu â'r anifail sy'n ei roi wrth gasglu neu brosesu'r semen onid yw'r offeryn hwnnw wedi'i ddiheintio neu ei sterileiddio cyn iddo gael ei ddefnyddio; neu
(b) ailddefnyddio offeryn untro.
26. Ni chaiff neb storio na symud semen ac eithrio mewn cynhwysydd a ddefnyddir at y diben hwnnw yn unig ac sydd—
(a) wedi'i ddiheintio neu wedi'i sterileiddio cyn cael ei ddefnyddio; neu
(b) yn gynhwysydd untro nas defnyddiwyd o'r blaen.
27. Ni chaiff neb sy'n storio neu'n symud semen ganiatáu iddo ddod i gyffyrddiad â deunydd sy'n dod o anifeiliaid (gan gynnwys plasm cenhedlu arall) y mae ei statws iechyd yn is.
28.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i'r camau sy'n angenrheidiol i symud semen i ganolfan storio CE neu ganolfan storio ddomestig.
(2) Ni chaiff neb gyflenwi semen rhewedig na'i ddefnyddio at ddibenion ffrwythloni artiffisial onid yw wedi ei storio—
(a) mewn canolfan storio CE;
(b) mewn canolfan storio ddomestig; neu
(c) mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig ar fangre a gymeradwywyd gan yr awdurdod cymwys i storio semen buchol.
29. Ni chaiff neb gyflenwi na defnyddio semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial os yw'n gwybod neu'n amau ei fod heb ei gasglu, heb ei brosesu neu heb ei storio'n unol â gofynion—
(a) y Rheoliadau hyn,
(b) cyfreithlon mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig; neu
(c) yn achos semen sy'n deillio o Aelod-wladwriaeth arall neu o drydedd wlad, y Gyfarwyddeb,
onid yw wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.
30.—(1) Ni chaiff neb gyflenwi semen ar gyfer masnach ryng-Gymunedol oni bai—
(a) ei fod—
(i) wedi'i gasglu, ei brosesu a'i roi mewn cwarantîn mewn canolfan gasglu CE; a
(ii) wedi'i storio mewn canolfan storio CE; neu
(b) yn achos semen a gyflenwir o Aelod-wladwriaeth arall neu a fewnforir o drydedd wlad yn unol â'r Gyfarwyddeb, wedi ei storio mewn canolfan storio CE.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi semen ar gyfer masnach ryng-Gymunedol sicrhau bod y dystysgrif iechyd anifeiliaid y cyfeirir ati yn Erthyglau 3(d) a 6(1) o'r Gyfarwyddeb yn mynd gyda'r semen hwnnw.
31.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i weithredwyr mangreoedd sydd heb eu trwyddedu nac i filfeddygon canolfan, sy'n ddarostyngedig i reoliad 14.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n cyflenwi semen gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 1.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cael semen gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 2.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy'n defnyddio semen at ddibenion ffrwythloni artiffisial gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 3 mewn perthynas â phob corsen neu gynhwysydd arall a ddefnyddir.
(5) Rhaid i unrhyw berson sy'n distrywio semen gadw cofnod o'r wybodaeth a bennir yn Atodlen 9 paragraff 4 mewn perthynas â phob corsen neu gynhwysydd arall a ddistrywir.
(6) Rhaid i unrhyw berson y mae'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol iddo gadw cofnodion sicrhau bod y cofnodion yn cael eu gwneud yn gydamserol.
(7) Caiff cofnodion o'r fath gael eu cadw ar ffurf ysgrifenedig neu electronig a rhaid eu cadw am o leiaf ddwy flynedd ar ôl cyflenwi, derbyn, defnyddio, neu ddistrywio'r semen, fel y bo'n briodol.
O.S. 2003/1968, (Cy.213). Back [13]