Rheoliad 31
1. Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 31(2) yw—
(a) enw a chyfeiriad y person y cyflenwir y semen iddo;
(b) y dyddiad y cafodd y semen ei anfon, a dull ei anfon;
(c) enw'r anifail buchol a roes y semen a ph'un ydoedd o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(ch) nifer y corsennau neu'r cynwysyddion eraill a gyflenwyd a'u cod adnabod.
2. Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 31(3) yw—
(a) enw a chyfeiriad y person a gyflenwodd y semen;
(b) y dyddiad y cafwyd y semen;
(c) enw'r anifail buchol a roes y semen a ph'un ydoedd o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(ch) nifer y corsennau neu'r cynwysyddion eraill a gyflenwyd a'r cod adnabod a ddyrannwyd i bob swp corsennau;
(d) nifer unrhyw gorsennau neu gynwysyddion eraill a niweidiwyd neu a ddistrywiwyd a'u cod adnabod.
3. Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 31(4) yw—
(a) enw'r anifail buchol a roes y semen a ph'un ydoedd o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(b) rhif y gorsen neu'r cynhwysydd arall a ddefnyddiwyd;
(c) cod adnabod y gorsen neu'r cynhwysydd arall;
(ch) rhif tag clust yr anifail buchol a ffrwythlonwyd;
(d) dyddiad y ffrwythloni.
4. Yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati yn rheoliad 31(5) yw—
(a) enw'r anifail buchol a roes y semen a ph'un ydoedd o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;
(b) rhif y gorsen neu'r cynhwysydd arall a ddistrywiwyd;
(c) cod adnabod y gorsen neu'r cynhwysydd arall;
(ch) dyddiad y distrywio.
Rheoliad 45
| Yr Offeryn | Y Cyfeirnod |
|---|---|
| Rheoliadau Mewnforio Semen Buchol 1984 | O.S. 1984/1325 |
| Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985 | O.S. 1985/1861 |
| Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Dulliau Rheoli Hysbysebu etc) (Prydain Fawr) 1987 | O.S. 1987/904 |
| Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1992 | O.S. 1992/671 |
| Rheoliadau Mewnforio Semen Buchol (Diwygio) 1993 | O.S. 1993/1966 |
| Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1995 | O.S. 1995/2549 |
| Yr Offeryn | Y Cyfeirnod |
|---|---|
| Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Trwyddedau Brys) (Cymru) 2001 | O.S. 2001/1539 (Cy.107) |
| Rheoliadau Ffrwythloni Artiffisial Gwartheg (Iechyd Anifeiliaid) (Diwygio) (Cymru) 2002 | O.S. 2002/1131 (Cy.118) |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ffrwythloni Gwartheg yn Artiffisial (Iechyd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 1985 (O.S. 1985/1861) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Maent yn gweithredu hefyd Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/43/EC (OJ Rhif L. 143, 11.6.2003, t. 23) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 88/407/EEC sy'n gosod y gofynion ynglŷn ag anifeiliaid sy'n gymwys i'r fasnach ryng-Gymunedol mewn semen anifeiliaid domestig o'r rhywogaeth fuchol ac i fewnforion o'r semen hwnnw (OJ Rhif L. 194, 22.7.1988, t.10).
Mae'r Rheoliadau hyn yn rheoli gwaith casglu, prosesu a storio semen buchol. Maent yn sefydlu dwy drefn: drwy'r naill caniateir i semen gael ei gasglu a'i brosesu i'w fasnachu ag Aelod-wladwriaethau eraill o'r UE, a thrwy'r llall caniateir i semen gael ei gasglu i'w ddefnyddio yn y DU.
Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol, gan gynnwys diffiniadau ac eithriadau. Mae Rhan 2 ac Atodlenni 1, 2 ac 8 yn darparu ar gyfer trwyddedu mangreoedd i fod yn ganolfannau semen buchol (a ddiffinnir yn rheoliad 2) ar gyfer cadw anifeiliaid buchol mewn cwarantîn, a chasglu a storio semen, gwneud ceisiadau am drwyddedau canolfan semen buchol a rhoi'r trwyddedau hynny, a chymeradwyo'r anifeiliaid buchol y caniateir i semen gael ei gasglu oddi wrthynt yng nghanolfannau semen y Gymuned Ewropeaidd (CE) a chanolfannau semen domestig, ac mewn mangreoedd sydd heb eu trwyddedu (a ddiffinnir yn rheoliad 2), ac ar gyfer cymeradwyo anifeiliaid ymlid (a ddiffinnir hefyd yn rheoliad 2).
Mae Rhan 3 ac Atodlenni 3 i 7 yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â chasglu semen. Mae Rhan 4 ac Atodlenni 8 a 9 yn nodi amodau ar gyfer casglu, prosesu a storio semen. Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau yn ymdrin â'u gweinyddu a'u gorfodi.
Mae Rheoliad 41 yn nodi'r ffioedd sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn, a'r rheini'n ffioedd am gostau yr oedd yn rhesymol eu tynnu. Mae'r costau cyfredol wedi'u nodi yn http://www.svs.gov.uk
Mae darpariaethau sy'n ymwneud â masnach y Gymuned Ewropeaidd (CE) mewn semen buchol wedi'u cynnwys hefyd yn Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007(19) a Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(20).
Mae methiant â chydymffurfio â'r Rheoliadau hyn yn dramgwydd o dan adran 10(6) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid 1984 (p. 40). Mae adran 10(4) o'r Ddeddf honno'n darparu pwerau i arolygwyr a benodwyd gan Weinidogion Cymru i orfodi'r Rheoliadau.
Nid oes asesiad effaith rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer yr offeryn hwn.