Office of Public Sector Information

Office of Public Sector Information

Main navigation

Supplementary menus and contents

Rheoliad 16

ATODLEN 6 Y mesurau sy'n gymwys i ganolfan storio ddomestig

1.  Yn ddarostyngedig i baragraff 2, rhaid i filfeddyg y ganolfan sicrhau—

(a) mai dim ond semen a gaiff ei storio yn y ganolfan;

(b) bod semen ond yn cael ei storio yn y ganolfan os cafodd ei gasglu a'i brosesu—

(i) yn unol â'r Rheoliadau hyn

(ii) yn gyfreithlon mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig; neu

(iii) yn unol â'r Gyfarwyddeb;

(c) na fydd yr asiant cryogenig a ddefnyddir wedi'i ddefnyddio o'r blaen ar gyfer cynhyrchion eraill sy'n dod o anifeiliaid;

(ch) bod pob dogn semen unigol yn cael ei selio, ei rifo a'i farcio'n glir fel bod modd cadarnhau'r wybodaeth ganlynol yn rhwydd—

(i) y dyddiad y casglwyd y semen;

(ii) p'un oedd yr anifail buchol a roes y semen o dan y rheoliadau adnabod gwartheg;

(iii) brid yr anifail buchol a roes y semen; a

(iv) rhif trwydded y ganolfan lle cafodd y semen ei gasglu (os yw'n gymwys).

2.  Er gwaethaf paragraff 1(a), caiff milfeddyg y ganolfan storio embryonau dwys-rewedig yn y ganolfan ar yr amod—

(a) bod y storio hwnnw wedi'i awdurdodi gan Weinidogion Cymru;

(b) bod y ganolfan yn bodloni gofynion rheoliadau 16, 17 a 18 o Reoliadau Embryonau Buchol (Eu Casglu, Eu Cynhyrchu a'u Trosglwyddo) 1995; ac

(c) bod yr embryonau yn cael eu storio mewn cynwysyddion storio ar wahân i'r rhai sy'n cynnwys semen.

Rheoliad 16

ATODLEN 7 Dyletswyddau gweithredwyr mangreoedd sydd heb eu trwyddedu

1.  Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu sicrhau—

(a) bod y lletyad lle mae'r anifeiliaid buchol, y mae semen i'w gasglu oddi wrthynt, yn cael eu cadw, a'r cyfleusterau casglu (os ydynt yn wahanol), wedi'u hadeiladu fel bod modd eu glanhau a'u diheintio'n rhwydd;

(b) bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu ar unwaith os bydd canlyniad unrhyw brawf, a gynhelir ar anifail buchol sydd yn y fangre, ar gyfer unrhyw glefyd y mae'n rhaid cynnal prawf amdano o dan y Rheoliadau hyn, yn dangos newid yn statws iechyd yr anifail buchol;

(c) bod y semen a gasglwyd yn cael ei symud i ganolfan gasglu CE neu ganolfan gasglu ddomestig i'w brosesu, ynghyd â dogfennau sy'n ardystio—

(i) bod yr anifail buchol yn bodloni gofynion rheoliadau 19(c), 19(ch) a 19(d) ar ddiwrnod casglu'r semen.

(ii) bod yr anifail buchol yn bodloni gofynion Rhannau 1 neu 2 o Atodlen 8;

(iii) bod y fangre sydd heb ei thrwyddedu yn bodloni'r gofynion yn rheoliad 20(2); a

(iv) bod y fangre y daeth yr anifail buchol ohoni yn bodloni'r gofynion yn rheoliad 22(6).

2.—(1) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu wneud cofnod o anifail buchol sydd i'w dderbyn ac—

(a) nad oedd yn perthyn i fuches a oedd yn swyddogol rydd rhag lewcosis buchol ensootig yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC; neu

(b) a oedd yn epil i fam na chafodd ganlyniad negyddol, ar ôl i'r anifail buchol gael ei symud oddi wrthi, i brawf a gynhaliwyd yn unol ag Atodlen D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC.

(2) Rhaid i weithredydd mangre sydd heb ei thrwyddedu drosglwyddo copi o unrhyw gofnod a wneir o dan is-baragraff (1) i filfeddyg canolfan y ganolfan gasglu y mae semen yr anifail buchol yn cael ei symud iddi i'w brosesu, a hynny heb fod yn hwyrach na dyddiad y symudiad hwnnw.

Rheoliad 7

ATODLEN 8 Symud anifeiliaid buchol er mwyn casglu semen

RHAN 1 Anifeiliaid buchol y caniateir eu symud i ganolfan gasglu CE, canolfan gasglu ddomestig neu fangre sydd heb ei thrwyddedu

Mae'r anifeiliaid buchol—

(a) wedi cwblhau 28 o ddiwrnodau cwarantîn mewn—

(i)

canolfan gwarantîn CE; neu

(ii)

canolfan gwarantîn a gymeradwywyd yn unol â pharagraff 1(a) o Bennod 1 Atodiad B i'r Gyfarwyddeb gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall neu ran arall o'r Deyrnas Unedig,

lle nad oedd ond anifeiliaid fforchog yr ewin eraill, yr oedd eu statws iechyd o leiaf yr un fath, yn bresennol; neu

(b) wedi cael y profion y cyfeiriwyd atynt yn Rhan 2 o Atodlen 3 yn ystod y 12 mis blaenorol ac wedi'u cadw mewn—

(i)

canolfan gasglu CE arall, neu

(ii)

canolfan casglu semen a awdurdodwyd o dan y Gyfarwyddeb yn unol â pharagraff 5 o Bennod 1 Atodiad B i'r Gyfarwyddeb, yn achos symud anifail buchol sy'n cael ei gadw mewn canolfan casglu semen a awdurdodwyd o dan y Gyfarwyddeb mewn Aelod-wladwriaeth arall neu ran arall o'r Deyrnas Unedig.

RHAN 2 Anifeiliaid buchol y caniateir eu symud i ganolfan gasglu ddomestig neu i fangre sydd heb ei thrwyddedu

1.  Yr oedd yr anifeiliaid buchol yn perthyn i fuches—

(a) a oedd yn swyddogol rydd rhag twbercwlosis yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC a rhaid i'r fuches beidio â chynnwys unrhyw anifeiliaid buchol sydd wedi dioddef gan adwaith cadarnhaol i brawf croen twbercwlin a gynhaliwyd yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC neu yr oedd canlyniad y prawf hwnnw arnynt yn amhendant; a

(b) yn swyddogol rydd rhag brwselosis yn unol â Chyfarwyddeb 64/432/EEC.

2.  Mae'r anifeiliaid buchol wedi cael y profion canlynol yn ystod yr 28 o ddiwrnodau cyn dyddiad eu derbyn i ganolfan gasglu ddomestig neu i fangre sydd heb ei thrwyddedu, gyda chanlyniadau negyddol—

(a) ar gyfer twbercwlosis buchol, prawf twbercwlin mewngroenol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad B i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;

(b) ar gyfer brwselosis buchol, prawf serolegol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a ddisgrifir yn Atodiad C i Gyfarwyddeb 64/432/EEC; ac

(c) ar gyfer lewcosis buchol ensootig, prawf serolegol a gynhaliwyd yn unol â'r weithdrefn a osodir yn Atodiad D (Pennod II) i Gyfarwyddeb 64/432/EEC;

3.  Fel dewis arall yn lle'r drefn ym mharagraffau 1 a 2, mae'r anifeiliaid buchol wedi'u cadw mewn canolfan gasglu ddomestig ac wedi cael y profion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 2 yn ystod y 12 mis blaenorol gyda chanlyniadau negyddol.