Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Navigation


Main navigation

Supplementary menus and contents

RHAN 1 Darpariaethau cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 30 Ebrill 2008.

Dehongli

2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anifail ymlid” (“teaser animal”) yw anifail buchol a ddefnyddir fel cyfrwng cymorth i gasglu semen;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 10(4) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984;

mae “buchol” (“bovine”) yn cynnwys y rhywogaeth Bubalus bubalis a Bison bison;

mae i'r term “canolfan gasglu CE” (“EC collection centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(b)(i);

mae i'r term “canolfan gasglu ddomestig” (“domestic collection centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(b)(ii);

mae i'r term “canolfan gwarantîn CE” (“EC quarantine centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(a);

ystyr “canolfan semen buchol” (“bovine semen centre”) yw mangre sydd wedi ei thrwyddedu o dan reoliad 4;

mae i'r term “canolfan storio CE” (“EC storage centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(c)(i);

mae i'r term “canolfan storio ddomestig” (“domestic storage centre”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 4(c)(ii);

ystyr “corsen” (“straw”) yw cynhwysydd a ddefnyddir i gynnwys un dogn o semen;

ystyr “Cyfarwyddeb 64/432/EEC” (“Directive 64/432/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy'n effeithio ar y fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu'r mochyn(4), fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno o dro i dro;

ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion ynghylch iechyd anifeiliaid sy'n gymwys i'r fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol ac mewnforion ohono(5), fel y'i diwygiwyd o dro i dro;

ystyr “mangre sydd heb ei thrwyddedu” (“unlicensed premises”) yw mangre nad oes ganddi drwydded o dan reoliad 4;

ystyr “mam” (“dam”), yn achos anifeiliaid buchol sy'n deillio o drosglwyddo embryonau, yw derbynnydd yr embryo;

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw milfeddyg neu ymarferydd milfeddygol sydd wedi'i gofrestru o dan Ddeddf Milfeddygon 1966(6);

mae i “milfeddyg y ganolfan” (“the centre veterinarian”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 5(b);

ystyr “prosesu” (“processing”) yw un neu ragor o'r canlynol–

(a)

gwanhau (ac eithrio wrth gasglu semen neu'n union ar ôl gwneud hynny),

(b)

ychwanegu unrhyw sylwedd gyda'r bwriad o estyn bywyd naturiol y semen (ac eithrio wrth gasglu semen neu'n union ar ôl gwneud hynny),

(c)

ychwanegu unrhyw wrthfiotig,

(ch)

pacio i mewn i gorsennau neu gynwysyddion priodol eraill, a

(d)

rhewi;

ystyr “rheoliadau adnabod gwartheg” (“cattle identification regulations”) yw—

(e)

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007(7); neu

(f)

Rheoliad y Cyngor 1760/2000, fel y'i diwygiwyd o dro i dro (yn achos anifeiliaid buchol a anwyd y tu allan i Gymru);

ystyr “Rheoliad y Cyngor 1760/2000” (“Council Regulation 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac ynghylch labelu cig eidion a chynhyrchion cig eidion(8) ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(9), fel y'i diwygiwyd o dro i dro;

ystyr “semen ffres” (“fresh semen”) yw semen nad yw wedi'i rewi.

(2) Mae i ymadroddion nad ydynt wedi'u diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny at ddibenion y Gyfarwyddeb.

Eithriadau

3.—(1) Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys—

(a) pan fo semen yn cael ei gasglu er mwyn ffrwythloni anifail buchol yn artiffisial â semen ffres;

(b) o ran yr anifail buchol y mae'r semen yn cael ei gasglu oddi wrtho—

(i) pan na fo Gorchymyn a wnaed o dan adrannau 6(c), 8, 17, 23, 25, 26 neu 29 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(10) yn effeithio arno adeg casglu'r semen; neu,

(ii) pan fo Gorchymyn o'r fath yn effeithio arno, ond bod defnyddio ei semen wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru; ac

(c) adeg ffrwythloni'r anifail buchol—

(i) pan fo'n perthyn i'r un perchennog ac yn yr un fuches â'r anifail buchol y casglwyd y semen oddi wrtho; a

(ii) pan fo'n cael ei gadw ar yr un fangre â'r anifail buchol hwnnw.

(2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo semen yn cael ei gasglu er mwyn—

(a) asesu pa mor addas yw anifail buchol i'w ddefnyddio at ddibenion bridio;

(b) diagnosio heintiad neu glefyd mewn anifail buchol; neu

(c) addysg neu ymchwil,

ar yr amod na chaiff y semen a gesglir ei ddefnyddio ar gyfer ffrwythloni artiffisial ac nad yw'n destun masnach ryng-Gymunedol.

(3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ymchwil a awdurdodir o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986(11).

(4) Nid yw'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y maent yn gymwys i semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol, yn gymwys i semen a gasglwyd ar neu cyn 31 Rhagfyr 1989.

RHAN 2 Trwyddedu canolfannau semen buchol a chymeradwyo anifeiliaid buchol

Trwyddedu canolfannau semen buchol

4.  Caiff Gweinidogion Cymru drwyddedu mangre fel a ganlyn—

(a) os yw'n cydymffurfio â Rhan 1 o Atodlen 1, fel mangre ar gyfer rhoi anifeiliaid buchol mewn cwarantîn (“canolfan gwarantîn CE”);

(b) os yw'n cydymffurfio â Rhan 2 o Atodlen 1, naill ai fel—

(i) mangre i gasglu, prosesu a rhoi mewn cwarantîn semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol (“canolfan gasglu CE”); neu

(ii) mangre i gasglu, prosesu a rhoi mewn cwarantîn semen nas bwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol (“canolfan gasglu ddomestig”); neu

(c) os yw'n cydymffurfio â Rhan 3 o Atodlen 1, naill ai fel—

(i) mangre i storio semen a fwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol (“canolfan storio CE”); neu

(ii) mangre i storio semen nas bwriedir ar gyfer masnach ryng-Gymunedol (“canolfan storio ddomestig”).

Cais am drwydded i weithredu canolfan semen buchol

5.  Rhaid i gais am drwydded i weithredu canolfan semen buchol—

(a) cael ei gyflwyno mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru;

(b) cael ei lofnodi gan y ceisydd am y drwydded a chan y milfeddyg a fydd yn gyfrifol am oruchwylio'r ganolfan yn filfeddygol (“milfeddyg y ganolfan”);

(c) nodi'r fangre y gwneir cais ar ei chyfer; ac

(ch) nodi'r drwydded y gwneir cais amdani.

Trwydded canolfan semen buchol

6.—(1) Rhaid i drwydded canolfan semen buchol a roddir o dan reoliad 4 nodi—

(a) cyfeiriad y ganolfan;

(b) rhif trwydded y ganolfan;

(c) deiliad y drwydded;

(ch) milfeddyg y ganolfan;

(d) y math o drwydded a roddir; ac

(dd) yr amodau y mae'r drwydded yn ddarostyngedig iddynt.

(2) Rhaid i drwydded fod mewn ysgrifen a chaniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy'n angenrheidiol—

(a) i sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn; neu

(b) i ddiogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.

Cymeradwyo anifail buchol

7.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi cymeradwyaeth i anifail buchol gael ei ddefnyddio mewn canolfan gasglu CE, canolfan gasglu ddomestig, neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu os caiff yr anifail hwnnw ganlyniad negyddol—

(a) i'r profion a nodir yn Atodlen 2, paragraff 2(1)(a) i (d) cyn iddo fynd i mewn i ganolfan gwarantîn CE; a

(b) i'r profion a nodir yn Atodlen 2, paragraff 3(1)(a) i (ch) a pharagraff 4(1)(a) ar ôl iddo fynd i mewn i ganolfan gwarantîn CE.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo anifail buchol er gwaethaf canlyniad cadarnhaol i'r profion serolegol a nodir yn Atodlen 2, paragraff 2(1)(d)(ii) neu yn Atodlen 2, paragraff 4(1)(b) neu yn y naill a'r llall.

(3) Caiff Gweinidogion Cymru roi cymeradwyaeth hefyd i anifail gael ei ddefnyddio mewn canolfan gasglu ddomestig, neu mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu, os yw'r anifail hwnnw wedi cael canlyniad negyddol i'r profion a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 8, paragraffau 2(a) i (c).

Cais am gymeradwyo anifail buchol

8.  Rhaid i unrhyw gais am gymeradwyo anifail buchol er mwyn casglu ei semen, neu ei ddefnyddio fel anifail ymlid, gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru gan neu ar ran ei berchennog a rhaid i'r cais hwnnw—

(a) nodi enw a brid yr anifail buchol;

(b) nodi'r rhif y mae modd ei adnabod drwyddo yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg; ac

(c) cael ei gyflwyno mewn ysgrifen a'i lofnodi gan neu ar ran y perchennog.

Ffurf ar gymeradwyaeth ar gyfer anifail buchol

9.—(1) Rhaid i gymeradwyaeth ar gyfer anifail buchol nodi—

(a) enw a brid yr anifail buchol;

(b) y rhif y mae modd ei adnabod drwyddo yn unol â'r rheoliadau adnabod gwartheg; ac

(c) unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig iddynt.

(2) Rhaid i gymeradwyaeth fod mewn ysgrifen a chaniateir ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw amodau sy'n angenrheidiol—

(a) i sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau'r Rheoliadau hyn; neu

(b) i ddiogelu iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid.

Cymeradwyo anifeiliaid buchol i'w defnyddio mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu

10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo defnyddio anifail buchol i gasglu ei semen, neu ei ddefnyddio fel anifail ymlid, mewn mangre sydd heb ei thrwyddedu am gyfnod nad yw'n hwy na 3 mis.

(2) Caiff Gweinidogion Cymru adnewyddu cymeradwyaeth o dan baragraff (1) am gyfnodau dilynol o hyd at 3 mis—

(a) os byddant yn cael y cais am adnewyddu'r gymeradwyaeth mewn ysgrifen, a'r cais hwnnw wedi'i lofnodi gan neu ar ran y perchennog, o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y mae'r gymeradwyaeth i fod i ddirwyn i ben; a

(b) os yw'r profion y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o Atodlen 8, paragraff 2(a) i (c) wedi'u cynnal eto, gyda chanlyniadau negyddol, ar yr anifail buchol y mae'r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef, heb fod yn hwy na 28 o ddiwrnodau cyn y dyddiad y mae'r gymeradwyaeth i fod i ddirwyn i ben.

(3) Os na fydd canlyniadau unrhyw un o'r profion a gynhaliwyd ar anifail buchol o dan baragraff (2)(b) ar gael tan ar ôl y dyddiad y mae ei gymeradwyaeth i fod i ddirwyn i ben, caiff Gweinidogion Cymru roi cymeradwyaeth dros dro.

(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cymeradwyaeth dros dro o dan baragraff (3), ni chaiff neb fasnachu unrhyw semen sydd—

(a) wedi ei gasglu o anifail buchol; neu

(b) wedi ei brosesu ar ôl ei gasglu felly,

hyd oni chadarnheir bod canlyniadau'r profion ar yr anifail buchol neu'r anifail ymlid a ddefnyddiwyd i gasglu'r semen hwnnw yn rhai negyddol.

(4)

OJ Rhif P 121, 29.7.1964, t. 1977. Ar ddyddiad y Rheoliadau hyn, cafodd y Gyfarwyddeb hon ei diwygio ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 599/2004 (OJ Rhif L 94, 31.3.2004, t. 44.) Back [4]

(5)

OJ Rhif L 194, 22.7.1988, t. 10. Ar ddyddiad y Rheoliadau hyn, cafodd y Gyfarwyddeb hon ei diwygio ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2006/16/Ec (OJ Rhif L 11, 17.1.2006, t. 21). Back [5]

(6)

1966 p.36. Back [6]

(7)

O.S. 2007/842 (Cy.74), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/3004 (Cy.260). Back [7]

(8)

OJ Rhif 204, 11.8.2000, t. 1. Back [8]

(9)

OJ Rhif L 117, 7.51997, t. 1. Back [9]

(10)

1981 p.22. Diddymwyd adran 17(4) gan Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984, adran 16(2) ac Atodlen 2. Back [10]

(11)

1986 p. 14. Back [11]