Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

RHAN 3 Dull gweithredu canolfan semen buchol a chasglu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu

Mynediad personau i ganolfannau semen buchol

11.—(1) Ni chaiff neb, heb awdurdod cyfreithlon neu esgus rhesymol, fynd i mewn i ganolfan semen buchol heb awdurdod milfeddyg y ganolfan.

(2) Rhaid i berson sydd wedi'i awdurdodi gan filfeddyg y ganolfan i fynd i mewn i ganolfan semen buchol gydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodir gan filfeddyg y ganolfan i sicrhau cydymffurfedd â'r Rheoliadau hyn.

(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau na fydd neb sydd heb ei awdurdodi yn mynd i mewn i'r ganolfan semen buchol.

Mynediad anifeiliaid nad ydynt yn anifeiliaid buchol i ganolfannau semen buchol

12.—(1) Ni chaiff neb fynd ag anifail nad yw'n anifail buchol i mewn i ganolfan semen buchol heb awdurdodiad pendant milfeddyg y ganolfan.

(2) Caiff milfeddyg y ganolfan awdurdodi bod anifeiliaid domestig o rywogaeth nad yw'n rhywogaeth fuchol yn cael eu derbyn i ganolfan semen buchol ar yr amod—

(a) eu bod yn angenrheidiol i weithrediad y ganolfan;

(b) nad ydynt yn peri unrhyw risg heintio i'r anifeiliaid buchol hynny y mae eu semen i'w gasglu; ac

(c) eu bod yn bodloni'r amodau a osodir gan filfeddyg y ganolfan.

Gofyniad i gadw cofnodion o anifeiliaid buchol

13.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ganolfan storio CE na chanolfan storio ddomestig

(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan neu weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu wneud cofnod o'r canlynol ar gyfer pob anifail buchol a symudir i mewn i'r ganolfan neu'r fangre neu allan o'r naill le neu'r llall—

(a) ei frid;

(b) ei ddyddiad geni;

(c) y rhif y mae modd ei adnabod drwyddo yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg;

(ch) pob brechiad a roddir iddo;

(d) y profion y mae wedi eu cael ar gyfer clefydau a chanlyniadau'r profion hynny; ac

(dd) unrhyw awgrym o glefyd y gall fod arno.

(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan neu weithredydd y fangre sydd heb ei thrwyddedu sicrhau bod y cofnodion hyn yn cael eu cadw am o leiaf ddwy flynedd o'r dyddiad y mae'r anifail buchol yn gadael y ganolfan neu'r fangre, neu'n marw yn y ganolfan neu'r fangre.

Gofyniad i gadw cofnodion o semen

14.—(1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ganolfannau cwarantîn CE.

(2) Pryd bynnag y bydd semen yn cael ei symud o ganolfan semen buchol neu iddi, neu'n cael ei ddistrywio, rhaid i filfeddyg y ganolfan gofnodi—

(a) y rhif y mae modd adnabod drwyddo yr anifail buchol sy'n rhoi'r semen yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg;

(b) ei statws iechyd;

(c) nifer y dognau semen;

(ch) y rhifau ar y cynwysyddion y mae neu yr oedd y semen wedi'i gynnwys ynddynt (fel y bo'n gymwys);

(d) dyddiad cael, anfon neu ddistrywio'r semen (fel y bo'n gymwys);

(dd) y fangre, neu'r ganolfan semen buchol, yr anfonwyd y semen ohoni (os yw'n gymwys); ac

(e) y gyrchfan (os yw'n gymwys).

(3) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu gofnodi'r wybodaeth ym mharagraffau 2(a) i (e) yn achos semen a anfonwyd i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig i'w brosesu.

(4) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu neu filfeddyg y ganolfan sicrhau bod dogfennau sy'n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraffau 2(a) i (e) yn mynd gyda phob llwyth semen.

(5) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu neu filfeddyg y ganolfan sicrhau bod y cofnodion hyn yn cael eu cadw am o leiaf ddwy flynedd ar ôl anfon, cael neu ddistrywio'r semen.

Dyletswyddau cyffredinol milfeddygon canolfannau

15.—(1) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau—

(a) bod y ganolfan yn cael ei gweithredu'n unol â'r Rheoliadau hyn;

(b) y glynir wrth amodau'r drwydded y mae'r ganolfan yn gweithredu odani;

(c) bod safonau hylendid priodol yn cael eu cynnal yn y ganolfan i atal ymosodiad gan glefyd y gellir ei drosglwyddo gan semen; ac

(ch) bod bioddiogelwch y ganolfan yn cael ei barhau i atal ymosodiad glefyd y gellir ei drosglwyddo gan semen.

(2) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod staff yn y ganolfan yn dechnegol hyfedr a'u bod wedi cael hyfforddiant priodol mewn gweithdrefnau diheintio a thechnegau hylendid.

(3) Rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu ar unwaith os bydd canlyniad unrhyw brawf a gynhelir ar anifail buchol yn y ganolfan i weld a oes arno unrhyw glefyd y mae'n rhaid cynnal prawf ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn yn dangos newid yn statws iechyd yr anifail buchol.

Dyletswyddau penodol milfeddygon canolfannau a gweithredwyr mangreoedd sydd heb eu trwyddedu

16.—(1) Mae dyletswyddau milfeddyg canolfan—

(a) canolfan gwarantîn CE wedi'u nodi yn Atodlen 2;

(b) canolfan gasglu CE wedi'u nodi yn Atodlen 3;

(c) canolfan storio CE wedi'u nodi yn Atodlen 4;

(ch) canolfan gasglu ddomestig wedi'u nodi yn Atodlen 5; a

(d) canolfan storio ddomestig wedi'u nodi yn Atodlen 6.

(2) Mae dyletswyddau gweithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu wedi nodi yn Atodlen 7.

Cymryd samplau gwaed a phrofi ar gyfer twbercwlosis buchol

17.—(1) Yr unig rai a gaiff ymgymryd â gwaith cymryd samplau gwaed i'w dadansoddi mewn labordy yw—

(a) milfeddyg canolfan;

(b) arolygydd sydd wedi cymhwyso fel milfeddyg; neu

(c) person sy'n bodloni'r amodau a nodir yn erthyglau 3(2)(a) neu 3(2)(b) o Orchymyn Milfeddygaeth (Samplu Gwaed) 1983(12) ac y mae'r person cymwysedig perthnasol ar ei gyfer, a ddisgrifir yn yr erthyglau hynny, yn filfeddyg canolfan neu'n arolygydd sydd wedi cymhwyso fel milfeddyg.

(2) Dim ond milfeddyg sydd wedi'i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw a gaiff brofi ar gyfer twbercwlosis buchol.

Profion labordy

18.  Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu neu filfeddyg y ganolfan sicrhau bod profion labordy sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn yn cael eu cynnal gan labordy a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

(12)

O.S. 1983/6, a ddiwygiwyd gan O.S. 1988/1090 a 1990/2217. Back [12]